Byddai Dewi Sant yn torri ei galon pe byddai'n dychwelyd i Gymru heddiw a gweld cyflwr crefyddol y wlad yn 么l un o weinidogion blaenllaw yr eglwys Bresbyteraidd.
Yn cael ei holi gan Gwilym Owen ar ei raglen ddydd Llun Mawrth 2 disgrifiodd y Parchedig Meirion Lloyd Davies o Bwllheli gyflwr yr enwadau Cristnogol yn y wlad fel "enbydus".
"Fe fyddai o'n ddigalon dros ben," meddai am Ddewi Sant. "Mae cyflwr crefydd cyfundrefnol yng Nghymru yn enbydus y dyddiau yma. Mae yna argyfwng eithriadol o fawr yn ein wynebu ni. Mae yna ddirywiad enbyd. Dwi'n credu y byddai Dewi yn ddigalon iawn oherwydd cyflwr crefydd yng Nghymru, meddai'r gweinidog a fu'n llywydd y Presbyteriaid Cymreig ac yn olygydd y cylchgrawn Cristion.
"Yr hyn sy'n fy nhristau i [yw], wrth inni fynd yn llai yr ydym, yn anffodus, yn mynd yn fwy ceidwadol ac mae yna dwf mewn ceidwadaeth ym mhob ffordd yn grefyddol yng Nghymru heddiw - ac yn fy marn i nid dyna'r ffordd i ymateb i argyfwng.
Rhaid ichi wynebu argyfwng mewn ffordd fwy positif," meddai. Ychwanegodd nad oes "dim argoel o gwbl" fod yr enwadau am geisio dod yn nes at ei gilydd a chydweithio mwy.
Angen chwyddwydr
Hynny, meddai, er gwaetha'r ffaith fod "angen chwyddwydr" i weld y gwahaniaethau sydd rhyngddyn nhw.
"Rydym ni'n fwy poleit efo'n gilydd r诺an nag oeddem ni flynyddoedd yn 么l . Dydy ni ddim yn p'ledu at ein gilydd erbyn hyn ond does yna ddim diddordeb gwirioneddol o gwbl inni ddod yn nes at ein gilydd - i mi mae'n sefyll i reswm, pe byddem ni yn crynhoi ein hadnoddau ac yn cydweithio mae yna fwy o siawns i wynebu'r argyfwng," meddai.
Dywedodd hefyd bod teyrngarwch enwadol mewn rhai lleoedd yng Nghymru yn fwy amlwg na theyrngarwch Cristnogol.
"Mae'n well gan bobl lusgo ymlaen yn eu capeli bach a gweld y sefyllfa yn dirywio yn fwyfwy yn hytrach na chlosio at enwad arall. Cadw eu sioe bach eu hunain ar y ffordd sy'n bwysig ac i mi mae hynny'n arswydus o drist," meddai gan ychwanegu mai dim ond "manion" yw'r gwahaniaethau rhwng yr enwadau ymneilltuol.
"Ond eto, rydym ni'n chwyddo y manion ac yn colli gafael ar rywbeth mawr [trwy wneud hynny].
"Dwi'n meddwl, tasech chi'n s么n am y darlun mwy eang yn cynnwys y sectau , yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Babyddol mae'r un 'styfnigrwydd yno [hefyd]," meddai.
"Da ni'n gwneud y synau iawn mai un bobl ydym ni ac mai'r un ffydd sydd gennym ni ond os gwnewch chi ofyn i bobl wna'n nhw ymrwymo i roi'r gorau i'w sioe bach eu hunain maen nhw'n amharod iawn, iawn, i wneud hynny."
I'r dosbarth canol
Pan holodd Gwilym Owen ai "ymarferiad i'r dosbarth canol Cymraeg" sy'n troi i fyny ar y Sul i gael "rhyw gyfarfod neis, neis," yw crefydd yng Nghymru bellach atebodd;
"Mae hi'n mynd yn fwyfwy felly mae gen i ofn. Mi rydan ni i raddau wedi colli y gafael . . . ar y werin - y bobl gyffredin."
Yn 么l Mr Davies pobl o gefndir mwy proffesiynol, pobl fwy dosbarth canol sydd yn cynnal crefydd mewn amryw o leoedd. Ond er nad oedd yn amau argyhoeddiad gwirioneddol Gristnogol y bobl hyn dywedodd mai yn yr ardaloedd mwy gwledig a mwy diwydiannol y mae "pobl gyffredin" yngl欧n 芒 chrefydd.
Ond yn y mannau mwy poblog a'r mannau mwy Seisnig collwyd gafael ar y bobl gyffredin gyda'r rhai o ddosbarth uwch a mwy proffesiynol yn cynnal crefydd.
Dim dylanwad
Cytunodd hefyd mai bach yw dylanwad y mudiadau crefyddol ar fywyd y wlad bellach.
"Yng Nghymru mae crefydd wedi cael ei hynysu, ei gwthio, fwy neu lai i'r ymylon erbyn hyn.
"Dydw i ddim yn meddwl fod y prif gylchgronau . . . r[h]aglenni radio a theledu, fod ganddyn nhw fawr o ddiddordeb mewn clywed llais yr eglwys os nad, wrth gwrs, bod yna ficer wedi rhedeg i ffwrdd a'r organyddes. Dydi llais yr Eglwys ddim yn cyfrif.
"Ac, yn anffodus, a dwi'n meddwl fod hyn yn berthnasol hefyd, mae yna brinder arswydus o weinidogion. Mae'r weinidogaeth bron 芒 pheidio 芒 bod - does yna fawr o weinidogion nac offeiriaid ychwaith. Mae yna brinder dychrynllyd o offeiriaid yn yr Eglwys Babyddol.
[Ond], diolch am hynny, mae yna nifer o leygwyr sydd yn amlwg yn y byd cyhoeddus yn para mlaen i fod yn amlwg ym myd crefydd ac rydw i'n edrych i gyfeiriad n bobl yna i roi rhyw arweiniad," meddai.
Efengylwyr
Cydnabu mai un garfan sydd yn tyfu - er nad yn sylweddol - yw'r un efengylaidd ffwndamentalaidd.
"Fedra i ddim gweld eu bod yn cyrraedd trwch y bobl ifainc - ambell un yma ac acw," meddai gan ychwanegu mai rhywbeth ymylol yw er ei holl fywiogrwydd.
Rhybuddiodd hefyd mai "rhyw lwybr seithug" yw un ffwndamentaliaeth.
"Dydw i ddim yn credu fod ffwndamentaliaeth neu efengyleiddiwch am wneud cyfraniad gwirioneddol. Mae'r oes wedi newid a dydw i ddim yn credu fod ffwndamentalwyr yn siarad gyda'n hoes ni. Dydw i ddim yn credu eu bod yn berthnasol i'n hoes arbennig ni.
"Dwi'n meddwl mai un rheswm pam fod y garfan efengylaidd yn llwyddo yw ein bod yn byw mewn oes sy'n eithriadol o ansicr.
Pob dim yn dirywio
"Mae pob dim yn dirywio o'n cwmpas ni ac yn newid yn arswydus ac mewn sefyllfa fel yna mae ffwndamentaliaeth [ym mhob crefydd] yn cynnig rhyw bendantrwydd, rhyw sicrwydd, rhyw symlrwydd ac mae pobl yn cynhesu at hynny ac mae llawer iawn o'r bobl ifainc - er yn ymddangos yn llawn hyder - mae yna ansicrwydd mawr iawn yn eu plith ac mae'r pendantrwydd mae ffwndamentaliaeth yn ei gynnig yn apelio atyn nhw."
Ond rhybuddiodd nad yw sicrwydd pendant yn rhywbeth sy'n bosibl.
"Dwi'n amheus o bobl - boed nhw'n wleidyddol, yn ieithyddol, yn grefyddol - yn cynnig sicrwydd pendant. Dydi hynny ddim yn rhywbeth sydd yn bosibl inni ar y daear yma a dwi'n meddwl felly mai dianc i rhyw dwr bach, i rhyw geto mwy neu lai, y mae pobl . . . pan maen nhw'n awgrymu fod sicrwydd pendant ganddyn nhw."
Angen sioc
Diweddodd ar nodyn trist trwy ddweud na welai awgrym o unrhyw beth a fyddai'n ysgwyd y sefyllfa.
"Fe fyddwn i wrth fy modd pe byddai yna rhyw sioc enfawr yn dod i ddod a ni at ein synhwyrau [ond] dydw i ddim yn gweld hynny yn digwydd."
Serch hynny, dywedodd bod llecynnau golau.
"Does dim eisiau bod yn rhy ddigalon; ond ar y cyfan pan ydych chi'n edrych ar y darlun yn gyflawn fedrai ddim gweld o gwbl arwyddion fod pethau yn gwella yn ein plith ni," meddai.