大象传媒

Richard Burton

Richard Burton

Un o'r actorion enwoca' i ddod o Gymru. Roedd ei garwriaeth ag Elizabeth Taylor yn destun trafod am flynyddoedd!

Seren Gymreig go iawn

Dyma Seren Gymreig go iawn, yn enwog am ei bortread o'r Rhufeiniwr Mark Anthony yn ffilm fawr Elizabeth Taylor 'Cleopatra', yn arbennig o gofio am eu carwriaeth oddi ar y sgr卯n hefyd. Fe ddaeth yn un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Ganwyd Richard Burton yn Richard Walter Jenkins, y 12fed o 13 o blant ar Dachwedd 10, 1925. Gl枚wr oedd ei dad a bu farw ei fam pan oedd Richard yn ddwy flwydd oed a chwaer h欧n a'i fagodd.

Fe gymerodd un o'i athrawon, Philip Burton, ddiddordeb mawr ynddo gan ei gynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau a fyddai mor bwysig iddo fel actor yn ddiweddarach.

Yn 16 oed fe enillodd ysgoloriaeth i Rydychen, diolch i gymorth Philip Burton. Mabwysiadodd gyfenw ei athro ond yn ddiweddarach fe adawodd Rhydychen er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa ar y llwyfan.

Cyfle yn Hollywood

Burton a Taylor
Burton a Taylor

Yn 18 oed gorfu iddo ohirio ei yrfa broffesiynol pan gonsciptiwyd ef i'r RAF a'i benodi'n lywiwr.

Fe ddaeth ei gyfle mawr yn Hollywood yn 1952 yn y ffilm 'My Cousin Rachel' pan wnaeth awdures y nofel, Daphne Du Maurier, ei gymeradwyo am y rhan wedi iddi ei weld yn perfformio ar y llwyfan yn Stratford.

Ond ei ran yn Cleopatra, y ffilm ddrutaf erioed, yn 1962, newidiodd ei fywyd personol a phroffesiynol am byth, wrth iddo chwarae Mark Anthony i 'Cleopatra' Elizabeth Taylor. Datblygodd y berthynas ar y sgrin yn berthynas gyhoeddus ac ymfflamychol oddi ar y sgrin hefyd. Ac er bod y ddau yn briod, ysgarodd y ddau eu partneriaid ar y pryd, Sybil Burton ac Eddie Fisher er mwyn bod gyda'i gilydd. Daeth Elizabeth Taylor i Gymru droeon a dysgodd Burton dipyn o Gymraeg iddi.

Daeth y ddau yn fwy adnabyddus am eu perthynas ymfflamychol na'u doniau actio. Roedd Richard yn gwario ffortiwn ar emwaith drudfawr i'w wraig yn cynnwys y diamwnd 'Krupp' ac yna'r Diamwnd 'Taylor-Burton' a dorodd record yn 1969 wrth i Burton dalu dros filiwn o ddoleri amdani, y mwyaf am ddiamwnd erioed!

Ymddangosodd y ddau mewn ffilmiau eraill gyda'i gilydd megis 'Whose Afraid of Virginia Wolf?' a 'The Taming of the Shrew'. Ac yn wahanol i ambell bar priod sydd wedi ymddangos mewn ffilm gyda'i gilydd, (fel Nicole Kidman a Tom Cruise yn y 90gau), roedd y cemeg rhwng y ddau yr un mor effeithiol mewn ffilm ag yr oedd mewn bywyd go iawn.

Ond wedi deng mlynedd o gecru a charu, ysgarodd y ddau. Ond nid dyma diwedd y berthynas. Blwyddyn yn ddiweddarach, yn 1975, priododd y ddau am yr eil-dro ym Motswana. Ond daeth y briodas yma i ben hefyd yn 1976. Ond tan ei marwolaeth yn 2011, honnodd Elizabeth Taylor taw Burton oedd ei gwir gariad (a hithau wedi priodi nifer o ddynion yn ei bywyd!)

Y Llwyfan neu Ffilm

Burton yn portreadu Churchill
Burton yn portreadu Churchill

Credai llawer yn byd theatrig fod Richard Burton wedi gwneud camgymeriad mawr yn cefnu ar y theatr i ffocysu ar fod yn seren Hollywood. Yn wir, yn y 60gau, ef oedd seren mwyaf costus y diwydiant. Ac wedi iddo berfformio yn 'Hamlet' yn y theatr o dan gyfarwyddid yr actor enwog, John Gielgud yn 1964, cefnodd ar y llwyfan am ddeuddeg mlynedd.

Fe gadwodd etifeddiaeth o ffilmiau cryfion ar ei 么l fel 'Look Back in Anger', 'The Spy Who Came in From the Cold', 'Who's Afraid of Virginia Woolf' ac eraill. Ond fe wnaeth e llawer o ffilmiau nad oeddent gystal, (er mwyn yr arian dywedodd e'n onest), fel y 'VIPs' gyda Taylor, 'The Comedians,' a 'Boom' i enwi ond tri.

Nomineiddiwyd ef am 7 Oscar ond ni enillodd un erioed. Yn sicr, cred llawer y dylai wedi ennill am ei berfformiad canmoladwy yn 'Who's Afraid of Virginia Woolf.' Ond Elizabeth Taylor, ei wraig, enillodd yr Oscar am honno. Fodd bynnag enillodd nifer o wobrau eraill yn cynnwys Golden Globe am ei berfformiad yn Equus, Grammy a BAFTA.

Burton a Dylan Thomas

Yr unig beth mewn bywyd yw Iaith. Nid Cariad. Nid dim byd arall.

Richard Burton

Roedd gan Burton gariad angerddol at weithiau Dylan Thomas ac at iaith a geiriau yn gyffredinol ac roedd ganddo lais pwerus a charismataidd i ddehongli geiriau'r meistri. Gwnaeth ei enw yn 1954 yn portreadu rhan y Storiwr ym mherfformiad cyntaf o 'Under Milk Wood' ar y radio. Portreadodd yr un rhan yn y ffilm o'r ddrama ugain mlynedd yn ddiweddarach gyda Peter O'Toole ac Elizabeth Taylor.

Wrth gwrs, roedd Burton yn yfwr ac yn smociwr mawr ac wrth ei fodd yn byw bywyd i'r eithaf. Yn anffodus, fe wnaeth hyn gyfrannu at ei farwolaeth yn gymharol ifanc yn 58 oed yn 1984 yn ei gartref yn C茅ligny yn y Swistir. Erbyn hyn roedd wedi priodi ei wraig olaf, Sally Burton. Ac er bod ei farwolaeth yn sydyn, bu ei iechyd yn dirywio am flynyddoedd. Roedd y bachgen ifanc golygus wedi hen grino oherwydd ei arferion yfed. Cafodd ddiagnosis bod cirrhosis ar ei afu a'i arennau yn 1981.

Claddwyd ef yn y Swistir mewn siwt goch, fel teyrnged i'w wreiddiau Cymreig a gyda chopi o farddoniaeth Dylan Thomas yn ei law. Bu ef ac Elizabeth Taylor yn trafod y posiblrwydd eu bod yn cael eu claddu gyda'i gilydd; ond fe brynodd Sally Burton y plot nesa ato, falle er mwyn rhwystro hyn rhag ddigwydd.

Yn ystod Haf 2011, cyhoeddwyd bod yna weithgareddau ar y gweill i godi arian i sichrau fod Burton yn cael seren ar lwybr enwogrwydd (Walk of Fame) yn Hollywood.

Ym mis Medi 2012, cyhoeddwyd, am y tro cyntaf, gyfrol go drwchus o ddyddiaduron personol Richard Burton yn ymestyn o'i blentyndod yng Nghymru yn 1940 i'w ddyddiau olaf yn y Swistir yn yr 1980gau. Bu'r dyddiaduron yn gryn destun trafod gan fod Burton yn eitha diflewyn ar dafod yn ei asesiad o 'selebs' amrywiol. Mae ei garwriaeth gydag Elizabeth Taylor yn chwarae rhan bwysig yn y dyddiaduron gyda hithau'n ychwanegu pwt at ei gofnodion fan hyn a fan draw. Mae ei gariad at Gymru'n dod i'r amlwg hefyd ac mae'n mwynhau defnyddio geiriau Cymraeg i ddisgrifio ambell un -fel 'conyn' er enghraifft!

Fe wnaeth ei weddw, Sally Burton, roi'r elw o'r dyddiaduron i Brifysgol Abertawe.

Seren yn Hollywood Boulevard

Ar Fawrth 1, 2013, mae seren i Richard Burton yn cael ei dadorchuddio ar Lwybr yr Enwogion yn Hollywood, bron i 30 mlynedd wedi ei farwolaeth.

Wedi ymgyrch gan bapur newydd y Western Mail a'r Athro Dylan Jones-Evans fe wnaeth Siambr Fasnach Hollywood gadarnhau'r anrhydedd.

Bydd yn digwydd ar Ddydd G诺yl Dewi i gyd-fynd 芒r seremoni i ddathlu 50 mlynedd ers y ffilm Cleopatra lle cyfarfu 芒'r fenyw a briododd ddwywaith, Elizabeth Taylor.

Bydd seren Burton yn ymddangos drws nesa' i un Ms Taylor.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.