Un o'r 'Tri Tenor Cymraeg', mae Rhys Meirion wedi gwneud enw iddo'i hun fel canwr o safon ar lefel ryngwladol.
Mab Meirionnydd
Er mai brodor o Dremadog, Sir Meirionnydd yw Rhys Meirion, mae wedi ymgartrefu yn Rhuthun ers 15 mlynedd.
Fe'i ganed ym Mangor a chyn i'w deulu ymgartrefu yn Nhremadog bu'n byw ym Mlaenau Ffestiniog a Garndolbenmaen.
Cafodd ei Addysg yn Ysgol Gynradd Tremadog ac Ysgol Uwchradd Eifionydd cyn mynd ymlaen i ennill gradd BA Addysg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
Er mai fel canwr byd enwog y mae'n adnabyddus yn awr fel athro y cychwynnodd ei yrfa gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Gynradd Tywyn, pedair blynedd yn Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a phedair blynedd yn brifathro yn Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun.
Rhuban Glas
Ac yntau'n aelod o Aelwyd Bro Gwerfyl a Ch么r Rhuthun a'r cylch dechreuodd gael gwersi canu ac wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996 fe'i hysgogwyd i feddwl o ddifrif am droi'n ganwr proffesiynol.
Wedi graddio yng Ngholeg Cerdd y Guild Hall yn Llundain aeth i weithio gyda chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr tan 2003 ac ers hynny bu'n gweithio ar ei liwt ei hun.
Ym mis Mai 2006 bu'n portreadu rhan Pinkerton yn 'Madame Butterfly' gyda'r English National Opera yn Llundain cyn cymryd rhan yng nghynhyrchiad o La Traviata gyda'r English National Opera.
Yn ogystal 芒 bod yn llywydd y dydd yn Eisteddfod Sir Ddinbych yr Urdd yn 2006, roedd hefyd yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod. Yn eironig, pan oedd yn aelod ifanc o'r Urdd nid aeth Rhys ymhellach na'r Eisteddfod Sir fel cystadleuydd - nes iddo ymuno ag Aelwyd Bro Gwerfyl. Eisteddfod Rhuthun, 1992, oedd yr Eisteddfod gyntaf iddo gystadlu ynddi gyda'r Aelwyd.
"Mae cystadlu yn eich gwthio i berfformio i orau'ch gallu. Fy neges i bawb sydd yn cystadlu yw i fwynhau bob munud. Mae Cymru'n lwcus iawn i gael yr Urdd a'r cyfleon y mae'n ei roi i blant a phobl ifanc," meddai Rhys.
Recordio
Yn 2005, recordiodd CD, Benedictws, gyda Bryn Terfel a gafodd ei nomineiddio am wobr Brit Glasurol.
Ym mis Ebrill a mis Mai 2008 bu Rhys yn ymgyrchu i achub Eisteddfod Trevelin ym Mhatagonia. Roedd dyfodol yr Eisteddfod yn y fantol wedi 80 mlynedd.
Yn 2010, bu Rhys yn mentora canwr ifanc ar raglen Radio Cymru, 'Cyfle Cothi.
Mae Rhys wedi cyhoeddi nifer o albymau erbyn hyn. Y mwyaf diweddar, 'Celticae' ar label Sain. Recordiodd weithiau o'r enw 'Bluebird of Happiness' ac 'Awsome Wonder' i'r label Stanza AV. Bu'n perfformio hefyd fel canwr gwadd ar albwm Katherine Jenkins, 'Second Nature'.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn