大象传媒

Twm Morys

Twm Morys

Mae Twm Morys wedi dangos ei ddoniau amryddawn fel ymchwilydd, clerwr a chanwr mewn band yn y gorffennol ond mae bellach hefyd yn brifardd ar 么l ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 ar y testun Drysau.

Yn 么l y beirniaid, roedd ei awdl ben ac ysgwydd yn uwch na'r naw cystadleuydd arall gan fod ganddi "ddyfnder a gweledigaeth yn ogystal ag angerdd cyson". Roedd yn benderfyniad poblogaidd ac yntau wedi dod yn agos iawn at y brig y flwyddyn flaenorol pan gadeiriwyd un o feirniaid 2003, Myrddin ap Dafydd.

Cafodd Twm, sy'n fab i'r awdur a'r newyddiadurwr Jan Morris, ei eni yn Rhydychen yn 1961 i deulu Eingl-Gymreig. Dywed fod un o'i deidiau yn fecanig o Sir Fynwy, a'r llall yn blanwr te yn Ceylon.

Symudodd ef a'i deulu i Lanystumdwy pan oedd yn ddwyflwydd oed, a dyma lle mae ei gartref hyd heddiw.

Cafodd ei anfon i ysgol breswyl yn saith mlwydd oed, cyn dychwelyd i Gymru a sefyll ei arholiad lefel A mewn Cymraeg yn Ysgol Gyfun Aberhonddu - fo oedd yr unig ddisgybl yn y dosbarth.

Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Aberystwyth i wneud Astudiaethau Celtaidd, ac ennill cadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol tra roedd yno. Ar 么l graddio, cafodd swydd fel ymchwilydd gyda Radio Cymru, yna bu'n ennill ei fara menyn fel clerwr cyn mynd i fyw i Lydaw am ddegawd.

Mae ganddo ddau o blant, Angharad a Gwion ac mae'n briod 芒 Sioned Wyn. Mae hefyd yn canu gyda'i fand, Bob Delyn a'r Ebillion, ac yn cyflwyno rhaglenni radio a theledu.

Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys cyfrolau o gerddi Ofn Fy Het (1995), Mymryn Bach o Hon (1998) a 2 (2002) ynghyd 芒 gwaith ar y cyd 芒 Jan Morris, Ein Llyw Cyntaf (2001) ac A Machynlleth Triad.

Twm Morys oedd Bardd Plant Cymru o 2009 hyd 2010.

Mae wedi ei benodi fel golygydd newydd cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod Barddas.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.