大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Neuadd Pantycelyn Bywyd Myfyriwr yn Aber
Awst 2006
Bydd nifer yn cychwyn yn y Brifysgol yn mis Medi, ac mae Lowri Johnston yn edrych yn 么l ar ei dwy flynedd gyntaf fel myfyriwr yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Y peth cyntaf mae'n rhaid i mi ddweud cyn dechrau s么n am fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth yw ei fod yn mynd yn gyflym iawn iawn. Wir i chi, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi hedfan heibio ac yn sydyn, ar ddiwedd mis Mawrth sylweddolais mai dim ond ychydig dros flwyddyn oedd gen i ar 么l. Mae'n teimlo fel ddoe ers i mi gyrraedd Neuadd breswyl Pantycelyn, yn gyffrous ond eto'n ofnus iawn am beth oedd yn fy ngwynebu.

Fy niwrnod cyntaf
Dwi'n cofio eistedd yn nghefn y car yng nghanol fy holl eiddo; wir i chi, es i 芒 phopeth oedd yn fy ystafell wely gan gynnwys ryw 150 o CD's a dim ond gwrando ar ryw bump ohonynt yn ystod y tymor cynta'! Doedd dim syniad o gwbl 'da fi beth i ddisgwyl, roeddwn i wedi clywed straeon am bethau ofnadwy oedd yn digwydd i'r flwyddyn gyntaf yn ystod 'Wythnos y Glas', ond allai sicrhau i chi sy'n dechrau'r Brifysgol yn mis Medi nad yw nhw'n wir o gwbl!

Roedd fy ystafell yn y flwyddyn gyntaf lan ar y llawr uchaf, ac ar 么l cario popeth lan y grisiau, ar 么l perswadio dad bod angen yr holl cds, dyma mam a dad yn fy ngadael. Dyna'r rhan waethaf, dweud "ta ta" a sylweddoli yn sydyn mod-i-ar-ben-fy-hunan. Ond dim ond am eiliad roedd hynny'n swnio fel peth gwael, achos yr eiliad nesaf wnes i sylweddoli beth oedd hyn yn ei olygu. Ar ben fy hunan, ac felly'n cael gwneud unryw beth yn y byd oeddwn i eisiau. Wel, hyd at ryw bwynt wrth gwrs. Ar 么l deunaw mlynedd o fyw dan do mam a dad, roedd hwn yn swnio fel nefoedd.

Roeddwn i'n weddol lwcus bod un o fy ffrindiau o Fro Myrddin hefyd yn symud i Neuadd Pantycelyn y flwyddyn honno, felly mas 芒 ni ar y nos Sadwrn cyntaf i brofi bywyd nos Aberystwyth. Ac fe allai eich sicrhau chi, os ydych chi'n dechrau yn Aberystwyth fis Medi chewch chi mo'ch siomi!

Roedd pawb yn hynod gyfeillgar, ac ar 么l cwpwl o 'lemon锚ds' roedd criw y flwyddyn gyntaf yn llawer mwy hyderus i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i siarad gyda phobl yn syth pan yn dechrau yn y Brifysgol - siarad gyda phawb ac o dipyn i beth bydd pobl yn setlo i grwpiau o ffrindiau. Y peth gwaethaf allwch chi wneud yw sticio gyda phobl chi'n nabod yn barod yn unig - mae Prifysgol yn rhoi cyfle i wneud ffrindiau newydd gwych.

Yr Hen Goleg Ar 么l Wythnos y Glas, a oedd wir yn agoriad llygaid, dechreuodd y darlithoedd. Fel un daeth i'r Brifysgol heb ffeils na phapur na hyd yn oed beiro, dim darlithoedd oedd y peth cyntaf ar fy meddwl! Rydw i'n astudio Cymraeg a rhaid dweud mod i'n mwynhau yn fawr, er bod rhai modiwlau yn fwy diddorol nac eraill! Mae'r darlithwyr yn garedig - yr unig beth gwael yw cerdded n么l lan y rhiw o'r Hen Goleg i Bantycelyn! A na, dyw e ddim yn mynd yn haws ar 么l amser!

Aber - y dref
Mae Aberystwyth ei hunan yn dref hyfryd a'r trigolion yn rhai caredig. Rydw i'n teimlo'n hollol gartrefol yno ac mae'r olygfa o stafelloedd Pantycelyn dros y dref wrth i'r haul fachlud dros y m么r ar ddiwedd diwrnod braf yn fythgofiadwy. Mae llawer o bethau i wneud yno, ac mae rhywbeth ymlaen yng Nghanolfan y Celfyddydau o hyd - boed yn ffilm, sioe, drama neu weithdy.

Bywyd nos
Mae digon o ddewis o dafarndai a chlybiau er mwyn mynd allan - y Cwps a'r Llew Du yw ffefryn Cymry Cymraeg y dref - ond rydyn ni hefyd yn mynd i Downies, Varsity, Kanes, yr Angel, y Castle a'r Ship and Castle yn weddol aml! Mae'n braf mynd i'r Llew Du a nabod bron pawb yn y dafarn, ond weithiau mae'n braf mynd i rhywle lle ni ddim yn adnabod neb - mae tueddiad gan fyfyrwyr di-Gymraeg Aberystwyth feddwl am y Cymry fel pobl sy'n cadw at eu hunain ond dyw hyn ddim yn wir ar y cyfan. Mae nosweithiau da ymlaen yn yr Undeb, a ni'n dueddol o fynd yno unwaith y bythefnos i brofi noson wahanol.

Mae'n dref hyfryd yn yr haf, a does dim byd gwell na chael barbiciw ar y traeth gyda ffrindiau, a pheint bach yn nhafarn y Glen yn edrych dros y m么r.

Rydw i wedi mwynhau bob munud o'n amser yn Aberystwyth, ac mi fyddaf yn drist iawn i adael. Os ydych chi'n dechrau yn y Brifysgol yn mis Medi eleni yna mi gewch chi amser gorau eich bywydau yno - gwnewch y mwyaf o'r cyfle! Ond wrth gwrs pa bynnag Brifysgol chi'n mynd, gewch chi ddim gwell hwyl na gewch chi yn Aberystwyth!

Lowri JohnstonGan Lowri Johnston


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy