Ers blynyddoedd, mae gwyddonwyr, amgylcheddwyr a'r llywodraeth eisiau i ni ddefnyddio llai o drydan fel bod modd llosgi llai o danwydd ffosil gan ei fod yn arwain at newid yn yr hinsawdd.
Yn fy marn i, nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn ddim i wneud 芒 dyn, ond yn hytrach yn newid naturiol. Ond, beth bynnag am hynny, mae tanwydd ffosil yn mynd i redeg allan. Nawr yw'r amser i edrych am danwydd newydd. Yn 么l y llywodraeth, egni adnewyddol sydd yn defnyddio egni naturiol yr haul, gwynt a d诺r yw'r ffordd ymlaen. Targed y llywodraeth erbyn 2010 yw bod 10% o'r trydan yr ydym yn ei ddefnyddio yn egni adnewyddol.
Dadl y fferm wynt
Bore yma, llithrodd llythyr trwy'r blwch post i gynnig fferm wynt ar fferm yn Alltwalis. Wrth gwrs, mae hyn wedi codi ychydig o nyth cacwn yn yr ardal. Cred rhai bod y math yma o gynhyrchu egni yn wael gan ei fod yn anharddu'r ardal. I fod yn onest, mae'n rhaid cytuno. Rhyw ffordd neu gilydd maent yn edrych allan o le. Mae'r rhai enfawr sydd wedi cael eu codi ar bwys Castell Newydd Emlyn yn gallu cael eu gweld mor bell 芒 Boncath yn Sir Benfro.
Ar 么l i'r twrbeini gwynt gael eu hadeiladu am y tro cyntaf, y peth cyntaf ddaeth i'r meddwl oedd 'waw' Rwy'n dal yn meddwl hynny wrth eu pasio. A oes rhaid adeiladu twrbein gwynt mor uchel? Pan rydw i wedi bod dramor yn Norwy, yr Iseldiroedd a'r Almaen, mae'r twrbeini gwynt llawer yn llai o ran uchder.
Ond, problem wrth adeiladu'r twrbeini yn isel yw nad oes modd amaethu'r tir oddi tanynt, ac hefyd nid ydynt yn cael yr effaith fwyaf o'r gwynt. Felly trwy eu hadeiladu yn uwch mae'n bosib amaethu'r tir o dan y twrbein, ac hefyd mae modd dal y gwynt cryfaf.
Felly ai pris bach am egni adnewyddol yw anharddu'r amgylchedd? Yn 么l yr arbenigwyr yn y maes mae rhagor, nid yn unig mae yn effeithio ar brydferthwch yr ardal ond mae hefyd yn effeithio ar ecoleg yr ardal; yn enwedig yr adar. Maent yn poeni bydd yr adar yn hedfan i mewn i'r twrbeini. Heblaw am addysgu'r adar i beidio hedfan i mewn i'r t诺r, byddai'n rhaid gwneud gwaith ymchwil i wneud yn si诺r bod dim effaith ar fywyd gwyllt. Yn 么l y daflen, mae'r ymchwil wedi ei wneud yn barod i sicrhau na fydd effaith ar fywyd gwyllt yr ardal.
'Beth am y s诺n'? Dwi'n clywed rhai yn sgrechian. Yn bersonol, dwi wedi sefyll ar bwys fferm Castell Newydd Emlyn, ac nid oes llawer o s诺n gan y fferm. Os nad egni gwynt yw'r ffordd ymlaen yna beth arall sydd i'w gynnig?
Egni d诺r a'r haul
Egni d诺r ac egni'r haul fyddai'n bosib mewn ardal wledig Dyffryn Teifi. Wrth gwrs, mae egni d诺r wedi cael ei ddefnyddio ar raddfa fach ar gyfer diwydiant o'r blaen, ond beth am raddfa fawr? Mae p诺er d诺r wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen i bweru cartrefi Pont-Tyweli. Pam na fyddai'n bosib i ddefnyddio p诺er afon Teifi i roi trydan i'n cartrefi? Mae'r afon yna yn barod ac mae'r pwerdy yno o hyd. Rydym yn cael digon o law, ac mae nifer o adeiladau ar bwys yr afon y byddai'n bosib eu defnyddio i greu trydan ac hefyd byddai'r effaith ar fywyd gwyllt yn fach iawn.
Beth am egni'r haul? Mae'n bosibl i ddefnyddio'r haul i dwymo d诺r ac i greu trydan yn ein cartrefi yn barod trwy baneli solar. Felly, pam na fyddai'n bosib i ddefnyddio egni'r haul? Y broblem yng Nghymru yw nad ydym yn cael llawer o haul, ac fel y darganfyddais yn ddiweddar pan y bum yn edrych mewn i'r posibilrwydd o dwymo'r d诺r trwy ddefnyddio gwres yr haul neu 'solar power' mae cael y system i mewn i'r cartref yn gostus iawn.
I gloi, mae yna nifer fawr o bosibiliadau am egni adnewyddol, ac er bod cais cynllunio i adeiladu fferm wynt ar bwys Talgarreg wedi ei wrthod mae'n rhaid cofio bod yn rhaid symud ymlaen hefyd. Byddai'n well gennyf i os byddai egni adnewyddol yn dod o wahanol ffynonellau yn hytrach na dim ond dibynnu ar egni'r gwynt. Yn genedlaethol, mae egni'r m么r ac egni bio-thermal yn cael ei dreialu yn barod. Ond tybed beth fydd yn pweru ein cartrefi yn y dyfodol? Yr unig beth sydd yn sicr, nid wyf am dderbyn egni niwclear.
Gan Dylan Davies o Landysul
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.