大象传媒

Mark Hughes

Mark Hughes

Dyma un o b锚l droedwyr mwyaf llwyddiannus Cymru. Bellach mae'n adnabyddus fel rheolwr ac wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am adael Clwb P锚ldroed Fulham o dan gysgod.

Talent cynnar

Ganwyd Mark Hughes ar Dachwedd 1 1963 yn Rhiwabon ger Wrecsam ac mae o'n un o'r p锚l-droedwyr mwyaf llwyddiannus o'r ardal.

Yn 么l Mark, ei deulu a'i athrawon ymarfer corff fu'n gyfrifol am ei lwyddiant. Wrth chwarae dros ei wlad mewn twrnament dan 12 fe wnaeth argraff fawr ar sgowtiaid o Fanceinion ac fe arwyddodd yn 14 oed i chwarae i d卯m ieuenctid Manchester United.

Mewn gyrfa a ddylanwadwyd yn drwm gan y 'Red Devils', fe chwaraeodd dros Gymru saith deg o weithiau gan sgorio 16 o goliau. Blwyddyn fawr gyntaf Mark oedd 1984 pan sgoriodd y g么l enillodd y g锚m i Gymru 1-0 yn erbyn Lloegr yn yr olaf un o'r g锚mau rhyngwladol cartref.

Aeth gyrfa Mark 芒 fe dramor am sbel ddwy waith, i Bayern Munich a Barcelona. Synnodd Alex Ferguson ei gefnogwyr wrth werthu Hughes i Chelsea yn 1995 ar 么l iddo fod yn Old Trafford am saith mlynedd. Yn eironig ddigon fe blesiodd hyn Mark gan mai nhw oedd ei hoff d卯m yn fachgen ifanc.

Troi at reoli

Fe symudodd o Stamford Bridge am sbel i Southampton cyn symud i Blackburn ac yna i'r swydd fel rheolwr t卯m Cymru, cyn symud yn 么l i Blackburn eto. Bu'n amlwg iawn yn arwain Cymru fel hyfforddwr yn yr ymdrech i gyrraedd Cwpan Ewrop 2004. Ym Mehefin 2008 fe'i penodwyd yn rheolwr newydd Manchester City.

Ond wedi prin deunaw mis wrth y llyw, fe wnaeth Manchester City gael ei wared e fel rheolwr gan enwi Roberto Mancini fel ei olynydd. Fe gafodd ei benodi wedyn yn reolwr clwb Fulham ond fe benderfynodd adael y clwb ym Mehefin 2011 i fawr ddigofaint perchennog y clwb, Mohamed Al Fayed.

Dywedodd Al Fayed bod Mark Hughes yn 'ddyn oedd wedi colli ei sbarc'. Roedd yn amlwg yn ddig bod Hughes wedi son yn ei ddatganiad am adael y clwb nad oedd uchelgais Fulham yn cydfynd gyda'i uchelgais e lle'r oedd dyfodol y clwb yn y cwestiwn.

Roedd Al Fayed yn ynfyd a danfonodd lythyr agored i'r wasg. Meddai ef, 'Dyna ddyn rhyfedd yw Mark Hughes. Wedi ei sacio gan Manchester City, roedd yna berygl y byddai'n angof os na fydden i wedi ei achub e a rhoi gwaith iddo fel Rheolwr Clwb Fulham... Ar y dydd oedd e fod i arwyddo estyniad o ddwy flynedd ar ei gytundeb, fe gerddodd allan heb unrhyw gwrteisi nag esboniad llawn.'

Cred llawer bod Al Fayed wedi gor-ymateb a bod dim bwriad gan Hughes i'w danseilio ef na'r clwb.

Y si a'r s么n ar ddiwedd Hydref 2011 oedd bod Hughes yn ail ffefryn i gymryd yr awennau wrth Sven-Goran Eriksson fel rheolwr Leicester City ond arwyddod fel rheolwr Queens Park Rangers fis Ionawr 2012.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.