Bydd Rachel Roberts bob amser yn cael ei chofio am ei rhannau ffilm lle mae'n cyfleu merched rhwystredig. Enillodd wobrau BAFTA am ei pherfformiadau, a nomineiddiwyd hi am yr Oscar hefyd ond bu farw o dan amgylchiadau trasig.
Yr eneth o Lanelli
Roedd Rachel Roberts yn gymeriad cymhleth. Ganwyd hi ar y 20 o Fedi 1927 a chafodd ei magu yn ferch y Mans yn Llanelli. Mae dylawnad ei magwraeth Piwritanaidd Cymreig yn amlwg yn ei dyddiaduron a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth, 'No Bells on Sunday.' Mae'r teitl yn cyfeirio at y ffaith nad oedd 'clychau'r llan' yn canu yn L.A. lle diweddodd ei hoes, fel ag yr oeddent yng Nghymru. A dyma un o'r gwrthdrawiadau yn ei bywyd -ei chefndir Cymreig rhwystredig a chrefyddol yn erbyn tinsel, sbloet a themtasiynau Hollywood.
Mae ei stori yn drasiedi -yn stori serch a cholled wrth iddi briodi cariad ei hoes, yr actor enwog, Rex Harrison, ond ei golli i fenyw arall wedi 9 mlynedd o briodas. (1962-1971). Amheuai Rachel nad oedd Rex erioed wedi dod dros marwolaeth ei wraig Kay Kendall, a gollodd ei bywyd yn ifanc iawn, yn ei thridegau cynnar, o Leukaemia. Teimlai'n eilradd i'r Kay brydferth a brwydrodd i fod yn 'wraig berffaith' i 'Reg' fel y galwai Rex (ei enw llawn e oedd Reginald). Ond 'doedd Rex ddim yn ddyn hawdd i'w blesio gan iddo gael chwech gwraig yn ei fywyd hir!
Aberystwyth a thu hwnt
Fel esboniodd Rachel mewn cyfweliad gyda HTV yn y 60gau; roedd ei mam a'i thad am iddi fynd i Goleg ac hyfforddi i fod yn athrawes. A dyna beth a wnaeth hi gan fynychu Prifysgol Aberystwyth yn y 40gau canol. Ond cofiai ei chyd-fyfyrwyr y ferch 'ddoniol, uchel ei chloch, yn hongian ei phen tu allan i ffenest Neuadd Alexandra ar y prom yn chwerthin ar y bechgyn wrth iddynt gerdded heibio.' Roedd Rachel bob amser yn creu argraff gyda'i chymeriad digri, allblyg a dros ben llestri. Roedd yr actores ynddi yn drech na'r athrawes!
Penderfynodd gicio'n erbyn y tresi a dilyn ei chalon i RADA lle'r astudiodd fel actores. Cafodd waith fel rhan o gwmni theatr yn Abertawe lle wnaeth hi gyfarfod ag enaid hoff gytun, yr actor, Kenneth Williams, (o'r ffilmiau 'Carry On') a ddaeth yn gyfaill oes. Roedd hefyd yn gyfeillion agos gyda gwraig gyntaf Richard Burton, Sybil, am flynyddoedd.
Enillodd Rachel ei rhan ffilm gyntaf, yn y ffilm Gymreig, 'Valley of Song' (1953) yn chwarae rhan gomig Bessie'r forwyn. Ond daeth ei chyfle mawr pan gafodd gynnag rhan yn ffilm bwerus Lindsay Anderson yn 1960, 'Saturday Night and Sunday Morning' (1960), fel y fenyw briod chwantus sy'n cael ei hudo gan y gweithiwr ffatri cignoeth (Albert Finney). Enillodd ei BAFTA cyntaf am y rhan yma.
Daeth BAFTA arall iddi wrth iddi gymryd rhan mewn ffilm arall o stabl Lindsay Anderson. Roedd rhan Mrs Hammond yn y ffilm, 'This Sporting Life' (1963) yn wahanol i'w chymeriad yn 'Saturday Night'. Dangosai ddawn Rachel i bortreadu menywod sy'n ymddangos eu bod mewn rheolaeth ar yr wyneb ond bod yna afreolaeth, chwant a nwyd yn berwi o dan y mwgwd.
Dyma'r math newydd o Ffilm y cyfnod, y ddrama 'sinc-cegin'. Roedd yn gyfle gwych i Rachel i ddangos ei doniau'n llawn yn portreadu'r weddw sy'n cael ei phoenydio gan ei heuogrwydd am ddyheu ei 'lodger' ifanc, y chwaraewr rygbi gwrywaidd, Machin, (Richard Harris).
Llwyddiant byd eang
Yn y ffilm 'O Lucky Man' (1973), roedd ei chymeriad yn cyflawni hunanladdiad oedd yn eironig o ystyried tranc Rachel ei hun. Yma roedd hi'n portreadu dynes oedd yn obsesiynu am ei chartref a chadw lle cymen a'i han-allu i ddelio gyda bywyd.
Roedd ganddi'r ddawn hefyd i chwarae'r gnawes gignoeth fel ag y wnaeth ar lwyfan yn y ddrama, 'Alpha Beta' (1973), unwaith eto gydag Albert Finney. Roedd yn hynod drawiadol hefyd yn ffilm y 'New Wave' Awstraliaidd, 'Picnic at Hanging Rock' (1976) gan Peter Weir, (cyfarwyddwr 'The Truman Show' yn y dyfodol). Roedd yna rywbeth trist iawn yn ei gwylio yn portreadu Mrs Appleyard yr athrawes, gyda'i 'byn' gwallt bler yn yfed ei hun i farwolaeth.
Nid oedd y perfformiad comig wnaeth hi gyflwyno yn y ffilm, 'Foul Play' (1975) gyda Chevy Chase a Goldie Hawn yn deilwng o'i doniau. Er dangosodd hi dalent yn trywanu Burgess Meredith druan gyda 'kung fu' annisgwyl! Roedd ganddi ddoniau comig cryf ond nid oedd y cymeriad yma wedi ei ysgrifennu'n ddigon celfydd iddi.
Enillodd enwogrwydd byd-eang gyda'i pherfformiad o'r fam twym-galon yn y ffilm epig, 'Yanks' (1979) gyda Richard Gere ac a gyfarwyddwyd gan John Schlesinger (Midnight Cowboy) ag enillodd BAFTA arall iddi. Cafodd ei henwebu am yr Osar hefyd.
Ffarwel i Rex
Mae ei dyddiaduron a olygwyd gan y beirniad ffilm, Alexander Walker, yn dangos fod ganddi doniau ysgrifennedig creadigol. Dangosai'r dyddiaduron ei theimladau cymhleth tuag at Rex ei chyn-诺r. Roedd hi'n ei garu, yn ei gasau, yn dyheu amdano ond yn methu ei gadw. Ef oedd ei Duw a'i Diafol.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn 1960 wrth iddynt gymryd rhan yn y ddrama, 'Platonov' gyda'i gilydd. Syrthiodd Rachel am y seren carismatig ond anodd yn syth. Bu'n briod o 1955-1961 i'r actor Alan Dobie, cyn i Rex daranu i'w bywyd. Fe wnaeth Dobie barhau'n ffrind da iddi er eu tor-priodas.
Am gyfnod bu Rex a hithau yn hapus; yn treulio amser ei breuddwydion yn villa Rex yn Portofino yn yr Eidal. Ond roedd ysbryd Kay Kendall yn dal i'w phoenydio a theimlai Rachel nad oedd hi'n ddigon da i'w hannwyl Reg. Ymddangosodd y ddau ar lwyfan ac mewn ffilm gyda'i gilydd; 'Much Ado About Nothing' a'r ffars 'A Flea in Her Ear' (1968) ond nid oedd y ffilm yn lwyddiant.
Bwgan mawr arall oedd bod Rachel eisiau plentyn gyda Rex ond ni wireddwyd ei breuddwyd a dengys ei dyddiaduron cymaint oedd hyn yn ei heffeithio. Bu'n trafod mabwysiadu ond ni ddigwyddodd fyth. Roedd rhith y 'ferch fach blaen' hoffai Rachel wedi ei chael, (ai Rachel ei hun oedd y rhith?), yn parhau i'w chwrso tan ei marwolaeth.
Ysgarodd Rex a Rachel yn 1971 a symudodd Rex ymlaen at y wraig nesa, Elizabeth Harris, cyn-wraig yr actor, Richard Harris.
Diwedd truenus
Ceisiodd Rachel ail-ennill Rex ond methiant fu ei hymdrech. Dechreuodd wisgo'n fwy 'ifanc' gyda sgerts byrion, cotiau ffwr, a 'b诺ts' dramatig. Lliwiodd ei gwallt yn berocseid a dechreuodd berthynas gyda dyn ifanc, Darren Ramirez, wnaeth barhau tan ei marwolaeth yn 1980.
Symudodd i LA yn 1975 i geisio anghofio Rex. Ond ar noson gyntaf adfywiad sioe enwoca Rex, 'My Fair Lady' ar lwyfan Broadway, ar 26 o Dachwedd 1980, lladdodd Rachel ei hun trwy gymryd gor-ddos o barbiturates, alcohol a gwenwyn chwyn yn ei chartref.
Daeth y garddwr o hyd i'w chorff yn yr ardd wedi ei grafu'n ddarnau wnaeth ddigwydd wrth iddi syrthio trwy fwrdd gwydr wedi iddi gymryd y cyffur. Roedd hi'n 53 oed ac ymhell o s诺n clychau'r llan.
Bu ei llwch yn gorffwys am flynyddoedd mewn bocs ar silff Lindsay Anderson wrth iddo geisio penderfynu beth i wneud gyda gweddillion ei hen ffrind. Wedi sawl blwyddyn gwasgarodd hwy mewn seremoni arbennig ar fwrdd llong yn hwylio i lawr yr afon Tafwys.