大象传媒

Bethan Gwanas

Bethan Gwanas

08 Chwefror 2012

Awdur poblogaidd sydd wedi troi ei llaw at gyflwyno rhaglenni teledu.

Dywed Bethan Gwanas iddi ddechrau ysgrifennu nofelau oherwydd fod ei ffrindiau yn cwyno nad oedd llyfrau Cymraeg da ar gael ar eu cyfer. Ers hynny mae wedi dod yn un o'n hawduron cyfoes mwyaf cynhyrchiol ac adnabyddus.

Yn ogystal 芒 gwneud bywoliaeth fel awdur mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu fel Ar y Lein, Byw yn yr Ardd a Byw yn 么l y Llyfr.

Ymddeolodd o'i swydd fel hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd yn 2003 er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa ysgrifennu.

Cyn hynny bu'n athrawes Ffrangeg (graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth), yn dysgu Saesneg yn Nigeria, yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn ac yn gynhyrchydd i Radio Cymru.

Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd yn 1985 am ei dyddiadur o'i chyfnod yn dysgu yn Nigeria, Dyddiadur Gbara.

Cafodd ei nofel am hynt a helynt t卯m rygbi merched, Amdani! ei gwneud yn gyfres deledu boblogaidd ac yn ddrama lwyfan.

Ymysg ei chyhoeddiadau eraill mae Cyfres Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr; Llinyn Tr么ns; Sg么r, nofel i'r arddegau; Byd Bethan, a'r nofel fentrus, Gwrach y Gwyllt.

Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og, sy'n anrhydeddu gwaith awduron llyfrau plant, ddwywaith - y tro cyntaf yn 2001 am Llinyn Tr么ns a'r ail yn 2003 am y nofel Sg么r a gyd-ysgrifennodd gyda chriw o ddisgyblion ysgol.

Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.

Wedi ei geni ar Ionawr 16 1962, cafodd Bethan ei magu yn ferch fferm yn y Brithdir ger Dolgellau, Meirionnydd, i s诺n canu bariton ei thad, yr enillydd Rhuban Glas, Tom Gwanas. Mae hi ei hun yn dweud nad ydi hi wedi etifeddu dawn leisiol ei thad.

Dywed mai ei hoff lyfr pan yn blentyn oedd Brownie Tales gan Enid Blyton. Erbyn hyn ei hoff awduron yn y Gymraeg ydy Islwyn Ffowc Elis a Geraint V Jones, ac yn Saesneg Roddy Doyle, Isabelle Allende, JK Rowling a Barbara Kingsolver.

Wedi byw ym Methesda, Caerdydd, Nigeria a Ffrainc mae bellach yn byw yn 么l yn ei hardal enedigol yn Rhydymain. Mae hi'n blogio'n gyson, yn ysgrifennu colofn i'r Daily Post Cymraeg ac yn cyfrannu at raglenni radio a theledu.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Llyfrau

A-Z Awduron

Cyfle i bori drwy ein harchif a darganfod mwy am awduron Cymru.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.