Dyffryn Teifi; ardal, hyfryd prydferth i fyw ynddi, cefn gwlad ar ei orau. Agos i dawelwch yr arfordir ac yn agos i fwrlwm tref Caerfyrddin ac wrth goridor yr M4.
Un broblem yng ngl诺m 芒'r ardal yma, a hefyd gweddill Cymru. Diffyg tai fforddiadwy i bobl ifanc. Mae'n broblem, mae'n si诺r sydd yn poeni llawer o rieni myfyrwyr, a phobl sydd naill ai ar fin dechrau teulu neu ar fin priodi. Pam bod prisiau tai mor uchel yn yr ardal yma ac yn wir dros Gymru gyfan, gan fod Cymru yn cael ei chyfri fel un o wledydd tlotaf Ewrop - yn wlad amcan un?
Y broblem fwyaf yw bod prisiau tai trwy'r wlad gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr yn uchel iawn. Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf mae prisiau tai wedi mynd drwy'r to, heibio'r simnai ac wedi saethu'r holl ffordd fyny at yr ariel teledu. Yn 么l arolwg yn ddiweddar prisiau tai yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig sydd wedi cynyddu fwyaf.
Wrth gwrs, yn Lloegr, nid yw'r broblem mor fawr 芒 hynny gan fod y cyflogau llawer iawn yn well, ond yma yng Nghymru, mae'n stori wahanol.
Problem arall sydd yng Nghymru yw bod pobl 'dd诺ad' yn gwerthu eu tai am 拢400,000 dyweder, ac yn prynu t欧 yng Nghymru am lai o arian na beth maent wedi gwerthu eu t欧 nhw yn Lloegr neu thu hwnt. Yr effaith mae hyn yn ei gael wrth gwrs ydy gwthio prisiau tai yng Nghymru i fyny, ac allan o afael pobl ifanc lleol sydd eisiau prynu t欧. Mae llawer o fewnfudwyr yn prynu tai yng Nghymru fel tai haf, a rhai eraill yn prynu tai fel buddsoddiad.
Gyda phrisiau tai dros gan mil o bunnoedd, a thai gydag ychydig bach o dir yn agos iawn i'r ddau gan mil; pa obaith sydd gan bobl ifanc sydd newydd ddod allan o'r coleg gyda dyled enfawr, ac eisiau prynu t欧 i ddechrau teulu? Mae'n rhaid cael morgais uchel iawn a chlymu'r morgais lawr am 30-40 mlynedd. Nid yw'n ddechreuad perffaith i fywyd teuluol.
I siarad yn bersonol, oherwydd fy mod yn gweithio daeth yr awydd i fuddsoddi mewn t欧. Wedi chwilio ar y we yn yr asiantaeth dai, roedd ambell i d欧 o fewn pris rhesymol, ond ar 么l gweld, roedd llawer o waith i'w wneud arnynt, felly roedd rhaid ail edrych a mynd am bris uwch. Ar 么l ymweliad 芒'r banc, gwelais y byddai'n rhaid benthyg dros gyfnod o drideg mlynedd a'r taliadau n么l a'r llog yn profi yn faich ariannol.
Penderfynais y bydd yn rhaid aros adref a chynilo fwy os wyf am brynu t欧 ac aros yn Nyffryn Teifi.
Beth am renti? Ers i'r 'hawl i brynu' ar dai cyngor ddod mewn i rym yn Hydref 1980 mae'r rhan fwyaf o'r tai cyngor wedi'u gwerthu. Er bod Tai Cantref yn prynu tai a'u gosod ar rent maent yn brin iawn. Mae tai ar rent yn brin iawn yr ardal yma, oni bai eich bod yn fodlon byw mewn fflat.
Beth yw'r ateb? Er bod y ddadl o godi 6000 mil o dai yng Ngheredigion dair blynedd yn 么l wedi bod yn ddadl boeth, ac ar y pryd roeddwn i yn erbyn y syniad, ond ar 么l ystyried, efallai mai dyma'r ateb. Os byddai Ceredigion yn codi'r tai yma, ac yna yn eu rhenti i bobl ifanc y fro, pobl sydd wedi cael eu geni, a'i magu yn yr ardal, ac nid cael eu gwerthu i bobl dros y ffin. 'Tai fforddiadwy i bobl leol.' Efallai y byddai hyn yn ffordd i'r bobl ifanc gael un droed ar yr ysgol dai, a hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn dal ei gafael mewn ardaloedd gwledig.
Ar 么l ystyried, faint o bobl ifanc y fro sydd wedi hedfan o'r nyth i fynd i'r coleg ac wedi profi bywyd a bwrlwm y ddinas, faint fyddai'n barod i ddod 'n么l neu hyd yn oed ystyried dod 'n么l i'r ardal yma, lle mae gwaith a chyfleoedd yn brin iawn. Gwasg Gomer mae'n si诺r yw cyflogwr mwyaf ardal Ceredigion, ac mae rhan fwyaf o'r gweithwyr yn dod o'r ardal leol.
Mae'r cyfleoedd gwaith a hamdden yn well yng Nghaerdydd, gan fod Llywodraeth y Cynulliad yn fy marn i yn credu bod Cymru yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd. Os nad oes gwaith, cyfleoedd a chyfleusterau eraill yn dechrau dod i ardaloedd gwledig fel Dyffryn Teifi, bydd yn gwthio pobl ifanc i'r ddinas.
Bydd yr ardaloedd cefn gwlad yn colli eu ieuenctid, bydd Dyffryn Teifi yn bod, ond ardal i ymddeol ynddo i gyfoethogion Lloegr, a bydd prisiau tai yn dal i gynyddu.
Erthygl gan Dylan Davies o Landysul
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.