Prif orchest J. Kitchener Davies, yn ddiau, oedd ei bryddest 'S诺n y Gwynt sy'n Chwythu', a ddarlledwyd gan y 大象传媒 pan oedd y bardd ar ei wely angau ym 1952. Ond roedd e'n dipyn mwy na bardd...
Rhinweddau newydd
Diolch i M. Wynn Thomas, un o'n beirniaid craffaf, rydym yn dechrau gweld rhinweddau yng ngweddill ei waith ac yn darganfod agweddau newydd ar ei fywyd hefyd.
Fe'i cofir, yn ogystal, fel un o arweinwyr Plaid Cymru yn y Rhondda, ac yn weithiwr diflino dros ysgolion Cymraeg yn y Cwm.
Roedd yn genedlaetholwr o argyhoeddiad dwfn a brwydrodd yn galed yn erbyn y Blaid Lafur a'i chynrychiolwyr lleol.
Er bod y cof am y dyn yn dechrau pylu, mae ei egni, ei ddyfalbarhad a'i bersonoliaeth garismatig wedi mynd yn chwedlonol ymhlith cefnogwyr yr achos cenedlaethol yng nghymoedd y De.
Cardi Caron
Ganwyd James Kitchener Davies yn 1902 a magwyd ef mewn tyddyn yn ardal Cors Caron, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Tregaron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gadawodd marwolaeth ei fam, ac ail briodas ei dad, graith annileadwy ar ei gymeriad.
Ymsefydlodd yn y Rhondda ym 1926 (blwyddyn y Streic Gyffredinol) ac yno treuliodd weddill ei oes yn athro Cymraeg yn ysgolion y Cwm. Un o'r tair o'i ferched yw'r awdures arobryn, Manon Rhys.
Gyda'i ddrama tair-act 'Cwm Glo', a anfonwyd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym 1934, gwelwyd fod dramodydd talentog wedi codi ei ben.
Creu Cynnwrf
Achosodd y ddrama gryn gynnwrf ar gyfrif ei bortread di-flewyn-ar-dafod o gyflwr materol a moesol cymoedd y De, gan gynnwys rhywioldeb y merched.
Barn y beirniaid oedd nad oedd y ddrama yn addas i'w llwyfannu ac atalwyd y wobr. Bu cyffro drachefn pan gyhoeddwyd y gwaith a'i berfformio yn Abertawe ac yna ar hyd a lled y De, a pharhaodd y dadlau yngl欧n 芒'i gywirdeb yn y wasg Saesneg a Chymraeg.
Nid oedd ei waith nesaf, drama fydryddol yn dwyn y teitl Meini Gwagedd (1945), mor dadleuol: rhithau yw'r cymeriadau sydd wedi crwydro o'u beddau yn ardal Llwynpiod ger Tregaron.
Brad ac euogrwydd yw ei them芒u a'r teimlad o golled oedd yn debyg i'r un a brofodd yr awdur ar 么l ail briodas pan oedd yn gorfod symud o'r fro.
Cerdd y Ganrif
Ond yn anad dim am y bryddest 'S诺n y Gwynt sy'n Chwythu' y cofir am J. Kitchener Davies heddiw.
Yn 么l Gwenallt, hon oedd 'un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif'.
Monolog ddramatig yw'r gerdd am bererindod ysbrydol a pholiticaidd y bardd, o ardal amaethyddol ei febyd i anialdir diwydiannol y Rhondda.
Trwyddi draw mae'r gwynt yn cynrychioli'r pwerau dinistriol y bu'r bardd yn ceisio eu gwrthsefyll ar hyd ei oes.
Mae ei grym anghyfforddus yn deillio o onestrwydd chwerw ei hunanymholiad a'i ymchwiliad didostur i'w amcanion ei hun, ac erbyn y diwedd mae'r gwynt yn ei ysgubo, er ei waethaf, at lwybr y sant.
Mae'r bryddest yn datgan ffydd bersonol yn ogystal 芒'r argyfwng deallusol y teimlodd cenhedlaeth gyfan a wnaeth wleidyddiaeth yn rhan allweddol o'u crefydd.
Bu farw 'Kitch' yn ifanc, roedd yn 50 oed pan fu farw yn 1952. Cyhoeddwyd Gwaith James Kitchener Davies o dan olygyddiaeth ei weddw Mair ym 1980 a detholiad o'i waith (gol. Manon Rhys ac M. Wynn Thomas) ym 2002.
Ceir plac er cof am J. Kitchener Davies ar y t欧 yn Heol Brithweunydd, Trealaw, lle trigodd gyda'i deulu, ac un arall ar wal y capel yn Llwynpiod.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn