大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Baner Japan O Japan i Benweddig
O Hydref 28 tan Dachwedd 5, 2006 fe ymwelodd chwech o fyfyrwyr o Kaya yn Siapan 芒 Phenweddig.

Fe ymwelont ag Aberystwyth fel rhan o'r cyfnewidiadau sy'n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn sgil Cymdeithas Aberystwyth-Kaya. Yn eu hebrwng ar eu hymweliad 'roedd Atsumi Ohta (sef Maer Tref Siapan), Yuka Ishimoto (y Cyfarwyddwr ar yr ymweliad), a Hiroshi Ueda (sef y Swyddog Addysg).

Cefndir
Mae yna saith cyfnewidiad deu-ffordd wedi cymryd lle yn cynnwys myfyrwyr a disgyblion chweched dosbarth y ddwy dref. Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu hysbrydoli gan y diweddar Mr Frank Evans. 'Roedd Mr Evans yn garcharor yn nhref Kaya yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe'i orfodwyd ef a'i gyd-garcharion i weithio yn y pyllau "nickel" yng Nghaya. Yn ystod yr wythdegau fe ddychwelodd Frank Evans i Kaya fel arwydd o gymodi.

Fe ymatebodd trigolion Kaya yn wresog i ymweliad Frank ac fe wnaethant sefydlu Cymdeithas Cyfeillgarwch. Fe sefydlwyd Cymdeithas Aberystwyth-Kaya yn fuan ar 么l hynny yn Aberystwyth, ac fe gymerodd y cyfnewidiad cyntaf le ym 1991.

Fe arhosodd y Japaneaid gyda theuluoedd disgyblion chweched dosbarth Penweddig. Ar y dydd Sadwrn, fe gyrhaeddodd y Japaneaid orsaf Aberystwyth i groeso cynnes Maer y Dref, Michael Jones, ac Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams. Yna fe aethant i gyfarfod 芒'r teuluoedd y byddent yn aros gyda hwy am weddill yr wythnos.

'Roedd bore dydd Sul yn bwysig iawn i'r ymwelwyr gan iddynt ymweld 芒 bedd Frank Evans yn nghapel Bethel, Tal-y-bont. Yna cafwyd croeso cynnes iddynt yno gan plant Ysgol Sul y capel. Fe berfformiodd y plant bedair eitem i'r ymwelwyr cyn cael y cyfle i sgwrsio 芒 hwy dros lluniaeth ysgafn. Yn y prynhawn, fe arhosodd y Japaneaid gyda'r teuluoedd roeddent yn aros gyda hwy ac 'roedd pob teulu wedi trefnu gweithgareddau unigol i'w gwneud.

Ddydd Llun fe ymwelodd y Japaneaid 芒'r Llyfrgell Genedlaethol. 'Roedd nifer ohonynt wedi'u plesio gan y ffaith fod dwy i dair ystafell yn cynnwys deunyddiau Japanieg. Ar 么l cinio yn y Llyfrgell fe aethant ar daith gerdded ar hyd y prom gyda prifathro Penweddig, Mr Arwel George.

Cawsant amsugno llawer o hanes ar y daith gerdded, er enghraifft hanes y castell, yr harbwr, yr hen goleg ac yn y blaen. Fe deithiodd y myfyrwyr i Aberaeron ar y dydd Mawrth er mwyn ymweld 芒 Phlas Llanerchaeron a Nant-yr-Arian. Wedi'r holl deithio ac ymweld yn y diwrnodau diwethaf, fe benderfynwyd bod y myfyrwyr yn haeddu hoe ac fe roddwyd bore rhydd iddynt. Manteisiodd y mwyafrif llethol ar y cyfle i fynd i siopa. Yna ar 么l cinio ym Mhenweddig, fe ymwelont ag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penglais.

Fe aethant i Ganolfan Dechnoleg Amgen ac Abergenolwyn ar y tr锚n ddydd Iau. Yna, ddydd Gwener fe ddychwelont i Ysgol Uwchradd Penglais yn y bore er mwyn gweld rihyrsal y sioe gerdd "Grease" 'roedd y disgyblion yn prysur baratoi cyn dychwelyd am y tro olaf i Ysgol Gyfun Penweddig.

Fe roddodd c么r a band pres yr ysgol (a oedd wedi mynd ar y daith cerdd i'r Almaen yn ystod yr hanner tymor) modd i fyw i'r ymwelwyr drwy berfformio iddynt. Gyda'r nos fe aethant i Frynamlwg er mwyn derbyn derbyniad swyddogol. Yn bresennol, 'roedd Fred Williams (Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion), Elfyn Jones (Aelod o'r Cynulliad) a Gareth Jones (y Cyfarwyddwr Addysg). Fe roddodd y Maer o Japan anerchiad yn Saesneg er mwyn cyflwyno'r criw o fyfyrwyr a dreuliodd yr wythnos yn Aberystwyth. Fe ganodd y myfyrwyr g芒n am y tymhorau yn y derbyniad swyddogol ac o hyd, fe gyfnewidiwyd rhoddion hael dros ben i'r naill ochr a'r llall ar ddiwedd y noson.

Fe dreuliodd yr ymwelwyr ddydd Sadwrn hefo'r teuluoedd roeddynt wedi aros gyda hwy yn ystod yr wythnos cyn ffarwelio ddydd Sul. Bydd y cyfnewidiad hwn yn aros gyda'r digyblion a gymerodd ran o'r ddwy ochr am byth. Mae nifer o luniau i fyny yn Ysgol Penweddig er mwyn coffau'r digwyddiad arbennig. Os bydd y cyfnewidiad nesaf yr un mor llwyddiannus ag y bu hwn, bydd y disgyblion sy'n cymryd rhan yn lwcus iawn.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy