大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gambo
Bws y Cardi bach Y Cardi Bach 2009
Chwefror 2010
Adroddiad am berfformiad bws yr arfordir rhwng Aberteifi a Cheinewydd yn 2009.

Yn 2009, bu gwasanaeth bws yr arfordir rhwng Aberteifi a Cheinewydd yn weithredol rhwng 27 Mehefin a 27 Medi (bob dydd o'r wythnos ar wahan i ddydd Mercher).

Unwaith eto bu'r Cardi Bach yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion Ileol a thwristiaid.

Mae'r gwasanaeth yn cysylltu pentrefi'r arfordir (pentrefi na fyddai fel arall yn derbyn gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus da) ac mae'n wasanaeth gwerthfawr i'r gymuned leol ac ymwelwyr sy'n dymuno mwynhau'r arfordir neu gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion.

Mae'r Cardi Bach yn gwneud ei ran i gefnogi 'twristiaeth werdd' a hefyd mae'n darparu trafnidiaeth gynaliadwy sydd o gymorth i leihau tagfeydd traffig ar hyd y ffyrdd cul sy'n gwasanaethu Ilawer o'r arfordir yn yr ardal hon.

Ers cyflwyno'r Cardi Bach yn 2004, bu cynnydd yn nifer y teithwyr o fiwyddyn i flwyddyn a defnyddiodd bron i 4,000 o bobl y gwasanaeth hwn yn 2009 (cynnydd o 27% ar y fiwyddyn flaenorol).

Dosbarthwyd holiadur ynghylch y gwasanaeth i'r teithwyr. Er bod y sampl yn un bach, roedd yr arolwg yn dangos cefnogaeth gref a rhoddwyd adborth cadarnhaol i'r gwasanaeth.

Roedd yr arolwg yn dangos bod tua'r un faint o drigolion Ceredigion ac ymwelwyr a'r Sir wedi defnyddio'r gwasanaeth.

p>Hefyd, nododd y Brodyr Richard (y cwmni bvsus) fod cyfran uwch o deithwyr sy'n defnyddio gwestai Ileol yn teithio ar y bws o'i gymharu a'r blynyddoedd blaenorol.

Yn ogystal, bu iddynt nodi'r nifer o ymwelwyr tramor a chartref a ddefnyddiodd y Cardi Bach ar gyfer cerdded ar hyd arfordir Ceredigion a chysylltu a Llwybr Cenedlaethol Sir Benfro.

Teithiodd 大象传媒 Wales a 大象传媒 Cymru ar y Cardi Bach, gan gynnwys Derrick Brockway ('Weatherman Walking').

Cefnogwyd y Cardi Bach yn 2009 gan y cynghorau tref a chymuned ar hyd y Ilwybr (Aberteifi, Ferwig, Aberporth, Penbrvn. Llanarannog, Llandysiliogogo a Cheinewydd), Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy