Ganwyd Roald Dahl yn Llandaf yn 1916. Roedd ei rieni yn hanu o Norwy. Bu farw ei dad Harald o niwmonia pan oedd Roald yn 3 mlwydd oed, gan adael ei fam Sofie i fagu chwech o blant.
Aeth i Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf, ond nid oedd yn hapus iawn yno. Yn ei hunangofiant Boy: Tales of Childhood, mae'n dweud yr unig atgofion melys sydd ganddo yw mynd am dro i'r siop fferins lleol.
Symudodd Roald i Ysgol Repton yn Derby, ac yno bu'n treulio llawer o'i amser yn darllen llyfrau.
Ar 么l gadael ysgol aeth i weithio gyda chwmni olew Shell, ac yn 1938 cafodd ei anfon i weithio yn Dar es Salaam yn Nhanzania, Affrica.
Yn dilyn ei brofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ysgrifenodd nifer o straeon byr. Ond mae'n cael ei adnabod orau fel awdur plant, gyda llyfrau fel The Twits (1980), The BFG (1982), The Witches (1983) a Matilda (1988). Daeth syniadau rhai o'i lyfrau poblogaidd drwy adrodd straeon i'w ferched Olivia a Tessa.
Bu farw Dahl yn 74 mlwydd oed yn 1990. Ym Mae Caerdydd, tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru mae Plass Roald Dahl, sydd wedi ei enwi fel anrhydedd i'r awdur. Mae'n agos i'r Eglwys Norwyaidd y man cafodd Dahl ei fedyddio.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn