大象传媒

Eciwmeniaeth - gaeaf ynteu gwanwyn?

Capel - oes yna undod?

19 Ionawr 2010

Arweinwyr eglwysig yn trafod faint o undod Cristnogol sydd yna wedi can mlynedd o ymgyrchu eciwmenaidd

Ar gychwyn wythnos o weddi am undod eglwysig bu dau arweinydd crefyddol yn trafod ar 大象传媒 Radio Cymru beth yw cyflwr eciwmeniaeth yng Nghymru heddiw.

A hithau'n gan mlynedd ers cynnal cynhadledd yng Nghaeredin a roddodd gychwyn i'r mudiad mae lle i ofni bod ecimeniaeth wedi chwythu ei blwc erbyn hyn a'r brwdfrydedd a fu tuag at sicrhau undod rhwng yr enwadau wedi pallu rhywfaint.

Ond dydi hynny ddim yn rheswm dros anobeithio yn 么l un arbenigwr.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"Mewn cyfnod," meddai Noel Davies o Goleg y Drindod ar rifyn Ionawr 17, 2010, o'r rhaglen radio Bwrw Golwg, "pan fo'r eglwysi yn synio ei bod hi'n aeaf yn eciwmenaidd mae'n bwysig ein bod ni'n cofio bod y gweithgarwch yn dal i sbarduno pethau. Yn dal i adlewyrchu yr hyn oedd yn elfen ganolog o'r gynhadledd . . . roddodd fod i'r mudiad eciwmenaidd cyfoes."

Yn wir yn hytrach na'i gweld yn aeaf dywedodd y Parchedig Aled Edwards ei fod ef yn ei hystyried yn "wanwyn newydd" ar eciwmeniaeth:

"Mae o fatha rhyw wanwyn newydd i mi . . da ni'n gosod pwysau aruthrol y dyddiau yma ar dystio cenedlaethol yn arbennig yn yr eisteddfodau a'n gwyliau cenedlaethol ni," meddai.

"Mae gennym ni le newydd yn y Gymru ddatganoledig yn llefaru yn eofn wrth lywodraeth a chyfundrefnau gwleidyddol ac fe ddywedwn i fod yr eglwysi erbyn hyn yn defnyddio eu prosesau ecwmenaidd ar gyfer tystio i'r byd," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd mai dymuniad yr holl arweinwyr eglwysig yw eu bod eisiau i'r mudiad eciwmenaidd "dystio".

"Yr hyn dwi'n credu fydd yn y flaenoriaeth i ni yn y flwyddyn sydd i ddod ydi hyrwyddo eciwmeniaeth a thystiolaeth leol oherwydd mae yna brosesau mewn lle erbyn hyn i roi cyrff noddi er enghraifft ac efallai gael cyrff noddi cenedlaethol sydd yn pontio pethau fel caplaniaethau mewn ysbytai a charchardai. Y gwaith arloesol yna," meddai.

Dywedodd Ron Williams, gweinidog yng Nghaernarfon, bod brwdfrydedd lleol er y dymunai weld mwy o eglwysi yn dod at ei gilydd i wedd茂o a myfyrio yn foreol yr wythnos hon.

"Os ydych chi'n diffinio cenhadaeth fel dangos ysbryd Iesu Grist mae unrhyw beth sydd yn dangos Cristnogion yn dod at ei gilydd yn genhadaeth," meddai.

Gyda "dipyn yn dal ar 么l" ag awch i uno dywedodd mai'r her ydi ceisio cael mwy.

"Ond y mae yna lawenydd yn y nef am un," meddai.

Werth ateb y cwestiwn beth mae CYTUN wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd rhestrodd Aled Edwards "pethau syml ac arloesol" fel cynhyrchu diwygiadau o'r Beibl yn y Gymraeg a thystiolaethu mewn gwyliau cenhedlaeth.

Dywedodd fod pabell yr enwadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi tyfu dros y blynyddoedd "yr un fwyaf llewyrchus ar y maes" erbyn hyn.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.