大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Y Gig yn Llanbadarn Fawr Gig yn y Black
Ar nos Sadwrn, Tachwedd 4, chwaraeodd dau fand lleol o bentref Aberystwyth gig yn y Llew Ddu yn Llanbadarn fawr; Rid of Me a'r Violetones, dau fand eithaf poblogaidd yn yr ardal.

Dechreuodd y Violetones eu set tri chwarter awr, gydag un o'u caneuon cyntaf erioed, 'Cool and Unusual', dilynwyd gan y g芒n ddwyieithog, 'River Child'. Nesaf roedd 'Moby Dick' gan Led Zeppelin a'r drymiwr, Emyr Humphreys yn chwarae unawd gwych. Ar 么l eu c芒n mwyaf poblogaidd, 'Under the Tree' a chopi o'r g芒n 'Walk this Way' gan Aerosmith, chwaraeon nhw'r g芒n newydd 'Don't let the sun die' cyn gorffen gyda 'Padarn 1' efo esboniad fach am eiriau'r g芒n cyn ei chwarae. Ffrwydrodd y Llew Du gyda chymeradwyaeth cyn i'r prif fand, Rid of Me, ddod i'r llwyfan.

Chwaraeodd Rid of Me yn wych am awr, gan benderfynu beth i chwarae nesaf fel ddaethon nhw ymlaen. Cyn dechrau, wnaeth y drymiwr, Wez, chwarae unawd. Dywedodd fod ganddo ben tost ofnadwy! Chwaraeon nhw ymhell i fewn i'r nos ac yn ara' deg dechreuodd mwy a mwy o bobl agos谩u at y llwyfan i allu dawnsio i 'Mosh' a 'Head-banging'.

Roedd perfformiad baswr Rid of Me, Mickey yn wych. Dechreuodd ddawnsio gyda'r gynulleidfa. Roedd o'n cyfathrebu'n wych gyda nhw.

Lleoliad
Roedd yr ystafell gefn yn y Llew Du yn lle da i'r bandiau chwarae, doedd yna ddim llawer o bobl yno, rhwng 20 a 30. Daeth rhai dynion i mewn o'r bar i ymuno hanner ffordd trwy'r gig hefyd.

Yr awyrgylch
Mae'n rhaid taw dyma'r gig fwyaf cyfeillgar yr ydw i erioed wedi bod iddi. Roedd pawb yn adnabod ei gilydd ac yn rhoi cymeradwyaeth enfawr ar 么l pob c芒n.

Mae'n rhaid mai uchafbwynt y noson oedd Rid of Me yn chwarae c芒n yn arbennig i ddyn o'r gynulleidfa o'r enw Joe Marvelli. Trwy gydol y g芒n (wnaeth barhau am ddeg munud!) doedd neb yn eistedd i lawr. Roedd pawb yn ddawnsio wrth ymyl y llwyfan.

Y Violetones
Dechreuodd y Violetones fel deuawd ym mis Gorffennaf 2005, Emyr Humphreys ar y drymiau a Cynon Hinks ar y git芒r. Mis ar 么l i'r band i sefydlu roedd angen chwaraewr git芒r bas arnynt ac atebodd Twm Dylan o Flwyddyn 10 Ysgol Penweddig yr alwad. Yn fuan ar 么l Nadolig 2005 roedd y Violetones yn fand gyda phedwar aelod gyda Nick Morgan fel arweinwr git芒r. Mae ganddynt un E.P allan o'r enw 'Cool and unusual' ond mae'n rhaid ei brynu gan y band gan nad ydy hi yn y siopau eto. 拢3 yw'r gost - bargen am bump c芒n ardderchog.

Rid of Me
Sefydlwyd Rid of Me ym mis Ionawr 2005. Mae ganddynt E.P ar werth o'r enw 'Dischordia' a bydd un newydd o'r enw 'Infection' ar werth am 拢3 cyn bo hir, allwch brynu gan rywun yn y band.

Gan: Owen Reynolds

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy