大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tywysgod Charles yn cael ei ffilmio gan y cyfryngau Dyddiadur Dydd Llun
Dydd Llun - diwrnod mawr y ceffylau, diwrnod ymweliad y Tywysog Charles a diwrnod pwysig Dai Jones, Llanilar. A diwrnod prysur iawn i fi!
Gan fy mod yn redwr gyda'r cwmni Telesg么p yn gweithio ar raglenni Y Sioe Fawr ar S4C bob nos, rydw i'n cael gweld lot fawr o faes y Sioe, sydd yn wickedond ma'n nhr芒d i'n dost ofnadwy erbyn hyn a dim ond diwedd y diwrnod cyntaf yw hi!

Rwy'n gweithio gyda'r dyn camera, sy'n lwcus i fod gyda ni. Bu bron iddo fe gael ei fwrw lawr gan darw heddiw! Ond fel na mae hi yn y Sioe - gall unrhywbeth ddigwydd. Mae'r dydd yn dechrau am 7.45 y bore, ac yn swyddogol rwy'n gorffen am 6.30pm, ond sdim dal ar hynny, mae'n dibynnu ar y gwaith ffilmio i ddweud y gwir.

Rydw i wedi cael gorffen chydig yn gynt heddiw, a dw i newydd gael cyfle i weld y Kangaroo Kid ar ei fotobeic yn jwmpo dros bedwar people carrier! Agoriad llygad ac arddangosfa gwerth ei gweld.

Rwy' wedi bod yn gweithio gyda'r gyflwynwraig Si芒n Thomas heddiw ac yn ffilmio pencampwriaethau'r gwartheg drwy'r dydd. Buon ni hefyd yn dilyn y Tywysog Charles am tua hanner awr - er nad oedd e'n fodlon rhoi cyfweliadau, buon ni'n cael cwpwl o siotiau a lluniau ohono fe ar gyfer y rhaglen.

Un peth da am y swydd yma yw'r amrywiaeth. Buon ni wedyn yn ffilmio eitem yn y babell fwyd gyda'r gogyddes Ena - a ffilmio pl芒t anferth o gakes. Tynnu d诺r i'r dannedd.

A s么n am dd诺r - wel, bydd rhaid edrych ar ragolygon y tywydd yn fwy gofalus bore fory. Pan godes i y bore 'ma roedd hi'n braf ac felly fe wisges i grys T a siorts, ond wrth i fi sgrifennu'r dyddiadur yma rydw i'n wlyb sopen. Tua deng munud yn 么l daeth y gawod ryfedda' o law a ges i wlychfa a hanner.

O wel, dyna ni, lan i'r Members Tent am beint neu ddau nawr a mlaen i'r dref wedyn i gwrdd 芒 ffrindiau. A phwy a 诺yr beth wedyn .. gewch chi'r hanes fory. Ond bydd rhaid codi yn gynnar eto ar gyfer diwrnod arall o redeg! Mwy o'r sioe bore fory ...

Owain Ll欧r



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy