大象传媒

Tom Jones

Tom Jones

Y Cymro sydd ers degawdau yn un o gewri mawr y byd pop.

Ganwyd Thomas John Woodward ar 7fed o Fehefin 1940 ac fe'i magwyd yn Nhrefforest.

Dal yn frenin y symudwyr, fe ddechreuodd Tom Jones fel prif ganwr Tommy Scott and the Senators.

C芒n am Gymru?

Nid yw un o ganeuon enwocaf Tom Jones 'The Green Green Grass of Home' yn s么n am Gymru ond yn hytrach am yr Unol Daleithiau ac fe'i recordiwyd gyntaf gan Jerry Lee Lewis.

    Yn ifanc iawn, roedd llais Tom Jones yn denu sylw. Erbyn y 1950au roc a r么l oedd cariad Tom ac roedd o'n byw bywyd digon tebyg yn colli ysgol, yn yfed a chwilio am ferched. Ond daeth tro ar fyd pan orfu iddo aros yn ei wely am flwyddyn gan TB ac fe sianelodd ei holl ynni i gerddoriaeth a chelf.

    Yn 16 oed gadwodd yr ysgol a mynd i weithio'n y nos mewn melin bapur gan briodi Linda yn 17 cyn genedigaeth ei fab Mark. Ond roedd canu'n denu Tom o'r felin a daeth yn brif ganwr y gr诺p Tommy Scott and the Senators.

    Roedd y band yn llwyddiant mawr ond methiant fu eu hymgais i sicrhau llwyddiant ar draws Prydain gan na ryddhawyd eu demo i'r cwmn茂au recordiau mawr.

    Ond roedd Gordon Mills, y rheolwr o Lundain, wedi gweld Tom ac wedi gweld talent ynddo hefyd. Meddai Mills yn ddiweddarach - "Roedd yna lais yma y gallai ei wneud y canwr mwyaf yn y byd".

    Fe dwtiodd yr hogyn ifanc, rhoi enw arall iddo sef Tom Jones ac roedd ei ail sengl 'It's Not Unusual' yn llwyddiant ysgubol ar draws y byd.

    Mae Tom dal i recordio caneuon a pherfformio. Ei albwm ddiweddaraf yw Praise & Blame.

    Syr Tom Jones yw un o'r beirniaid ar raglen dalent newydd nos Sadwrn 大象传媒 One The Voice yn ystod gwanwyn 2012. Cystadleuaeth yn chwilio am dalent canu ydy'r rhaglen, a'r beirniaid eraill ydy Jessie J, Will.i.am o'r Black Eyed Peas a Danny O'Donoghue o The Script. Fe fydd y beirniaid yn eistedd gyda'u cefnau tuag at yr unigolion sy'n canu, fel eu bod yn cael eu beirniadu ar eu llais ac nid ar eu delwedd.


    Llyfrnodi gyda:

    Cylchgrawn

    Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

    Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    Hanes

    Croes Geltaidd

    Crefydd y Cymry

    Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

    大象传媒 iD

    Llywio drwy鈥檙 大象传媒

    大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.