大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Carl Hanson (1872-1961) yw'r g诺r yn y canol. (Llun trwy ganiatad LLGC) Canrif o rwymo yn y Gen
Mawrth 2007
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu naw o w欧r yn dal y swydd o brif lyfrgellydd. Ond dim ond tri pherson a weithredodd fel rheolwyr un o unedau pwysicaf y Llyfrgell, sef y Rhwymwyr.

Ac mae ganddynt i gyd gysylltiad ag ardal Y Tincer.

Bu Carl August Hanson yn bennaeth cyntaf yr Uned o 1912 hyd at ei ymddeoliad yn 87 oed ar 30 Mehefin 1959! Fe'i dilynwyd gan y diweddar John Ewart Bowen BEM. Yn frodor o Fetws Cedewain, ger Y Drenewydd lle y'i ganwyd ym 1915, roedd yn grefftwr medrus iawn ac fe'i hyfforddwyd yng Ngwasg Gregynog cyn iddo ymuno 芒 staff y Llyfrgell yn 1946 yn dilyn gwasanaeth milwrol. Dyfarnwyd y British Empire Medal iddo yn anrhydeddau'r Jiwbili'r Frenhines ym 1977 am ei gyfraniad sylweddol i w grefft.

John BowenYmddeolodd o wasanaeth y Llyfrgell ym 1981; bu farw yn 89 oed ar 4 Rhagfyr 2004, a chynhaliwyd ei wasanaeth coffa yn Amlosgfa Aberystwyth. Mae ei ddwy ferch yn byw yn yr ardal - Mrs Heather Morgan yn Heol Alun, Waun-fawr a Mrs Pam John, sydd yn byw yng Nger-y-llan, Penrhyn-coch ac sy'n gyfarwydd i rai o ddisgyblion Ysgol Penweddig fel eu hathrawes Saesneg.

Julian Thomas (Llun trwy ganiat芒d LLGC)Bu'r pennaeth presennol Julian W. T Thomas, sy'n enedigol o Fydroilyn, ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, yn un o brentisiaid disgleiriaf Mr Bowen, ac ef a benodwyd i'w olynu yn dilyn ei ymddeoliad. Mae Julian hefyd yn parhau traddoddiad anrhydeddus ei ddau ragflaenydd dawnus, yn adnabyddus iawn yn ei faes, a chafodd ei anrhydeddu drwy ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas y Llyfrwymwyr, yn 1996. Mae ganddo yntau hefyd gysylltiad ag ardal Y Tincer gan ei fod yn byw yn Ynyslas.

Bywyd lliwgar Carl Hanson
Mae hanes bywyd lliwgar Carl Hanson wedi ei groniclo gan y diweddar Dr. David Jenkins, y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, yn Y Bywgraffiadur Cymreig. Ganed Hanson yn Oslo, Gwlad Norwy, a symudodd tua 1898 i Lundain i ddilyn ei grefft fel rhwymwr llyfrau gyda J. Zaehnsdorf yn Shaftesbury Avenue. Ymhen tair blyneddd symudodd eto at gwmni enwog Riviere yn Regent Street, ac yno y bu am y degawd nesaf.

Ar ddiwedd 1911, allan o dri ymgeisydd profiadol, fe'i penodwyd i drwsio ac i ailrwymo casgliadau llawysgrifau a llyfrau prin pwysicaf y Llyfrgell Genedlaethol newydd. Dechreuodd ar ei swydd ar 1 Ionawr 1912. Cydnabyddodd Prifysgol Cymru ei gyfraniad unigryw ym 1955 pan gyflwynwyd iddo radd M.A. er anrhydedd. Pan ymddeolodd ym 1959 roedd wedi cyflawni 47 mlynedd o wasanaeth i'r Llyfrgell. Roedd yn undebwr llafur brwd, ac yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur yng Ngheredigion. Bu farw ar 26 Medi 1961, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Llangorwen.

Bu ei fab Victor Arnold Hanson (1908-1981) hefyd yn rwymwr llyfrau yn y Llyfrgell rhwng Hydref 1932 a Mawrth 1974, gan wneud cyfanswm gwasanaeth y tad a'r mab yn 90 mlynedd. Bu Victor farw ar 18 Medi 1981, ac fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys Llanbadarn Fawr.

Mae ei deulu yntau, fel teulu Mr Bowen, yn parhau i fyw yng Nghymru. Mae ei ferch Mrs Solveig Gobourn, yn byw yn lleol ym Mhlas Gelli Angharad, ac yn gyfarwydd i nifer fel gwirfoddolwraig yn siop elusennol Achub y Plant yn Aberystwyth lle mae'n bresennol bob Dydd Gwener. Mae ei chwaer, Mrs Rannveig Wallis a'i g诺r yn byw yn ardal Porth-y-rhyd, ger Caerfyrddin.

Rwy'n falch iawn i fedru dweud fy mod wedi adnabod ac wedi cydweithio gyda Mr Bowen a Mr Victor Hanson ac yn dal i gydweithio gyda Julian Thomas.

Richard E. Huws


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy