大象传媒

TH Parry-Williams

T H Parry-Williams

Cawr o lenor, yn ysgrifwr ac yn fardd, oedd T. H. Parry-Williams, yn ogystal 芒 bod yn un o ysgolheigion Cymraeg mwyaf ei gyfnod. Un o'r ychydig i ennill y goron a'r gadair yn yr un Eisteddfod, ddwywaith.

Daeth o hyd i'w awen ym mro ei febyd, sef mynyddoedd Eryri, ond fe deithiodd yn eang ac roedd yn hyddysg mewn sawl maes ieithyddol, gwyddonol, seicolegol a llenyddol.

Roedd ei agwedd tuag at fywyd a marwolaeth yn gymhleth, ac ni ddaeth at unrhyw safbwynt terfynol: roedd bodolaeth dyn yn gyfrinach ni allai ei archwilio'n foddhaol. Eto i gyd, ysgrifennodd swmp o ysgrifau a cherddi er mwyn dadansoddi y dirgelwch mawr, gan greu rhai o glasuron yr iaith Gymraeg yn y ddau genre.

Yn fab i ysgolfeistr, ganwyd Thomas Herbert Parry-Williams ym 1887 yn Rhyd-ddu, Sir Gaernarfon. Mae'r plac ar wal T欧'r Ysgol yn dwyn y geiriau: 'Mae darnau ohonof ar wasgar ar hyd y fro' ac mae arddangosfa fechan tu fewn i'r adeilad.

Cafodd y llanc ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle darllenodd y Gymraeg a Lladin, ac yna aeth i Goleg Iesu, Rhydychen a Phrifysgolion Freiburg a Pharis i astudio Ieithyddiaeth Gymharol. Ym 1912, tra oedd yn fyfyriwr, enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, camp a gyflawnodd drachefn dair mlynedd yn ddiweddarach.

Fe'i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920 ac yno yr arhosodd nes iddo ymddeol. Bu farw ym 1975.

Gwnaeth T. H. Parry-Williams gyfraniad mawr i ysgolheictod Gymraeg. Ymhlith ei brif gyhoeddiadau y mae The English Element in Welsh (19230, a nifer o astudiaethau megis Carolau Richard White (1931), Canu Rhydd Cynnar (1932), Elfennau Barddoniaeth (1935) a Hen Benillion (1940).

Fel Athro ar fwy nag un cenhedlaeth o edfrydwyr cafodd ddylanwad mawr a pharhaol. Daeth yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus ei wlad, yn enwedig yng nghylchoedd yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe'i hurddwyd yn farchog ym 1958.

Torrodd T.H. Parry-Williams dir newydd fel ysgrifwr ac fel bardd, ac mae wedi cael llu o efelychwyr. Ymhlith ei gasgliadau o ysgrifau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Cyhoeddwyd casgliad cyfan o'i ysgrifau ym 1984.

Yn y ffurf hwn creodd gyfrwng a oedd yn dra addas i'w feddwl chwim a dadansoddol, ac a roddai gyfle iddo fod yn rhamantaidd ac yn gyfriniol yr un pryd. Hamddenol, syml yw eu harddull ond mae'r seicoleg yn gymhleth a'r driniaeth yn dreiddgar dros ben.

Ysgrifennodd ei gerddi i gyd-fynd 芒'i ysgrifau, yn fynych iawn ar, neu o gwmpas yr un testun. Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.

Dewisodd ddefnyddio dwy ffurf farddonol yn bennaf, sef y rhigwm a'r soned. Caniataodd y rhigwm iddo wneud sylwadau eironig a beirniadol ar y byd a'i bethau, ac mae cerddi fel Hon, Yr Esgyrn Hyn, Celwydd, Bro ac I'm Hynafiaid ymhlith y rhai mwyaf bachog yn yr iaith.

Felly hefyd gyda'r soned; ysgrifennodd nifer sydd ymhlith y mwyaf cofiadwy, megis Moelni, T欧'r Ysgol a Llyn y Gadair. Gyda'i gefnder R. Williams Parry, fo yn ddi-os yw meistr y soned yn y Gymraeg.

Miniogrwydd ei feddwl, a llymder ei fynegiant, sy'n gwneud T. H. Parry-Williams yn unigryw ym maes yr ysgrif, y rhigwm a'r soned fel ei gilydd.

Meic Stevens.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.