大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Teledu Rhaglenni diddorol ar S4C?
Beth yw eich barn chi am raglenni S4C? Digon o ddarpariaeth cyffrous, ffres a gwreiddiol neu ormod o ailddarlledu? Yma mae Dylan Davies o Landysul yn mynegi ei farn ...
Ers y 1af o Dachwedd 1982, mae Cymru wedi cael y pleser o dderbyn rhaglenni Cymraeg ar ei sianel ei hun.

Sianel sydd 芒 hanes diddorol o dor-cyfraith, llwgu ac aberth er mwyn gwneud yn si诺r bod sianel Gymraeg i bobl Cymru. Yn yr oes ddigidol rydym yn cael rhagor o oriau o raglenni Cymraeg. Ond tybed, faint o'r sianel yr ydych yn ei wylio?

Er fy mod i yn teimlo dyletswydd i wylio rhaglenni ar S4C, dwi yn ei gweld hi yn anodd iawn i wylio a mwynhau rhaglenni sydd yn cael eu ddarlledu ar y sianel. Heblaw am 搁补濒茂辞, Pobol y Cwm, Clwb Rygbi, Con Passionate a'r Newyddion dwi bron byth yn gwylio'r sianel. Pam hyn?

Teimlaf yr un peth gyda chylchgronau Cymraeg. Mae diffyg darpariaeth ar gyfer pobl ifanc Cymru. Mae yna ddigon o raglenni ar gyfer plant sef Planed Plant ac wrth gwrs mae digon i'r henoed. Ar gyfer fy niddordebau i mae'n rhaid troi at sianeli Saesneg i wylio rhaglenni moduro ac hefyd i wylio comedi.

Ers i S4C ddarlledu yn ddigidol, roeddwn yn meddwl byddai mwy o raglenni Cymraeg newydd yn cael eu darlledu, ond yn lle rydym yn cael ailddarllediadau o Cefn Gwlad, Wedi 7, Noson Lawen ac yn y blaen trwy'r amser. Er bod dad yn mwynhau edrych ar ailddarllediad o'r rhaglenni yma, dwi yn aml iawn yn mynd i ystafell arall i wylio rhaglenni eraill ar sianel arall.

Fel rhan o'i rhaglenni digidol mae S4C2 yn darlledu yn fyw o siambr y Cynulliad. Faint sydd yn gwylio hon? Os yw S4C am ddarlledu ailddarllediad o'r rhaglenni yma pam ddim eu darlledu ar S4C2 Yn aml iawn pan dwi yn fflicio trwy'r sianeli, nid oes dim yn cael ei ddarlledu ar y sianel.

Pam na fyddai S4C yn cynhyrchu a darlledu rhaglenni ar foduro, ail-wneud cartrefi neu deithio? O beth fedra i ei gofio trwy'r holl flynyddoedd darlledu nid oes rhaglen ar foduro wedi ei chynnwys. Mae hyd yn oed rhaglen Pacio wedi diflannu o'r sgrin.

Ond a yw hi yn deg i roi'r bai ar S4C? Efallai bod gan y sianel ddiffyg cyllid ar gyfer comisiynu rhaglenni newydd Cymraeg, a'r unig ffordd i ddarlledu deuddeg awr o raglenni Cymraeg yw trwy gynnig ailddarllediadau. Os dyma'r broblem, pam na fyddai rhagor o bobl yn ymgyrchu er mwyn gwneud yn si诺r bod sianel pedwar Cymru yn cael ei hariannu yn well? Yn fy marn i, mae'n bryd lob茂o'r Gweinidog Diwylliant a'i wneud yn ymwybodol o'r diffyg yn y ddarpariaeth.

Er fy mod i yn rhy ifanc i gofio Ryan Davies, pan dwi yn gwylio ailddarllediad o Fo a Fe, Ryan a Ronnie ac yn y blaen, dw i'n sylwi bod y sianel a'r iaith wedi cael colled aruthrol. Beth ddigwyddodd yn ddiweddar i Darn o Dir, drama sydd wedi ei lleoli yn Sir Benfro. Beth ddigwyddodd i Nyth Cacwn rhaglen gomedi yn cynnwys actorion lleol? A pam o pham rydym yn cael yr holl ail ddarlledu o C'mon Midffild rhaglen oedd yn llawn comedi ond erbyn hyn sy' wedi colli ei blas, yn fy marn i. Efallai "Gormod o bwdin....."

Ydyn ni wedi mynd yn genedl sych a syber heb fod gennym awduron sy'n fodlon mentro i'r maes comedi?

Yn lle beirniadu am newid, gadewch inni edrych ar y ddarpariaeth. Mae'r Sioe Fawr0 yn cael lle amlwg, mae hyn yn beth da am fod cynifer o bobl methedig yn medru "mynd" i'r sioe yn eu cadair freichiau ac eleni medrent wasgu'r botwm coch a chael dewis lle i ymweld yn y sioe. Mae'r Eisteddfod hefyd yn cael lle amlwg ac yn ogystal 芒'r sioe mae'r cyflwynwyr yn ysgafnhau'r arlwy ac yn mynd allan i'r maes i siarad 芒'r "werin datws." Rhaid i mi gyfaddef fy mod i hyd yn oed yn eistedd i wylio'r "Gymanfa Ganu" o'r Eisteddfod ac yn rhyfeddu at wychder ein cyfansoddwyr o eiriau a thonau!

I gloi, efallai fy mod yn hunanol fy mod i yn gwylio sianeli eraill i ddiwallu fy niddordebau mewn moduro a chomedi ac yn disgwyl bod S4C yn rhoi'r un ddarpariaeth 芒'r sianeli Saesneg sy', wedi'r cwbwl, yn derbyn cyllid aruthrol ar gyfer creu a chynllunio rhaglenni.

Fy marn i yw, mae'r hyn a gynigir gan S4C yn denau iawn. Mae'n drueni nad yw S4C, sianel lle mae pobl wedi ymladd amdani yn darparu rhaglenni sy'n annog pobl fel fi i'w gwylio a'i chlodfori yn rheolaidd.

Erthygl gan Dylan Davies o Landysul.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy