大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Ffair Nadolig Penweddig 2007
Rhagfyr 2007
Ar 7 Rhagfyr, 2007 cynhaliwyd Ffair Nadolig Penweddig yn neuadd yr ysgol.

Mae'r Ffair Nadolig yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr ysgol ac mae'n gyfle i ddisgyblion, rhieni ac athrawon gyd-weithio.

Yn ystod y dydd Gwener, buodd rhai disgyblion o'r chweched dosbarth yn brysur yn gosod byrddau a chadeiriau yn y neuadd ar gyfer y noson honno. Bob blwyddyn, mae'r mwyafrif o stondinau yn dibynnu ar haelioni y disgyblion i gyfrannu nwyddau, megis oglau da, fideos, cryno-ddisgiau a theganau nad ydynt eu heisiau bellach. Gwneir yn sicr fod digon o nwyddau yn cael eu cyfrannu at y ffair drwy roi diwrnod 'dillad ein hunain' i'r disgyblion ar yr amod eu bod yn rhoi nwydd bob un i ffair yr ysgol.

Dechreuodd y ffair am 6:00yh, a chyrhaeddodd pawb i gyfeiliant band yr ysgol yn chwarae carolau. Daeth Rhys ap Hywel i agor y ffair ym Mhenweddig (sef cymeriad Jason ar Pobol y Cwm). 'Roedd yn gyfle arbennig i Rhys ymweld 芒'r ysgol a chwrdd 芒'r athrawon unwaith yn rhagor am ei fod yn gyn-ddisgybl ym Mhenweddig.

'Roedd neuadd yr ysgol yn orlawn hefo stondinau teganau, stondinau tombola, stondin 'pwnsh' cartref, stondin oglau da, stondin gwisg ysgol Penweddig ail-law, stondin gwerthu tocynnau raffl, stondin lyfrau, stondin fideos, stondin cryno-ddisgiau, stondin gemwaith a stondin enwi'r tedi! Os nad oedd hynny'n ddigon, gwelwyd groto Si么n Corn yng nghyntedd cotiau'r ysgol! 'Roedd y plant ieuengaf yn medru ymweld 芒 Si么n Corn (disgybl o'r chweched dosbarth) a chael anrheg Nadolig ganddo!!

Cymdeithas Cyfeillion Penweddig oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu'r ffair Nadolig. Rwy'n credu i'r noson fod yn llwyddiant ysgubol a chodwyd llawer iawn o arian yno.

Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at ffair Nadolig y flwyddyn nesaf yn barod gan ei fod yn noson hwyliog ac yn llawn sbort!

Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy