大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
llun o Stephen Hugh Morgan O.B.E Anrhydedd i ddyn lleol
Ionawr 2008
Stephen Hugh Morgan yn derbyn yr O.B.E. am yr hyn a gyflawnwyd gydag Autism Cymru.
Pur anaml bydd Ei Mawrhydi a phwysigion y byd gwleidyddol yn cofio am ardal Papur Pawb wrth ddosbarthu ei hanrhydeddau ar ddechrau'r flwyddyn, ond eleni daeth clod i un ohonom ni pan dderbyniodd Stephen Hugh Morgan, Pencae, Taliesin yr O.B.E.

Daeth Hugh, Carol a'r teulu i fyw yn Nhaliesin rhyw saith mlynedd yn 么l, pan sefydlwyd yr elusen genedlaethol Autism Cymru.

Pan benderfynwyd lleoli'r elusen yn Aberystwyth yn hytrach na Chaerdydd daeth y newyddion fel sioc i lawer o bobl gan fod cymaint o elusennau 芒'u pencadlys yn Ne Cymru. Fel Prif Weithredwr Autism Cymru, mae Hugh wedi arloesi yn y gwaith o ddarbwyllo a newid polisi'r llywodraeth tuag at awtistiaeth, a chaiff ei gydnabod mewn sawl gwlad fel awdurdod yn y maes. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi annerch Llywodraeth yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon, T欧'r Arglwyddi a'r Gymuned Ewropeaidd.

Yn 2006 dewiswyd Autism Cymru yn Elusen y Flwyddyn S4C. Ar hyn o bryd, mae Hugh yn arwain t卯m sy'n sefydlu Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru a fydd yn penodi Athro Awtistiaeth yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru yn ystod 2008.

Er iddo dderbyn yr O.B.E. am yr hyn a gyflawnwyd gydag Autism Cymru, mae Hugh wedi treulio'i fywyd proffesiynol er 1975 ym meysydd awtistiaeth ae anabledd dysgu. Dechreuodd fel cynorthwydd nyrsio mewn ysbytai yng Ngwynedd cyn symud gyda'i deulu i Dde Cymru, Gwlad yr Haf a Chanolbarth Lloegr lle'r oedd yn Brif Weithredwr Autism West Midlands cyn dychwelyd i Gymru.

Llongyfarchiadau i Hugh ar ei anrhydedd. Mae'n fraint i'r ardal gael rhywun o'i allu a'i ymroddiad ef yn y cylch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy