大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Iwan Llwyd Gweithdy barddoniaeth
Ar 11 Hydref 2007, fe gafodd Ysgol Gyfun Penweddig ymwelydd pwysig iawn o'r byd barddoni, sef Iwan Llwyd.

Mae Iwan Llwyd wedi porthi'r genedl efo cerddi adnabyddus megis "Far Rockaway" a "11.12.82". Ond ar y diwrnod arbennig o dan sylw, 'roedd y bardd am gynnal gweithdai ysgrifennu i rai o'r disgyblion.

Buais i'n ddigon lwcus i fod yn un o'r disgyblion a gymerodd rhan yn y gweithdy ac mae'n rhaid dweud buasai colli'r sesiwn wedi bod yn golled enfawr. 'Roedd pob sesiwn yn para oddeutu dwy awr.

Dechreuodd y sesiwn efo cyflwyniad byr gan Iwan Llwyd a oedd yn cynnwys cyfeiriadau at rai o'i gerddi a beth sy'n gwneud darn o farddoniaeth da. Gwerthfawrogais ei farn yn fawr iawn gan i Iwan Llwyd fod yn feirniad llenyddol mewn nifer o eisteddfodau. Aeth ymlaen i siarad am gryfderau a gwendidau cerddi a'i arwr ef (sef T.H.Parry Williams). Yna ar 么l iddo s么n am sut mae ef yn mynd ati i lunio cerdd, fe wnaeth yr holl ddisgyblion greu cerdd gyda chymorth y bardd ar y cyd. Testun y gerdd oedd yr Hydref yn Aberystwyth. Gwelir y gerdd hyn isod.

Haf Bach Mihangel
Mae'r dref yn noeth
A'r haf wedi gadael,
Y traethau'n wag
A'r trenau'n llawn
Myfyrwyr yn dychwelyd.

Oglau t芒n coed
A'r ceir yn mygu,
Y plant dan haenau o gotiau
Yn cicio dail ar y stryd.

Ond pan ddaw llygedyn o haul
I wincio ar y gwlith
A'r adar eira i heidio
A chlwydo dan y pier
Mae 'na ryw heddwch yn gwrlid
Tan ddaw'r barrug gyda'r bore.

Ond nid oedd creu cerdd gyda chymorth bardd llwyddiannus yn sialens fawr - ac 'roedd Iwan Llwyd yn deall hyn. Felly er mwyn gorffen y gweithdy rhannwyd y disgyblion i fewn i grwpiau o tua chwech disgybl, a gofynnwyd iddynt i lunio cerdd ar destun Cantre'r Gwaelod. Tipyn o her coeliwch fi, ac mae'n deg dywedyd fod angen tipyn o waith ar rai o'r cerddi!

Rwy'n hynod o ddiolchgar i Ysgol Penweddig am drefnu a thalu am y gweithdy, ac yn hynod o ddiolchgar i'r bardd Iwan Llwyd am ei gynnal. Fe ddysgais llawer am sut i greu cerdd, ac yn aml dechrau'r creu sydd anoddaf. Gallaf ddweud yn hyderus ar ran yr holl ddisgyblion a gymrodd ran yn y gweithdy i Iwan Llwyd ein rhoi ar ben ffordd a'n bod oll wedi mwynhau. Dwi'n si诺r y bydd llawer iawn mwy o geisiadau yn cyrraedd dwylo'r beirniad yng nghystadleuaeth creu cerdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd flwyddyn nesaf!

Carys Mair Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Laura Ellis
Mae iwan llwyd yn dda am y cerddi ma dan ni wedi wneud gwaith amdan 11.12.82
Thu Jun 26 11:44:29 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lluniau
Trefi
Digwyddiadau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy