大象传媒

Huw Edwards

Huw Edwards

Newyddiadurwr a phrif gyflwynydd rhaglen Newyddion y 大象传媒.

Bywyd cynnar

Cyw newyddiadurwr yn Sain Abertawe oedd Huw cyn ymuno 芒'r 大象传媒, ond bellach mae'n cyflwyno Newyddion y 大象传媒 ac un o'i phrif ohebwyr.

Yn 1986, cafodd swydd fel newyddiadurwr gwleidyddol i 大象传媒 Cymru a chael ei benodi'n brif ohebydd seneddol newyddion y 大象传媒.

Ganwyd Huw yn Llangennech yn 1961 yn fab i Hywel Teifi Edwards, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Abertawe. Roedd ei fam yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Llanelli ac yno y bu Huw hefyd yn ei arddegau. Er iddo fwynhau yr ysgol yn fawr, mae'n disgrifio'i hun fel dipyn o swot!

Ar 么l cwblhau cwrs Lefel A, fe aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg. Doedd gan Huw ddim cynlluniau pendant am y dyfodol wrth adael Coleg, a chyfaill iddo gynigiodd y syniad o gyflwyno ar orsaf radio lleol.

Symud a San Steffan

Yno yn Sain Abertawe y gwelodd Huw hysbyseb am gynllun hyfforddiant newyddion 大象传媒 a gwneud cais am le yn 1984.

Ymhen dwy flynedd yn unig, Huw oedd gohebydd senedddol 大象传媒 Cymru a dwy flynedd yn ddiweddarach fe'i benodwyd yn ohebydd teledu newyddion gwleidyddol. Symudodd Huw i Lundain gan fod ei waith yn bennaf yn San Steffan. Mae Huw yn mynnu ei fod yn colli cynnwrf San Steffan ond mae'n dal i fanteisio ar y rhestr hir o gysylltiadau gwleidyddol defnyddiol iawn, yn enwedig o blith cabinet cyntaf Tony Blair, a wnaeth yn ystod y cyfnod.

Ym Mai 1999, daeth Huw i sylw'r cyhoedd pan benodwyd ef yn gyflwynydd newyddion 6 大象传媒 Un ac yn 2003 yn brif gyflwynydd newyddion deg sef prif raglen newyddion y 大象传媒.

Mae Huw yn Gymro brwd iawn, ac er ei fod yn byw yn Llundain mae ef a'i deulu yn mynychu capel Cymraeg ac mae Huw yn siarad Cymraeg gyda'i blant adref.

BAFTA'n galw

Fe gafodd gyfle i rannu'i genadwri dros y Gymraeg mewn cyfres Saesneg ar hanes y Gymraeg sef 'The Story of Welsh'. Roedd y gyfres yn llwyddiant enfawr i 大象传媒 Cymru - ac enillodd Huw Edwards wobr BAFTA Cymru am y 'Cyflwynydd Gorau ar y Sgrin' am ei waith ar y rhaglen hon, ar Ebrill 24, 2004.

Bu Huw hefyd yn cyflwyno cyfres Saesneg arall 'The Exchange' sef rhaglen drafod ar faterion Cymreig cyfoes. Yn fwy diweddar cyflwynodd raglen am Ganmlwyddiant Terfysgoedd Llanelli ac mae'n paratoi ar gyfer cyfres fawr, 'The Story of Wales' ar gyfer y 大象传媒 fydd yn cael ei darlledu yn 2012.

Ef hefyd oedd prif sylwebydd y 大象传媒 ar achlysur Priodas Tywysog William a Kate Middleton ym mis Ebrill 2011. Roedd 20 miliwn o bobl yn gwylio yn y DU yn unig.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.