大象传媒

Wilfred Wooller

Wilfred Wooller

Chwarae rygbi i Gymru, p锚l-droed i Gaerdydd a chriced i Forgannwg.

Roedd Wilfred Wooller yn un o chwaraewyr mwyaf amryddawn Cymru a chwaraeodd rygbi dros ei wlad, p锚l-droed i Gaerdydd a chriced i d卯m Morgannwg.

Ganed Wilfred yn Llandrillo-yn-Rhos yn 1912 i rieni o Fanceinion. Tra roedd yn dal i fod yn ddisgybl yn ysgol Rydal, chwaraeodd i d卯m rygbi Cymru am y tro cyntaf pan enillodd y t卯m yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf yn Twickenham. Enillodd 18 cap dros ei wlad, gan gymryd rhan yn un o fuddugoliaethau enwog Cymru dros y Crysau Duon.

Ar 么l gadael prifysgol Caergrawnt, lle bu'n aelod o'r t卯m criced, ymunodd 芒 chwmni glo yng Nghaerdydd a chael ei anfon am ddau haf i oruchwylio gwaith y cwmni dramor, gan golli allan ar y tymor criced. Ond pan ddychwelodd i Gymru, ymunodd 芒 th卯m Morgannwg yn 1938 pan chwaraeodd ei g锚m gyntaf yn erbyn Swydd Efrog a chafodd gant o rediadau yn erbyn India'r Gorllewin flwyddyn yn ddiweddarach. Ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w yrfa yn y byd chwaraeon am sbel pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd.

Ar 么l treulio amser yng ngharchar Changi dan law'r Siapaneaid, dychwelodd i Gymru a thaflu ei hun i mewn i d卯m criced Morgannwg eto yn 34 mlwydd oed. Roedd yn gapten yno am 14 mlynedd ac arweiniodd y t卯m i ennill y Bencampwriaeth yn 1948 diolch i'r cyfuniad o'i frwdfrydedd o'r maes rygbi, ei strategaethau milwrol a'i bersonoliaeth gref. Dros y blynyddoedd daeth nifer i feddwl am enw Wooller a th卯m Morgannwg yn gyfystyr 芒'i gilydd. Roedd yn ysgrifennydd ac yna yn llywydd ar Forgannwg am 36 mlynedd ac roedd hefyd yn ddewiswr i d卯m criced Cymru a Lloegr o 1955 i 1961.

Roedd ysgrifennu ac yn darlledu yn ystod y cyfnod yma ac yn ddiweddarach, gan gyflwyno rhaglenni chwaraeon a chyfrannu colofn i'r Sunday Times. Roedd yn adnabyddus am ei sylwadau di-flewyn-ar-dafod, ei safbwyntiau cryf (roedd yn ffyrnig dros barhau cysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica) a'i bersonoliaeth benderfynol.

Bu farw Wilfred Wooller ar Fawrth 10 1997 yn 84 mlwydd oed. Yn 2001, agorwyd giatiau er cof amdano yng Ngerddi Sophia, cartref t卯m criced Morgannwg.

Gyda diolch i Roy Thomas o Wenfo am yr enwebiad.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.