Tomos Dafydd o Gaerdydd
Dwi'n hoff iawn o fwyta allan, fel wneith fy ffrindiau a fy nheulu dystio!
Y ty bwyta ddiweddaraf i mi ddarganfod yw'r Fish and Anchor" ger Cribyn, Llambed. Ar yr olwg gyntaf does dim byd trawiadol o ran pryd a gwedd yr adeilad, na chwaith dim byd syfrdanol am wynepryd yr adeilad ar y tu fewn.
Mae'r bwyd serch hynny yn odidog! Dim gor-ddweud yw datgan mae dyma'r pryd bwyd gorau i mi gael erioed! A mae hynny yn ddweud mawr!
Ceir rhywbeth at ddant pawb - i'r rhai traddodiadol, cig oen a chig eidion lleol. I'r rhai mwy mentrus - y Baedd Gwyllt.
Tue Aug 22 12:30:04 2006
Karin o Aberhonddu
Mae bwyd yn Bwyty Stryd y Castell yn Aberhonddu'n arbennig o dda. Maen nhw'n cefnogi cynhyrchwyr lleol a mae'r awyrgell yn gyfeillgar iawn.
Wed Sep 12 11:02:09 2007
Carys o Gilgerran
Tafarn Ffostrasol yw'r lle i fod am ginio Dydd Sul gwych!!!!!!!
Thu Sep 6 16:07:53 2007
Hannah o Llanelli
Nid oes gennym lle gorau i fwyta allan. Y lle rydym yn hoff iawn o fwyta ydy bwyd yn fy nhy i. Pam y mae llawer o bobl yn hoffi bwyta allan? Ie mae'n gret ond dydi llefydd fel Mcdonalds ddim mor dda.Diolch am ddarllen hyn.
Mon Sep 25 15:43:24 2006
Aleisha o Aberystwyth
Rydw i yn hoffi mynd siopa yn Aberystwyth, ac hefyd yn llanbed!!!!!
Wed Jan 4 13:22:32 2006
Mags
Carlton House, Cartref Henoed, Llanon, Ger Aberystwyth.
Hoffi bwyd Le Figaro ond ddim yn hoffi talu ychwanegol am y llysiau.
Mae Bell View yn gret!!
Thu Nov 17 14:11:32 2005
Llinos Jones, Machynlleth
Skinners ym Machynlleth oherwydd mae'r bwyd yn flasus iawn
Thu Jul 21 13:54:09 2005
Elin Evans Machynlleth
pizza bar Machynlleth
Thu Jul 21 13:52:10 2005
Daenna Forty, Machynlleth
Rydw i yn hoffi mynd i Buger king a Mcdonalds oherwydd fod e yn flasus iawn
Thu Jul 14 15:12:31 2005
Margo Edwards o Fachynlleth
Rydw i'n hoffi mynd i'r siop sglodion a pysgod Hennigans yn Machynlleth oherwydd mae'n flasus iawn
Thu Jul 14 15:10:48 2005
Sarah Vaughan o Machynlleth
White Lion oherwydd mae'n fwyd blasus iawn ac mae'r bwyd yn dod yn reit gyflym, y bwyd rwy'n hoffi orau yna yw cinio dydd sul oen gyda cacen fudge siocled gyda hufen aerosol i bwdin. Rwy'n gobeithio y bydd y White Lion yn cadw i fynd am hir fel y byddai yn gallu mwynhau fy nghinio sul.
Thu Jul 14 15:09:03 2005
lowri jones cemaes
Rwyn hoffi mynd i gael bwyd yn Red Lion yn Dinas Mawddwy. Oherwydd mae bwyd da yna. Mae'r pris yn rhesymol.
Thu Jul 14 15:04:21 2005
Emma Caryl Forbes
Llety Parc yn Aberystwyth oherwydd mae yna
fwyd bendigedig fel cinio dydd sul a phob
mathau o gwahanol fwydydd yno.
Thu Jul 14 15:03:13 2005
Sara Humphreys , Aberangell
Rwyf yn hoffi mynd i Skinners Arms yn Machynlleth i cael pryd o fwyd oherwydd rydych yn cael llawer o fwyd ac mae'n ddiddorol.
Thu Jul 14 15:01:42 2005
Megan Ryder o Glantwymyn
Rydw i yn hoffi mynd i'r Penros yn Cemmaes (ger Machynlleth)oherwydd mae'r bwyd yn flasus ac rwyf yn nabod pawb sydd yn gweithio yna gan gynnwys y perchennog
Thu Jul 14 15:00:52 2005
Alwyn Pughe o Derwenlas
Fy hoff le i fynd allan i fwyta yw Black Lion yn Derwenlas.
Thu Jul 14 14:32:22 2005
Debbie Davies o Llanbrynmair
Dwi'n hoffi fynd i Macdonalds oherwydd dydy o ddim yn rhy ddrud a mae'r bwyd yn dda a dwi'n hoffi y cheese burger yno.
Thu Jul 14 14:30:21 2005
Iwan Griffiths o Penegoes
Ewch i Gaffi Maengwyn yn Machynlleth i gael pryd o fwyd gwerth chweil!
Thu Jul 14 14:29:36 2005
Catrin Jones Machynlleth
Caffi Maen Gwyn yn Machynlleth mae bwyd ardderchog yna, mae'r rhai syn gweini yn ffeind iawn
Thu Jul 14 14:28:33 2005
Ynyr Edwards Machynlleth
Fy hoff le i fwyta yw Rhyd y Pennau yn Bow street!!!
Thu Jul 14 14:28:15 2005
Owen Glyn, Derwen las
Rwyn credu bod y Sginners yn lle da i fynd i fwyta gan fod yna ddigon o ddewis, ac mae'r staff ohyd yn gyfeillgar.
Thu Jul 14 14:27:18 2005
Eurgain Evans Machynlleth
fy hoff le bwyta allan yn machynlleth yw y lle pizza yn y winstay!!
Thu Jul 14 14:26:47 2005
Rhian Jones o Fachynlleth
Rwyn hoffi mynd i BJ I fwyta oherwydd maen't yn flasus!!
Thu Jul 14 14:25:33 2005
Glesni Jarman o Fachynlleth
Mae BJ Bistro yn lle gwych i fwyta allan yn Fachynlleth mae yn gwneud bwydydd anghygoel a blasus hefyd!!!!
Thu Jul 14 14:24:32 2005
Eilise Gregory o Machynlleth
Dwi yn hoffi mynd i fwyta yn lle or enw BJ'S oherwydd mae o'n flasus iawn!!!
Thu Jul 14 14:23:44 2005
Osian Pryce o Aberangell
Y lle gorau rydw i yn meddwl i fwyta allan yw'r Brigands Inn yn Mallwyd oherwydd mae bwyd blasus yno.
Thu Jul 14 14:05:51 2005
Dafydd Huw o Fachynlleth
Brigons Inn ydi fy hoff le i am ei fod yn le hardd a gwasanaeth da , bwyd neis ond braidd yn ddrud.
Thu Jul 14 14:03:30 2005
Lisa Humphreys Machynlleth
Rwy`n hoffi mynd i Llety Parc yn Aberystwyth oherwydd mae`r bwyd yn ardderchog ac mae`r pobl sy`n gweithio yno mor neis!
Thu Jul 14 14:01:52 2005
Elan o Machynlleth
Mae'r cig yn flasus iawn o'r siop cigydd MORGANS yn Aberystwyth,ac mae yna fachgen realy neis yn gweithio yna o'r enw Elfyn ac mae Huw o dosbarth fi yn gweithio yna hefyd!!!
Thu Jul 14 12:48:57 2005
Rhys Jones, Cemaes
Llew Du Derwenlas
Thu Jul 14 12:46:46 2005
Carrie o Machynlleth
Hoff le i bwyta yw Carltons yn Aberystwyth neu burger king! mae'n blasus!!!!!!!!!
Thu Jul 14 12:43:24 2005
Steffan o Gwmllinau
Fy hoff le i gael bwyd ydi'r Llew Coch yn Dinas Mawddwy
Thu Jul 14 12:42:26 2005
sian lewis o fachynlleth
Mae'r bwyd yn caffi Bear Of Amsterdam yn Aberdyfi yn flasus IAWN! rydw i hefyd yn hoffi y britannia yn Aberdyfi a hefyd y Trefeddian Hotel
Thu Jul 14 12:42:25 2005
Lucy Drought, Machynlleth
Rydw i yn hoffi bwyta yn tafarn Derwenlas y Llew Du, achos mae yna bwyd neis yna.
Thu Jul 14 11:52:52 2005
Elfie Brocklehurst, Machynlleth
Fy hoff lle i fwyta allan yw y Llew Gwyn yn Mach achos mae y bwyd yn bril a dydi o ddim yn llawn o fwg sigaret.
Thu Jul 14 11:52:12 2005
katie johnson corris
dwyn hoffi mynd i Wildflower yn tredole
Thu Jul 14 11:50:10 2005
Rhodri Armstrong o Aberystwyth
Rydw i yn hoffi bwyta yn Llety Parc.
Wed Feb 2 12:27:02 2005
Mathew Evans , Aberystwyth
Rwy`n hoffi bwyta yn Llety Parc yn Llanbadarn Fawr oherwydd mae`r bwyd yn flasus iawn
Wed Feb 2 11:50:08 2005
Stephanie o Aberystwyth, o Drefechan
Carlton bron ar bwys Savers, mae'r bwyd yn neis iawn
Wed Feb 2 11:49:17 2005
Mari a Charlotte o Aberystwyth
Rydym ni yn hoffi Harry's a Le Figaro oherwydd mae'r bwyd yn flasus iawn, rydym yn ei argymyll i unrhywun!
Wed Feb 2 11:37:18 2005
Iwan o Aberystwyth
Wynnstay yn Machynlleth - mae'n eitha drud
ond mae o werth bob ceiniog.
Hefyd, mae'r Shilam yn Aberystwyth yn cynnig bwyd Indiaidd gwych!
Fri Jan 28 15:49:49 2005
Sioned o Gaerdydd
Bues am bryd o fwyd yn Le Figaro yn Aberystwyth dros y penwythnos - bwyd bendigedig wedi ei goginio yn berffaith, gwasanaeth da ac awyrgylch pleserus. Er ei fod ychydig yn ddrud, roedd y bwyd a'r awyrgylch yn cyfiawnhau hynny.
Mon Sep 13 12:18:04 2004