Taith gerdded Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud yn ardal Llambed ac am ddysgu mwy am gefn gwlad Ceredigion, beth am grwydro un o lwybrau cerdded y fro?
Llambed i Allt Goch
Mae nifer o lwybrau a thraciau coedwigoedd yn ymestyn am filltiroedd
i'r dwyrain o Lambed, gyda golygfeydd godidog o'r wlad. O Lambed mae'r llwybr yn mynd heibio cae'r clwb rygbi i gyfeiriad Coed Mount Pleasant. Mae'r llwybrau'n mynd heibio i sawl caer o Oes yr Haearn sef Castell
Olwen, Castell Allt Goch a Chastell Goetre.
Hyd: 6 milltir (10 km) o hyd yw'r llwybr hiraf er mae modd dewis llwybrau byrrach.
Cliciwch yma i fynd i wefan Twristiaeth Ceredigion am fwy o fanylion am y teithiau hyn ac i weld teithiau eraill yn yr ardal. Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol