大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Y gyngerdd Cyngerdd C么r a Cherddorfa'r Tair Sir
Gorffennaf 2007
Mae'r dair sir - Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn uno'u doniau cerddorol unwaith y fwyddyn i ddarparu cyngerdd mawreddog.
Cynhelir cyngherddau gan G么r y Tair Sir, Cerddorfa'r Tair Sir a Band Chwyth y Tair Sir.

Eleni, cynhaliwyd cyngerdd y C么r a'r Gerddorfa ar y cyd. Treuliodd aelodau'r C么r bedwar diwrnod - o ddydd Iau, Gorffennaf 5, hyd ddydd Sul, Gorffennaf 8 yng Ngholeg Llanymddyfri yn paratoi'u rhaglen ar gyfer y cyngerdd.

Fe barodd cwrs y Gerddorfa o ddydd Llun Gorffennaf 9, hyd ddydd Gwener Gorffennaf 13, gyda'r cerddorion yn lletya yng Ngholeg Llanymddyfri unwaith yn rhagor. 'Roedd yn rhaid i'r cerddorion gael eu gwahodd i fynychu'r ddau gwrs a dewiswyd aelodau'r C么r a'r Gerddorfa drwy gynnal clyweliadau ar draws y Siroedd yn gynharach yn y flwyddyn.

'Roedd rhaglen cyngerdd Cerddorfa a Ch么r y Tair Sir am 2007 yn cynnwys y Gerddorfa yn chwarae "Agorawd Romeo a Juliet" gan Tchaikovsky a rhan gyntaf "La Mer" gan Claude Debussy.

Cynhaliwyd cyngerdd y C么r a'r Gerddorfa ar y cyd am y tro cyntaf eleni oherwydd i'r ddau gr诺p o gerddorion ifanc berfformio "Carmins Burana" gan Carl Orff oedd yn gofyn am agweddau lleisiol ac offerynnol gyda'i gilydd. Mae'r darn hwn yn cynnwys dau ddeg pump o ganeuon byr wedi'u hysgrifennu gan fynachod mewn Lladin. Teg yw dweud taw "Carmins Burana" oedd uchafbwynt cyngerdd 2007. Perfformiwyd darnau'r holl gyngerdd dan arweiniad Mr Emyr Wynne-Jones.

Medraf gyhoeddi'n hyderus fod pawb a fuodd ar y ddau gwrs wedi cael modd i fyw yno yn canu, chwarae offerynnau, gwneud ffrindiau newydd, cymdeithasu a chael amser da!

Cynhaliwyd ymarfer ar y dydd Gwener i'r holl bobl ifanc ym Mhontyberem ar gyfer y cyngerdd oedd ar y diwrnod canlynol. Ac wedi noswaith dda o gwsg, cyrhaeddodd y dydd Sadwrn tyngedfennol hynny.

Cyngerdd yn Abertawe
Am y tro cyntaf erioed, 'roedd cyngerdd C么r a Cherddorfa'r Tair Sir yn cael ei gynnal y tu allan i'r tair sir - yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe. Menter hollol newydd oedd hon ac mae'n rhaid cyfaddef ei bod hi wedi bod yn llwyddiant gan fod rhieni a chymdogion aelodau'r C么r a'r Gerddorfa wedi gallu mwynhau prynhawn ymlaciedig o amgylch siopau Abertawe ar 么l ffarwelio gyda'r cerddorion yn Neuadd y Brangwyn ar gyfer eu sesiwn o ymarfer yn y prynhawn.

Dechreuodd y cyngerdd yn brydlon am hanner awr wedi saith yr hwyr, ac 'roedd aelodau'r C么r a'r Gerddorfa wedi teimlo bod yr wythnos galed o ymarfer wedi bod yn werth chweil ar 么l clywed y bonllefau o gymeradwyaeth a dderbyniont ar ddiwedd y noson.

Fe wnaeth yr holl aelodau ffrindiau newydd ar y cwrs a chael amseroedd da iawn. Mae pob un ohonynt yn dychwelyd i'w cartrefi gydag atgofion melys.

Rydym am ddiolch i'r holl athrawon peripatetig am eu holl waith caled a'u cymorth, ac yn arbennig i'r arweinwr, sef Mr Emyr Wynne-Jones.

Ac felly beth yw neges olaf oll y cerddorion a'r cantorion?

"Dewch 'mla'n cwrs tair sir 2008!!"

Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy