"Dechreuodd y gwaith ar gynllunio G诺yl Aberaeron 2007 n么l yn 2003. Ers Gorffennaf 28ain 2006, mae'r Swyddfa Docynnau yn Neuadd Goffa Aberaeron wedi bod ar agor, a chefais y fraint o fod yn gyfrifol amdano.
"Erbyn hyn, hon yw Swyddfa Gofrestredig Aberaeron 2007 Cyf, ac wedi tyfu'n ganolbwynt y dathlu. Fe synnech chi faint o ymholiadau diddorol, doniol a dryslyd sydd wedi dod ar ein cyfer ni, ac nid yn unig am y digwyddiadau!
"Lluniwyd rhaglen yr 糯yl i gynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae'n dathlu diwylliant, hanes, treftadaeth a cherddoriaeth Aberaeron. Mae'r talent cyfoethog, y mwyafrif ohono yn cysylltu'n agos 芒'n cymuned, yn eithriadol, ac rydym yn hynod falch o'r perfformiadau rhagorol a glywch chi.
"Dyma'r tro cyntaf i Aberaeron gynnal digwyddiad mor enfawr. Y bwriad yw darparu cyfrwng i arddangos talent lleol i gynulleidfa eang, a braf yw cofnodi bydd ffrindiau hen a newydd, o'r ardal leol ac o dramor, yn medru mwynhau'r 糯yl.
"Un o'r pethau pwysicaf i gofio yw nad digwyddiad bach di-nod yw hwn ynghanol y dref - mae tocynnau wedi'u gwerthu mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Hong Kong a'r Unol Daleithiau.
"Ar hyd y ffordd, rydym wedi profi ystod eang o heriau, o gynllunio a gosod y llwyfan mawr i drafod y toiledau a sbwriel! Mae'r holl brofiad wedi bod yn werth chweil, gyda llawer o chwerthin a pheth dagrau, ond yn bennaf rhai llon yn hytrach na lleddf!
"Wrth i 糯yl y Deucanmlwyddiant agos谩u, mae pethau'n dechrau prysuro a phoethi! Mae nwyddau'n cyrraedd bron bob dydd erbyn hyn, ac mae'r trefnu yn mynd yn ei flaen yn weddol dda - ambell broblem, ond hyd yn hyn, wedi'u datrys yn gyflym. Braf yw cael y cyfle i helpu pobl, rhoi gwybodaeth iddynt am y digwyddiadau, a cheisio lledu'r brwdfrydedd heintus!
"Felly, dewch yn llu i ddathlu gyda'n gilydd - bydd yn wythnos i'w chofio."
Lona M. Brierley
Cyfarwyddwr Cerdd yr 糯yl
Gorffennaf 2007
Digwyddiadau dathlu 200 yn Aberaeron
Lluniau dathlu'r deucanmlwyddiant