A oes angen ffordd osgoi ar Landysul? Dyma'r ddadl sydd wedi hollti'r gymuned ers blynyddoedd. 'Oes' yw'r ateb yn 么l y rhai sydd yn teithio trwy'r pentref. 'Na' yn 么l perchnogion busnesau ac amgylcheddwyr Llandysul.
Yn 么l y rhai sydd yn erbyn y syniad, byddai hyn yn drychineb i fusnesau bychain, gan na fyddai pobl sy'n teithio yn galw i mewn. Y cwestiwn yw, faint o bobl sy'n teithio trwy'r pentref sydd yn aros beth bynnag - gan fod yna broblem parcio yn Llandysul.
Er bod maes parcio i'w gael yn y pentref, faint sy'n barod i barcio yno a cherdded fyny'r rhiw at y siopau. Bach iawn byddem yn tybio. Felly, maent yn gyrru trwyddo. Hefyd, dydy'r carafannau sy'n teithio trwy'r pentref braidd byth yn aros gan eu bod wedi dod a'u bwyd yn barod.
Yn fy marn i bach iawn fyddai effaith cael ffordd osgoi i Landysul yn ei gael ar fusnesau yn y pentref, heblaw am 'Valley Services' efallai gan eu bod nhw yn dibynnu ar bobl sy'n gyrru heibio.
Wrth gwrs, mae'r ffordd osgoi wedi cynhyrfu'r amgylcheddwyr gan ei fod yn mynd i amharu ar fywyd gwyllt a harddwch naturiol Dyffryn Teifi.
Yn 么l rhai hefyd, fe all y ffordd osgoi godi nifer y troseddwyr sy'n 'ymweld' 芒'r pentref gan y byddai modd iddynt ddianc yn haws i goridor yr M4. Gallai gofynion plismona newid gan y byddai'n rhaid iddynt gadw eu llygaid ar agor am droseddwyr yn hytrach na chosbi modurwyr am yrru ychydig dros y cyflymdra.
Yn 么l eraill byddai dod 芒 ffordd osgoi yn gostwng prisiau tai, ond yn fy marn i byddai'n codi'r prisiau gan y byddai'n denu fwy o bobl o'r dref i fyw yn nghefn gwlad. Wrth gwrs, anfantais yn fy marn i, yw y gallai ddenu fwy o bobl ddi-Gymraeg i ddod i fyw yma a Seisnigeiddo'r ardal.
Yn hytrach nag edrych ar anfanteision y ffordd osgoi, beth am edrych ar y manteision?
Pan fydd y ffordd wedi ei chwblhau, bydd yn golygu na fydd yn rhaid i drafnidiaeth drom fel lor茂au a'r rhai sy'n teithio am yr arfordir, deithio trwy'r pentref na thros y bont sydd yn Llandysul.
Y gobaith yw y byddai'r ffordd osgoi yn dod 芒 rhagor o waith i'r ardal lle mae gwaith yn brin. Mae parc busnes Llandysul y tu allan i'r pentref sy ar hyn o bryd yn wag ar wah芒n i Wasg Gomer.
Fel un sy'n teithio i'r gogledd i gerdded yn weddol rheolaidd, byddai'r ffordd osgoi o fantais.
I gloi, mae yna fwy o fanteision nag anfanteision i'r ffordd osgoi i Landysul yn fy marn i, a dw i ddim yn meddwl y byddai'n cael effaith rhy negatif ar fusnesau lleol yr ardal. Os gwnaiff y busnesau hysbysebu, pwy a 诺yr efallai gwnaiff y ffordd osgoi gynyddu eu gwerthiant. Ni all y gwaith o orffen y ffordd osgoi ddod yn ddigon cyflym i fi!
Gan Dylan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.