大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
P锚l droed dan 13 Tal-y-bont Cyfle i ennill pencampwriaeth
Mawrth 2008
Bydd dydd Sadwrn 29 Mawrth yn ddiwrnod tyngedfennol i d卯m dan 13 oed Tal-y-bont (t卯m A) gan y bydd y bechgyn yn chwarae Llanilar yng ng锚m olaf y tymor, gyda'r bencampwriaeth yn y fantol.

Pob lwc i'r chwaraewyr ar gyfer y g锚m bwysig hon a gobeithio y bydd rhieni a chefnogwyr yn heidio i weld y g锚m.

Mae'r t卯m arall dan 13 oed, sy'n cynnwys bechgyn o flwyddyn 7 yn bennaf, hefyd wedi cael tymor addawol ac nid oes amheuaeth y bydd y t卯m hwn wedi aeddfedu erbyn y tymor nesaf. Mae'r timau eraill sy'n chwarae dan faner Clwb P锚l-droed Ieuenctid Tal-y-bont wedi perfformio'n dda hefyd ond ni fyddant yn codi cwpanau eleni. Roedd gan y pedwar t卯m dan 11 mlwydd oed gyfle i gyrraedd y rownd gynderfynol yn y gystadleuaeth-ddiwedd-tymor a gynhaliwyd ar feysydd Penweddig ar 8 Mawrth. Yn anffodus dim ond un t卯m lwyddodd i gyrraedd y rownd honno sef Merched Tal-y-bont.

Collodd Tal-y-bont o 1-0 o ganlyniad i g么l-yn-rhwyd-ei-hun anffodus. Collodd Teirw Tal-y-bont o 2-0 yn erbyn Aber United. Sgoriwyd y ddwy g么l yn y funud olaf, y gyntaf ohonynt gan fachgen o Dal-y-bont, Josh Abbot, sy'n chwarae i Aber. Collodd Teriyrs Tal-y-bont 1-0 yn erbyn t卯m cryf o Dregaron.

Yn y rownd gynderfynol yn erbyn Penuwch llwyddodd Merched Tal-y-bont i sgorio'n gyntaf, gyda Gwenno Evans yn penio i'r rhwyd o groesiad gan Nia Jones. Wedi brwydro'n galed i gadw'r fantais, ildiwyd g么l gydag ychydig dros funud yn weddill, a rhaid oedd chwarae amser ychwanegol. Ni sgoriwyd goliau pellach ac yn anffodus collwyd y gystadleuaeth giciau o'r smotyn, 3-1. Dim lwc felly i'r Merched.

Hoffwn ddiolch i'r staff hyfforddi - Dick Squires, Sian James, Simon Campion, Mark Ebenezer, Alun Thomas, Ceri Jones, Keith Hughes, Wendy Jones a Karen Evans - am eu gwaith diflino a'u brwdfrydedd yn ystod y tymor, a hefyd am y gefnogaeth a gafwyd gan rieni'r chwaraewyr. Diolch yn fawr.

Brian Richards

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy