大象传媒

Emily Huws

Emily Huws

Awdures llyfrau plant a addasodd lyfr cyntaf Harry Potter i'r Gymraeg.

Cefndir

Mae Emily Huws yn dal i fyw yn y bwthyn bach lle cafodd ei magu yng Nghaeathro ger Caernarfon. Ganwyd hi ar Fawrth 3 1942.

Er iddi ddysgu am dros ugain mlynedd yn Ysgol Gynradd y Bontnewydd, daeth yn adnabyddus fel un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae hi wedi ennill gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i faes llenyddiaeth plant. Fel plentyn, hoff awdur Emily Huws oedd Elizabeth Watkin Jones, yn enwedig meddai, Plant y Mynachdy a'i nofel enwog, Luned Bengoch.

Mae hi wastad wedi bod yn hoff iawn o anifeiliaid hefyd ac maent wedi bod yn rhan bwysig iawn o nifer o'i straeon, fel cyfres Merlyn Marian, Gel, Jinj a Piwma Tash. Ar hyn o bryd, mae hi'n byw gartref yng nghwmni Wmffra y ci, Twm, Sal a Mati'r cathod, Cim y fuwch Jersey a Nel yr oen llywaeth!

Pleser Ysgrifennu

Ei phleser arall wrth gwrs yw ysgrifennu. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Gwyliau Rhian yn y Syrcas, yn 1975, a dywed mai'r hwyl mwyaf wrth ysgrifennu llyfr newydd yw meddwl am stori, ac yna mynd at i'w hadrodd.

Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau ei hun mae Emily Huws hefyd yn enwog am gyfieithu nifer o glasuron yr iaith Saesneg i'r Gymraeg, yn eu plith straeon Beatrix Potter a Roald Dahl.

Ond efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus yn ddiweddar am ei chyfieithiad o un o lyfrau mwyaf poblogaidd ein hoes Harry Potter and the Philosopher's Stone, sef Harri Potter a Maen yr Athronydd.

Meddai Emily: "Gwynebais anawsterau arbennig nad oeddwn wedi eu profi o'r blaen wrth gyfieithu Harri Potter.

"Mae gan JK Rowling ffordd mor wych gyda iaith, gan ei bod wedi gwneud geiriau i fyny o'i dychymyg, ac fe wes i fy ngorau i gadw'n ffyddlon i'w hystyr gwreiddiol."

Yn 2009 cyfieithodd lyfr arall enwog i blant, 'The Boy in the Striped Pyjamas' sef 'Y Bachgen Mewn Pyjamas'. Enillodd wobr Tir Na Nog arall am ei chyfrol gwreiddiol, 'Bownsio' yn yr un flwyddyn.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.