大象传媒

Bryn Terfel

Bryn Terfel

Mae llais b芒s-bariton Bryn Terfel Jones yn un o'r lleisiau opera mwyaf adnabyddus a llwyddiannus ar draws y byd i gyd.

Mae Bryn Terfel yn fab i Hefin a Nesta Jones ac fe'i magwyd ar fferm Nant Cyll Uchaf, Pant Glas ger Garndolbenmaen. Daeth ei ddoniau i'r amlwg yn fuan iawn a dechreuodd gael gwersi canu gan hen ffrind i'r teulu, Selyf Jones, yn bedair oed.

Erbyn iddo gyrraedd Ysgol Gerdd y Guildhall yn 1984 roedd eisoes wedi ennill cystadlaethau lu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yno dechreuodd weithio gyda'i athro llais presennol, Rudolf Piernay, gan ennill medal aur y Guildhall ac Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier.

Yn 么l y beirniaid, cyfuniad o lais gwych, ynganu cywir, presenoldeb llwyfan a dawn actio sy'n ei wneud yn un o gantorion opera gorau ei ddydd. Mae wedi perfformio yn nhai opera mwya'r byd gan ganu gwaith cyfansoddwyr mor amrywiol 芒 Mozart, Wagner, Puccini, Stravinsky, Verdi a Britten.

Ers iddo ennill y wobr Lieder yng nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd yn 1989, mae Bryn mynd ymlaen i ennill rhai o brif gystadlaethau'r byd opera ac wedi recordio sawl albwm o ganeuon gan Schubert, Schumman a Vaughan Williams. Mae hefyd wedi rhyddhau dwy CD o ganeuon sioe gerdd gan gynnwys gweithiau gan Rogers ac Hammerstein a Lerner a Loewe heb s么n am ei waith i gwmni Sain.

Rhoddodd Bryn ei berfformiad cerddorol proffesiynol cyntaf gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru fel Guglielmo yn Cosi Fan Tutte gan Mozart ym 1990 cyn cymryd un o'i rannau enwocaf, sef Figaro, yn ei ymddangosiad cyntaf yn America gyda Chwmni Opera Santa Fe. Ond fe ddaeth ei gyfle mawr fel Jochanaan yn Salome yng Ngwyl Salzburg yn Awstria.

Sefydlodd ei 诺yl gerddorol ei hun sef G诺yl y Faenol ac wedi llwyddo i gael rhai o s锚r amlycaf byd yr opera, pop a sioeau cerdd Llundain i deithio i Wynedd i ddiddanu'r torfeydd.

Fe wnaeth hefyd gefnogi'r ymgyrch i sicrhau cartref teilwng i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a threfnwyd iddo chwarae'r brif ran yn The Flying Dutchman gyda'r cwmni yn 2006 yn Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, a agorodd yn 2004.

Yn 么l Bryn ei hun, un o brofiadau mwyaf ei fywyd oedd canu yn agoriad Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd efo Shirley Bassey a pherfformio Rule Britannia yn noson ola'r Proms yn Llundain gyda draig goch tegan dan ei gesail.


  • Llyfrnodi gyda:

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

    Blwyddyn Gron

    Calendr

    Misoedd

    Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

    Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    大象传媒 iD

    Llywio drwy鈥檙 大象传媒

    大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.