Cyn ymosodwr Cymru, Arsenal, West Ham a Celtic, daeth ei yrfa rhyngwladol i Gymru i ben yn annisgwyl yn Chwefror 2006. Ers hynny mae wedi dangos dewrder mawr yn brwydro'n llwyddiannus yn erbyn cancr.
Celtic a Chymru
Datblygodd John Hartson, cyn ymosodwr o Celtic a Chymru, yn un o sgorwyr mwyaf cyson Prydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn gynnar yn ystod ei yrfa, bu'n chwarae i Luton Town, Arsenal, West Ham United a Coventry City cyn symud i'r Alban at Celtic.
Daeth ei yrfa rhyngwladol i Gymru i ben yn annisgwyl yn Chwefror 2006, wrth iddo gyhoeddi ei fod yn gadael carfan Cymru i ganolbwyntio ar b锚l-droed gyda'i glwb.
Yn Gymro Cymraeg, magwyd John Hartson yn y Trallwn, Llansamlet ar Ebrill 5 1975. Roedd p锚l-droed yn ei waed gan i'w dad Cyril chwarae i d卯m p锚l-droed Llanelli yn ystod y 1970au. Mae rhai o atgofion plentyndod hapusaf John yn cynnwys mynd i weld y Swans yn chwarae ar y Vetch efo'i ffrindiau a chael pastai a sglods ar y ffordd adref!
Sgoriwr o fri
Yn 17 oed fe aeth John i Luton dan hyfforddiant ac ers 1992 mae wedi chwarae i chwech o'r prif d卯mau.
Gwireddwyd addewid cynnar John pan symudodd i Arsenal am 拢2.5 miliwn ond yn dilyn symudiad Denis Bergkamp yno, doedd ei le yn y t卯m ddim yn sicr felly fe symudodd Hartson i West Ham. Fe aeth Hartson i helynt yn dilyn ei ffrae gyda'i gyd chwaraewr Eyal Berkovic.
Symudodd i Wimbledon yn 1999 ond cafodd ei gyfnod gyda'r Dons ei amharu gan gyfres o anafiadau ac fe fethodd brofion meddygol a'i rwystrodd rhag ymuno gyda Rangers a Spurs.
Ond fe symudodd i Coventry yn 2001 ac fe ffurfiodd bartneriaeth gyda'i gyd-Gymro Craig Bellamy. Byr iawn y bu ei gyfnod yn Highfield Road oherwydd yn Awst 2001 fe ymunodd 芒 Celtic am 拢6.5m, trosglwyddiad wnaeth atgyfodi ei yrfa.
Sgoriodd g么l wych yn Anfield wrth i Celtic drechu Lerpwl yn ail gymal rownd yr wyth olaf cyn trechu Boavista yn y rownd gyn derfynol. Yn Gymro tanbaid, mae John wedi mynegi ei ddiolch am ffydd Mark Hughes ynddo ar 么l cychwyn digon siomedig i'w yrfa dan arweiniad Bobby Gould.
Trechu Cancr
Wedi cyfnod llwyddiannus yn yr Alban gyda Celtic, symudodd John i West Brom cyn ymddeol yn 2008.
O 2009-2010 Bu John Hartson yn brwydro yn erbyn canser y ceilliau. Roedd yr afiechyd wedi lledu i'w ysgyfaint a'i ymennydd a bu'n rhaid iddo ddioddef 67 triniaeth o chemotherapi. Diolch byth, fe lwyddodd i wella o'r clefyd ac ers hynny mae wedi bod yn brysur iawn yn ymgyrchu dros godi ymwybyddiaeth ymysg dynion o gancr o'r fath hwn. Bu ganddo lympiau ar ei geilliau am flynyddoedd a doedd e ddim yn ymwybodol nes ei bod hi bron yn rhy hwyr eu bod yn arwyddion o gancr difrifol.
Cyhoeddodd ei hunangofiant yn disgrifio ei brofiadau hefo'r salwch ym mis Awst 2011.