大象传媒

Hugh Griffith

Hugh Griffith

Yn 么l yr hanes, pan ofynnwyd i Hugh Griffith "siarad rywbeth yn debyg i Arabeg" yn Ben-Hur, siaradodd mewn Cymraeg gan wneud i bawb o'i gwmpas feddwl ei fod yn medru Arabeg.

Mae Hugh Emrys Griffith yn un o'r Cymry prin hynny i ddod i'r brig ac ennill parch yn Hollywood a hynny flynyddoedd cyn i neb glywed s么n am Ioan Gruffudd.

Ganwyd Hugh Griffith ym Marian-Glas, Ynys M么n, yn fab i William a Mary Griffith ac fe'i haddysgwyd yn yr ysgol leol. Yn ddiweddarach fe safodd arholiadau i'r brifysgol ond fe fethodd y papur Saesneg a chafodd gyngor i ddewis gyrfa saffach mewn banc. Bu Hugh Griffith yn gweithio ar draws y gogledd i gwmni National Provincial yn Llandudno, Llangefni, yr Wyddgrug ac Abersoch.

Ond yn ei amser hamdden roedd yn hyfforddi aelodau ifanc yr Urdd mewn drama ac roedd yn awyddus i fod yn actor ei hun. Ar 么l symud i weithio yn Llundain, fe ymunodd 芒 Theatr y Bobl yn St Pancras gan ennill lle yn RADA yn ddiweddarach - yr uchaf ar restr o 300.

Roedd Hugh yn ei nefoedd yn RADA. Enillodd Wobr Aur Bancroft fel actor Shakespearaidd gorau ei flwyddyn gan ennill bri arbennig yn chwarae'r Brenin Ll欧r. Ond pan ddaeth y rhyfel, roedd rhaid iddo gymryd hoe o'i yrfa a mynd i wasanaethu fel milwr yn India a Burma.

Ond ar 么l adennill ei iechyd, fe ddychwelodd i'r llwyfan fel aelod o Gwmni Brenhinol Shakespeare cyn mynd i Hollywood efo'i briod Margaret Belgunder von Dechend yn 1947.

Fe gafodd ran yn un o ffilmiau enwoca'r ganrif ddiwethaf sef Ben-Hur fel Sheik Ilderim, cyfaill i'r tywysog Judah Ben-Hur a chwaraewyd gan Charlton Heston. Enillodd y ddau eu hunig Oscar fel actorion am eu rhannau yn Ben-Hur yn 1959 - Griffith am yr actor cynorthwyol gorau a Charlton Heston am yr actor gorau. Mae'r ffilm yn un o'r ychydig i gipio 11 Gwobr Academi.

Fe enwebwyd Griffith am Oscar eto ym 1963 am ei ran yn y ffilm Tom Jones ac hefyd yn y ffilm Oliver.

Daliodd ati i weithio tan ei farwolaeth yn 1980 gan chwarae rhannau mewn ffilmiau megis The Last Days of Dolwyn, The Sleeping Tiger, Exodus, Cry of the Banshee, Wuthering Heights, Loving Cousins, The Titfield Thunderbolt ar Passover Plot. Fe fydd gwylwyr teledu a dilynwyr rygbi yn cofio'i bortread o drefnwr angladdau yn y ddrama-gomedi Grand Slam efo Windsor Davies.

Roedd Oscar Hugh Griffith yn cael ei gadw yng nghartref chwaer Hugh Griffith, Elen Roger Jones, hithau hefyd yn actores agos iawn at galon cynulleidfaoedd a gwylwyr teledu yng Nghymru.

Os methodd Hugh Griffith 芒 mynd i'r brifysgol y tro cyntaf, cyflwynwyd gradd Doethur Ll锚n er anrhydedd iddo cyn ei farwolaeth ym 1980 gan Goleg Prifysgol Bangor. Mae carreg goffa iddo ar wal ei hen ysgol gynradd ym Marian-Glas.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.