|
|
|
Taith Romania Yn mis Mehefin 2006 teithiodd myfyrwyr o Aberystwyth a thri o arweinwyr o'r Urdd i ardal dlawd Popesti yng ngogledd ddwyrain Romania. |
|
|
|
Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith.
Trefnwyd y daith ar y cyd rhwng y Romanian Foundation for Children, Urdd Gobaith Cymru a ni, criw o wyth o fyfyrwyr o Aberystwyth. Ar 么l misoedd o waith caled yn codi arian a pharatoi, roedden ni ar y ffordd yno dal heb syniad beth i ddisgwyl.
Treuliom ein noson gyntaf yn nhref Oredea, er mwyn cyfarwyddo 芒'r wlad a chael cyfle i siopa am adnoddau i'r ganolfan lle byddem yn treulio y pump diwrnod nesaf. I fod yn onest, doedd dim syniad gyda ni o beth oedd anghenion y plant na pa fath o gyflwr fyddai ar y ganolfan. Ond roedd pethau mor rhad yno llwyddon ni i brynu llwyth o ddeunydd celf a chrefft, offer chwaraeon a llestri i'r ganolfan cyn i ni adael am Popesti.
Cyrraedd Popesti
Dim ond wrth gyrraedd Popesti wnaeth e'n taro ni o'r gwir sefyllfa a'r tlodi. Roedd y gwahaniaeth rhwng Popesti ac Oredea yn anferth. Ceffyl a chart oedd modd trafnidiaeth rhan fwyaf o drigolion yr ardal, a doedd dim d诺r twym na chawod lle oedden ni'n aros. Am bump diwrnod!
Roedd nifer o blant yn chwarae tu allan i'r ganolfan wrth i ni ddod o'r bws a phawb yn troi i syllu arnom. Daeth nifer i siglo ein llaw neu rhoi cwtsh i ni a'r rhai mwyaf hyderus yn ein cyfarch yn Saesneg. Yna, roedd hi'n bryd i gwrdd 芒'r rhai oedd yn gweithio yn y ganolfan. Gwirfoddolwyr oeddent i gyd o'r pentref ac mae nhw'n gwneud gwaith gwirioneddol arbennig.
Esboniodd pennaeth y ganolfan sefyllfa'r plant. Roedden ni'n mynd i dreulio'r wythnos yn gweithio mewn canolfan ar gyfer ieuenctid yr ardal oedd yn mynychu ysgol arbennig ar gyfer plant amddifad, neu oedd yn dioddef trais yn y cartref, wedi eu effeithio gan alcoholiaeth yn y cartref, neu yn cael problemau dysgu. Ond roedd y ganolfan hefyd ar agor i blant eraill yr ardal nad oedd yn mynd i'r ysgol arbennig.
Roedd y plant yn medru mynychu'r ganolfan bob awr o'r dydd - o wyth y bore ac roeddent yn aros nes iddi dywyllu tua hanner awr wedi deg y nos. Er gwaethaf sefyllfa'r plant roeddent yn blant hapus, cyfeillgar, hwylus ac egn茂ol iawn! Roeddent o hyd yn chwarae tu fas ac yn rhedeg o gwmpas neu gicio p锚l.
Rhannu diwylliant
Penderfynom y byddai'r diwrnod cyntaf yn ddiwrnod 'rhannu diwylliant'. Ar 么l chwarae gemau yn y bore, gan eu hannog nhw i ddysgu rhai i ni, treuliom y prynhawn yn gwneud celf a chrefft gyda'r plant tu allan. Roedden ni yn gwneud lluniau o bethau oedd yn berthnasol i Gymru a hwythau yn gwneud rhai o Romania. Er gwaethaf y broblem iethyddol, ar y cyfan doedd dim problem cyfathrebu. Byddem ni'n siarad Cymraeg gyda nhw a hwythau yn siarad yn 么l yn eu hiaith nhw, a doedd dim problem. Mae'r ffyrdd o gyfathrebu sy'n cael eu creu pan nad yw iaith yn ddewis yn ddiddorol!
Gan eu bod mor hoff o chwaraeon, trefnwyd bore o fabolgampau. Roeddent yn gystadleuol iawn, ond yr athrawon oedd y gwaethaf! Cystalodd ryw bedwar t卯m o tua naw yr un mewn pob math o gystadleuthau - rhai yn fwy gwirion nac eraill! Roedd y merched yn enwedig yn hoff o chwaraeon a bron pob un yn meddu ar sgiliau p锚l-droed medrus iawn.
Llwyddiant
Roedd hi'n anodd iawn gadael y plant ar 么l wythnos fythgofiadwy, ac roedden ni wedi dod yn ffrindiau mawr gyda nhw. Bwriad y daith oedd i dreulio amser gyda'r plant yn rhoi profiadau gwerthfawr iddynt - ac fe allai eich sicrhau chi, mae pob plentyn yn Popesti nawr yn gwybod dawns jac-y-do! Dwi'n hyderus ein bod ni wedi llwyddo yn ein bwriad, yn enwedig wrth ddysgu gemau iddynt y gallan nhw gario ymlaen gyda nhw ar 么l i ni adael. Prynon ni barasiwt iddyn nhw chwarae ac roedden nhw wrth eu boddau - a paention ni hop-scotch ar yr iard iddyn nhw fedru ei ddefnyddio.
Un bore, wrth i ni ddechrau'r diwrnod gyda dawns egn茂ol Llangranog yn y ganolfan, dyma un merch tua wyth oed a dau fachgen tua phedair oed yn edrych i mewn trwy'r drws yn betrus a swil. Gwrthodon nhw ddod i ymuno 芒 ni, er i ni eu hannog nhw i wneud. Ar 么l sawl awr o drio eu cael nhw i ymuno ac i fwrw eu swildod, erbyn y prynhawn roedden nhw'n llawn egni a hwyl ac yn chwarae gyda'r plant eraill, wrth eu boddau. Os ydyn ni wedi llwyddo rhoi hyder i'r tri plentyn yma i gymdeithasu mwy ac i fedru mwynhau, yna dwi'n meddwl bod y daith wedi bod yn llwyddiant.
Mae arian ar 么l gennym ni o'r daith felly rydyn ni'n cychwyn cronfa i geisio cael y plant yn 么l yma i Gymru. Mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r cysylltiad yn gryf, a dwi'n gobeithio'n fawr mai dyma ddechrau perthynas glos rhwng plant Cymru a Romania.
Gan Lowri Johnston ar ran y criw
Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith.
|
|
|
|
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|