Cuddio'i dalent
Roedd Welsh a Driscoll yn arbennig a byddent yn sicr yn trechu bocswyr heddiw. Roedden nhw mewn dosbarth cwbl unigryw.
Billy Eynon (1977)
Yn wahanol i focswyr enwog eraill o Gymru yn yr 20fed Ganrif, roedd Frederick Hall Thomas yn dod o gefndir cyfoethog.
Dechreuodd ddefnyddio yr enw 'Welsh' er mwyn cuddio o'i deulu y ffaith ei fod e'n focsiwr proffesiynol!
Yn fab i arwerthwr o Bontypridd, ganwyd Freddie ar y 5 o Fawrth 1886. Roedd e'n blentyn s芒l iawn ac felly fe'i anfonwyd i California er mwyn ceisio gwella ei iechyd. Dechreuodd focsio fel ffordd i gryfhau ei gorff ond yn fuan darganfu fod ganddo cryn dalent yn y maes. Dechreuodd wneud enw iddo'i hun yn Efrog Newydd.
Cafodd Welsh drafferth wrth ymgeisio i gael y Teitl Byd - nid oedd yn cael y gornestau cywir oherwydd roedd ei arddull o ymladd - osgoi a blino ei wrthwynebwr - yn amhoblogaidd. Roedd ei ornest enwog yn erbyn Jim Driscoll, Bocsiwr Cymreig arall o Gaerdydd yn 1907 yn frwydr a achosodd gryn rhwystredigaeth i'w dilynwyr. Doedd dim modd dyfarnu buddugwr oherwydd i Driscoll ymladd yn frwnt yn erbyn Welsh a chafodd ei ddiarddel o'r ornest. Cred llawer mai Welsh fyddai wedi ennill yr ornest honno ta beth gan ei fod yn drech na Driscoll.
Diwedd truenus
![Freddie Welsh Freddie Welsh](/staticarchive/fda28dd0c66461d5192e1d1e776f9a30a96d02f4.jpg)
Fe ddaeth ei gyfle yn Llundain, pythefnos cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, pan drechodd Willie Ritchie, Pencampwr Pwysau Ysgafn y Byd, yn 1914.
Dychwelodd Welsh i'r Unol Daleithau lle gafodd sawl gornest am arian mawr, ond roedd dadlau am ei fod yn manteisio ar y 'rheol dim dyfarniad' i'w helpu i gadw ei deitl.
Wedi gwneud ei ffortiwn ac ymddeol, fe gollodd Welsh y cyfan oedd ganddo ac fe'i ddarganfuwyd yn farw yn ei fflat yn Efrog Newydd yn 1927 yn 41 oed.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn