Cyflwynwraig Radio a Theledu
Ganwyd Eleri Sion yn nhalgylch Aberaeron ac fe'i haddysgwyd yn yr Ysgol Uwchradd leol.
Dechreuodd gyrfa lwyddiannus Eleri ym myd teledu fel cantores ac ar raglenni plant. Fe gymerodd hi ddwy flynedd o hoe yn ystod y cyfnod astudio ar gyfer ei gradd yng Nghymraeg ym mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno rhaglen Chwaraeon i blant o'r enw Cracabant.
Yna ym 1995 fe ymunodd 芒 chriw Chwaraeon 大象传媒 Radio Cymru er mwyn gohebu ar gemau rygbi (y ferch gyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg yn 么l y s么n). Hyn ar 么l hongian ei sgidiau rygbi yn dilyn anafiadau tra'n chware'r g锚m dros glwb rygbi Llanbedr Pont Steffan a phrifysgol Caerdydd lle fuodd hi'n gapten am flwyddyn.
Ar 么l gadael y brifysgol fe aeth hi ymlaen i weithio fel is Gynhyrchydd gyda chwmni teledu Apollo gan weithio ar raglenni fel Noc Noc, C芒n i Gymru a Dudley, ond fe ail ddychwelodd y chwant o weithio ym myd chwaraeon ac ym 1997 fe ymunodd 芒 th卯m Y Clwb Rygbi fel is- gynhyrchydd a chyflwynydd. Yn ystod y cyfnod hynny fe gyflwynodd Cyfres Saith bob Ochr Rygbi y Byd, Gemau'r Gwyddel, Pencampwriaeth p锚l-rwyd y byd, Pencampwriaeth roller-hockey y byd - hyn cyn cael y cyfle i gyd-gyflwyno Camp Lawn gyda Dylan Ebeneser ar 大象传媒 Radio Cymru.
Erbyn hyn, hi yw un o'r gohebwyr chwaraeon ar raglen Newyddion foreol 大象传媒 Radio Cymru, Post Cyntaf.
Yn ogystal mae'n gweithio'n achlysurol gyda chwmni teledu Sky fel is gynhyrchydd/gohebydd ar bencampwriaethau dartiau a 'pool' y byd.
Eleri sy'n cyflwyno'r rhaglen dalent Wawffactor ar S4C, ac mae'i phersonoliaeth hawddgar a hiwmor wedi'i gwneud yn arweinydd poblogaidd ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd ac fel cyflwynwraig ar raglen uchafbwyntiau S4C. Mae hefyd wedi cyd-gyflwyno cyfresi Y Briodas Fawr gyda Rhodri Owen ar S4C.
Yn fwy diweddar mae Eleri wedi ennill ffrwd newydd o gefnogwyr yn sgil serennu ar raglen boblogaidd un o gyn gapteiniaid t卯m rygbi Cymru, Jonathan. Mae'r sioe hwnnw yn gyfuniad o sylwebaeth ar ddatblygiadau ym myd rygbi a llawer o hiwmor gyda Rowland Phillips a Nigel Owens. Eleri Si么n yw'r angor rhwng y ddau ddigrifwr!
Mi fydd Eleri yn chwarae rhan allweddol eleni yn nathliadau deucanmlwyddiant Aberaeron wrth iddi hi a Huw Edwards arwain y dathliadau pen-blwydd ar ffurf noson fawreddog o adloniant ar gae-sgwar y dref.
Mwy am Aberaeron a dathliadau'r deucanmlwyddiant