Dyma farn Carys Mair Davies, disgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.
Rwyf am drafod testun tymhorol sydd hefyd yn bwnc llosg ar hyn o bryd. Pan feddyliwch chi am y Nadolig, beth sy'n dod i'ch meddwl? Yr hwyl o berfformio drama'r geni yn yr ysgol neu'r eglwys? Seren Bethlehem yn ddisglair yn y nen? Neu carolau'n cael eu canu?
Mae'r rhain yn ymwneud 芒 rhai o draddodiadau hynaf y Nadolig ac maent i gyd yn ymwneud 芒'r grefydd Gristnogol. Felly, rwy'n gynddeiriog i glywed fod rhai eneidiau gorsensitif am ddileu'r Nadolig Cristnogol a chael rhyw 诺yl lipa, ddiystyr, fasnachol yn ei lle.
Yn ddiweddar, bu rhai cynghorau yn Lloegr yn gwahardd yr elfen Gristnogol o ddathliad y Nadolig, gan greu rhyw 诺yl ddiystyr o'r enw 'Winterval', neu 糯yl y Gaeaf yn Gymraeg. Yn fy marn i, mae hyn yn hollol hurt. Cred rhai pobl fod dathlu'r Nadolig yn tramgwyddo pobl sydd yn ymarfer crefyddau eraill. Ond mewn arolwg a gynhaliwyd yr wythnos hon, yn 么l y "Wales on Sunday" 'roedd y mwyafrif helaeth o rieni mewn ysgolion ethnig , sef 91% ohonynt yn erbyn seciwlareiddio'r Nadolig, ac roeddent o blaid perfformio drama draddodiadol y geni.
Fe wnaeth llyfrgell yn Lloegr wrthod rhoi poster i fyny yn hysbysebu cyfarfod canu carolau, ond ar y llaw arall caniatwyd yn yr un llyfrgell boster yn hysbysebu dathliadau Diwali. Mae hyn yn dangos rhagfarn yn erbyn Cristnogaeth mewn gwlad sydd wedi bod yn wlad Gristnogol ers canrifoedd lawer. Bu anghydfod mewn ysgol yn Lloegr hefyd pan geisiwyd rhoi cyw i芒r halal yn hytrach na thwrci traddodiadol ar y fwydlen Nadolig, ond oherwydd gwrthwynebiad chwyrn y mwyafrif helaeth o rieni, rhoddwyd y gorau i'r syniad. Os yw Prydain yn poeni gymaint ynglyn 芒 thramgwyddo, pam ei bod mor barod i dramgwyddo ei phobl ei hun? Gwlad Gristnogol yw Prydain ac nid wyf yn credu y dylai newid ei thraddodiadau er mwyn plygu i agenda o gywirdeb gwleidyddol nad yw mwyafrif y bobl gan gynnwys pobl ethnig yn ei chefnogi.
Yn yr un modd, petae Cristion yn byw yn India - ni fyddai yn disgwyl i'r wlad a'i thrigolion beidio 芒 chynnal gwyl Ganapati. Byddai'n derbyn traddodiadau'r wlad y mae wedi dewis ymgartrefu ynddi. Mae ceisio dathlu'r Nadolig heb Grist yr un fath 芒 cheisio dathlu noson t芒n gwyllt heb wybod stori Guto Ffowc.
Yn 么l arolwg diweddar mae tri cyflogwr o bob pedwar yn gwrthod i'w gweithwyr roi addurniadau Nadolig i fyny yn y gweithle. Mae hyn yn ymddangos braidd yn eithafol ac nid wyf yn credu fod ychydig addurniadau lliwgar yn mynd i amharu ar eu gwaith. I'r gwrthwyneb mae gweithlu hapus yn fwy tebygol o weithio yn well. 'Rwyf yn ei chael yn anodd coelio'r ystadegau hyn gan fy mod yn gweld addurniadau Nadolig yn ffenestri y rhan fwyaf o fusnesau a swyddfeydd. Y cyflogwyr hyn sydd yn cyfateb i gymeriad enwog Charles Dickens - dyma'r Scrouge modern. Ba Humbug!!
Mae nifer o bobl yn teimlo fod cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhy bell.
Bu llawer o s么n yn y wasg yn ddiweddar ynglyn 芒'r weithwraig "British Airways" a waharddwyd rhag gwisgo croes fechan o gwmpas ei gwddf rhag ofn ei bod yn "tramgwyddo" pobl o gredodau eraill. Ar yr un pryd 'roedd yr un cwmni yn caniatau i ferch Foslemaidd wisgo gorchudd ar ei phen, sydd yn yr un modd yn symbol o'i chrefydd.
Mae'r gymuned Foslemaidd yn ofni y bydd adwaith anffafriol yn eu herbyn wrth i bobl Prydain deimlo bod eu traddodiadau a'u crefydd hwy yn cael eu gwthio fwyfwy o'r neilltu. Nid eu dymuniad hwy yw dileu Cristnogaeth o 诺yl y Nadolig. Felly does neb yn hapus ac mae problem yn cael ei chreu lle nad oedd yno broblem yn wreiddiol. Y gwirionedd yw fod gwahardd y Nadolig Cristnogol traddodiadol yn creu rhaniadau mewn cymdeithas yn ddiangen.
Mae hepgor stori'r geni o'r Nadolig yn gwneud i ffwrdd 芒 chalon ac ystyr y Nadolig. Yn ddiweddar bum yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwrando ar ddarlith gan Dr Rhiannon Ifans yn s么n am draddodiadau Nadolig yr hen Gymry, a G诺yl y Plygain yn arbennig. Cafwyd triawd yn canu hen garolau'r Plygain a chafwyd hanes traddodiadau Cristnogol Cymreig a oedd yn ymestyn yn 么l i'r Canol Oesoedd. Byddai'n drueni mawr colli'r cyfoeth hyn o draddodiadau, y cyfan yn cael eu haberthu ar allor cywirdeb gwleidyddol.
Mae gennym ni i gyd atgofion melys iawn o gymryd rhan yn nrama'r geni - cael hwyl wrth baratoi'r gwisgoedd - y bugeiliaid mewn tywelion streipiog, y doethion mewn coronau tin ffoil a dillad ysblennydd, yr angylion mewn llieniau gwyn a thinsel o'r goeden Nadolig ac ambell un yn cael y fraint o fod yn ben-么l asyn!!! Pam na ddylai plant y dyfodol gael yr un hwyl a sbri?
Er waethaf pob chwiw a ffansi ddiweddar mae traddodiadau Cristnogol y Nadolig wedi eu gwreiddio yn rhy ddwfn ym meddylfryd a thraddodiadau'r wlad iddynt newid. Mae gan stori'r Nadolig ap锚l oesol, ac i wyrdroi geiriau c芒n Dafydd Iwan, "er waethaf pawb a phobeth" bydd y Nadolig yn ei ffurf bresennol "yma o hyd".
Gan Carys Mair Davies.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
A yw cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhy bell? Neu a ydych chi'n anghytuno 芒 Carys Mair Davies?
Gall fod peth oedi weithiau cyn i'r sylwadau ymddangos.