Yn ddiweddar daeth cyfrol hir-ddisgwyliedig Erwyd Howells o'r wasg ac efallai i rai ohonoch gael cyfle i brynu copi yn sioe Tal-y-bont. Mae Good Men and True yn llafur oes o ymchwil manwl a chofnodi hanesion difyr trigolion y mynydd-dir. Ceir ynddi gipolwg ar ddull o fyw unigryw bugeiliaid y Canolbarth yn ymestyn o Fachynlleth i Gwm Elan. Pobl oedd rhain a gyfrannodd cymaint i'r gymdeithas wledig a chred Erwyd ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu cofio a'u mawrygu. Ar brynhawniau gwlyb y gaeaf bu Erwyd yn pori drwy ddeugain mlynedd o'r Welsh Gazette yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n ffodus o wneud t芒p llafar o rai o'r cymeriadau ac adnabod nifer o'r bugeiliaid yn bersonol a'u disgynyddion. O gael y cyfan at ei gilydd llwyddodd i greu cyfrol hynod ddarllenadwy. Ceir ynddi nifer o luniau difyr a gwahanol, ynghyd 芒 llungop茂au o ddogfennau. Enghraifft dda yw'r llun ar dudalen 200 o 诺r a gwraig Lluest Fach, Ponterwyd yn dal pladurau coes syth. Diddorol oedd deall fod y goes bladur fwaog y gwyddom amdani yn llawer mwy llafurus i'w defnyddio na rhain. Neulltir pennod i s么n am stormydd eira mawr y ganrif ddiwethaf a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r caledi mawr a'r colledion ddaeth yn eu sgil. Yn naturiol mae pennod am ddiwrnod cneifio ar y mynydd a lluniau diddorol o'r achlysur pwysig hwn yng nghalendr y bugail. Pwy arall fyddai'n neilltuo pennod i s么n am fwyd diwrnod cneifio a r么l bwysig y gwragedd i fwydo'r cneifwyr niferus. Ceir cofnod o'r wledd a fyddai'n cael ei pharatoi a hynny mewn cyfnod lle'r oedd yr adnoddau mor brin. Meddylier am fwydo 200 o gneifwyr llwglyd ddiwrnod cneifio Nant-stalwen a hynny yn hollol ddi-drafferth. Pam ysgrifennu llyfr yn Saesneg? Cred Erwyd ei bod yn bwysig i ddisgynyddion y gwerinwyr hyn - llawer ohonynt bellach yn ddi-Gymraeg - i gael y cyfle i ddarllen am eu cyn-deidiau. Mae'n cydnabod yn ddiolchgar gyfraniad nifer ohonynt i'r gyfrol a'u diddordeb heintus ynddi. Rheswm digon dilys dros ysgrifennu yn yr iaith fain, mae'n si诺r. Ar 么l ysgrifennu llyfr swmpus ar y bugeiliaid cred Erwyd y dylid hefyd gydnabod cyfraniad mawr gwragedd y mynydd. Her i rywun i fynd ati i ysgrifennu a gobeithio y bydd y gyfrol honno yn gweld golau dydd yn fuan o Gapel Madog hefyd. Mae'r argraffiad cyntaf wedi eu gwerthu ac ail argraffiad ar fin dod o'r wasg, tystiolaeth fod cyfrolau fel hyn yn hynod boblogaidd. O.N. Mae gan Erwyd gysylltiad teuluol ag ardal Papur Pawb, ganwyd ei hen-dadcu, Dafydd Mason yn Nolgelynen, Cwm Ceulan yn 1860.
|