Ysgrifennodd T. Rowland Hughes y nofelau mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg yn ystod y pedwardegau, sef O Law i Law (1943), William Jones (1944) a Chwalfa (1946).
Er bod yr ail wedi ei lleoli yn y De, tynnu ar ei atgofion ei hun, ac eiddo ei dylwyth, am ardaloedd y chwareli llechi yn Sir Gaernarfon a wnai'r awdur, gan weu ffeithiau hanesyddol 芒 ffuglen mewn modd hynod ddarllenadwy.
Gyda gwaith Islwyn Ffowc Elis, dyma'r nofelau a achubodd ein ll锚n yn y cyfnod yn syth ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Gwreiddiau yn ardal y llechi
Ganwyd Thomas Rowland Hughes ar Ebrill 17 ym 1903 yn Llanberis, yn fab i chwarelwr, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle darllenodd y Saesneg.
Bu'n athro yn Aberd芒r, Sir Forgannwg, am ddwy flynedd, ac wedi astudio yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, cafodd swydd darlithydd mewn Saesneg a Chymraeg yng Ngholeg Harlech yn 1930.
Bedair mlynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn warden canolfan addysg i oedolion yn Llundain, ond cafodd ei lethu gan waith gweinyddol yno.
Dychwelodd i Gymru i gymryd swydd fel cynhyrchydd rhaglenni nodwedd gyda'r 大象传媒 yng Nghaerdydd.
Arhosodd yn ei swydd hyd 1945 ond erbyn hynny roedd yn dioddef yn enbyd o'r afiechyd a'i lladdodd ym 1949.
Bardd disglair, nofelydd allweddol
Cychwynnodd T.Rowland Hughes ar ei yrfa llenyddol fel bardd, trwy ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1937, camp a gyflawnodd eto ym 1940. Dim ond un cyfrol o'i gerddi a gyhoeddwyd, sef C芒n neu Ddwy (1948), sy'n cynnwys y gerdd enwog Salem a ysbrydolwyd gan lun Curnow Vosper. Ond fel nofelydd mae wedi sicrhau lle iddo ei hun ym Mhantheon ein gwlad.
Mae ei nofelau - sy'n cynnwys hefyd Yr Ogof (1945) ac Y Cychwyn (1947) - yn dangos dawn yr awdur i adrodd stori afaelgar a chreu cymeriadau hoffus a chofiadwy, gyda chymysgedd o dristwch a hiwmor.
"Cadw dy blydi chips!"
Prif gymeriad William Jones yw chwarelwr cl锚n sy'n colli ei limpyn gyda'i wraig a chyda'r ebychiad adnabyddus "Cadw dy blydi chips!" mae'n mynd i chwilio am waith ym mhyllau glo'r De.
Yn Chwalfa aeth yr awdur yn agos at fawredd yn ei bortread o ddioddefaint y chwarelwyr a'u teuluoedd yn ystod Cload Allan y Penrhyn (1896-97 a 1900-03).
Dygnwch di-ildio y gweithwyr yn wyneb perchnogion y chwareli, a'u ffyddlondeb i'w Hundeb er gwaethaf pob caledi, yw prif thema'r nofel.
Oherwydd y modd y wynebodd ei afiechyd, cyfeiriodd R.Williams Parry at T.Rowland Hughes, mewn englyn a dorrwyd ar garreg ei fedd yng Nghaerdydd, fel 'y dewraf o'n hawduron'.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn