大象传媒

Roy Noble

Roy Noble

Cyflwynydd ar orsaf radio 大象传媒 Radio Wales.

Mae Roy yn unig blentyn i'r gl枚wr Ivor Noble a'i wraig Sadie. Fe'i anwyd yn 1942 a cafodd ei fagu ym Mrynaman. Bu'n byw gyda'i rieni, oedd hefyd yn rhannu t欧 gyda'i fam-gu a brodyr dibriod ei fam. Wedi iddo basio ei arholiadau '11 Plus' mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Ymhlith ei gyd-ddisgyblion oedd Vernon Pugh a John Cale. Wedi iddo orffen yno gadawodd Rhydaman er mwyn mynd i Gaerdydd i wneud ymarfer dysgu.

Arweiniodd ei yrfa fel athro ef i Loegr lle cyflawnodd rhywfaint o 'waith cenhadol' cyn dychwelyd i Dde Cymru. Yn hwyrach yn ei amser fel athro fe ddaeth yn Brifathro ar ysgol Thomas Stephens ym Mhontneddfechan, ac yna Ysgol Gynradd Llangattock yng Nghrucywel. Enillodd hefyd ysgoloriaeth i ymweld a chymharu ysgolion yn yr Almaen a'r Unol Daleithau.

O gwmpas yr adeg hyn fe ddechreuodd weithio'n rhan amser i 大象传媒 Radio Wales. Ysgrifennodd a chyflwynodd 'Letters from Aberdare' oedd yn rhan o'r rhaglen fore ar yr orsaf radio. Yn 1985 gadawodd fyd addysg pan gynigwyd rhaglen iddo ar 大象传媒 Radio Wales. Yn y pendraw cafodd y cyfle i gyflwyno 'The Roy Noble Show' sydd yn dal i gael ei darlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn 1999 fe dderbyniodd y Wobr Sony am ei raglen. Yn 2000 derbyniodd y Wobr am 'Cyflwynydd Rhanbarthol y flwyddyn' gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Mae Roy hefyd yn amlwg ym myd y teledu am ei waith yn y Gymraeg a'r Saesneg. O 1994 hyd at 2001 roedd yn cyd-gyflwyno y rhaglen Gymraeg Heno ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno sawl rhaglen arall gan gynnwys 大象传媒 Diet Programme gyda Barbara Dickson, a chyfres o Noble Guides sydd wedi trafod sawl testun, o Baris i farwoldeb.

Mae Roy yn gysylltiedig 芒 sawl elusen a mudiad gwahanol. Mae'n Swyddog Urdd St Ioan ac yn Frodor Freintiedig o UWIC.

Mae Roy yn briod ag Elaine ac mae mab ganddynt o'r enw Richard. Mae'n byw yn Aberd芒r ac mae'n llywydd ar y t卯m rygbi yno.

Yn 2001 fe dderbyniodd Roy OBE am ei waith elusennol.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.