Dros y blynyddoedd llwyfannodd pwyllgor y Barcud nifer o gyngherddau cofiadwy a nos Wener Mai 5ed ychwanegwyd un arall at y rhestr. Y tro hwn gwahoddwyd C么r Merched Lleisiau'r Werin o dan arweiniad Elonwy Davies, Llanybydder atom gyda'r baritone Trebor Evans, Dolgellau a'r tenor Glyn Williams, Porthygest yn unawdwyr. Swynwyd y gynulleidfa gan ganu swynol y C么r Merched a gwefreiddiwyd ni gan gyflwyniadau y ddau unawdydd o ganeuon llwyfan y gyngerdd i gyfeiliant piano Colin Jones. Llywydd y noson oedd Ifan Gruffydd, Tregaron a gwerthfawrogwyd yn fawr ei anerchiad, ei eiriau caredig a chynnes am waith pwyllgor y Barcud ynghyd 芒'i rodd hael at wasanaeth y Papur Bro. Hyfryd oedd cael croesawu ei briod Dilys gydag ef.
Cyflwynwyd yr artistiaid a chysylltwyd y cyfan yn hwyliog a deheuig gan arweinydd y noson Isaac Griffiths, Lledrod ac ef wnaeth y diolchiadau. Cyflwynwyd blodau i'r llywydd a'i briod gan Nest Jenkins a darparwyd yn hael iawn luniaeth i'r artistiaid gan Ferched Cymdeithas Ddiwylliadol Blaenpennal.
Teimlwn fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn iddynt i gyd am iddynt wneud trefnu'r gyngerdd yn waith mor hwylus a phleserus a gwerthfawrogwn yn fawr yr ymateb caredig a gafwyd iddo.
|