大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llandysul
Brethyn Diwydiant gwl芒n
Datblygodd Drefach Felindre yn 1870 hyd 1930 o fod yn bentref tawel lle roedd bron dim byd yn digwydd i fod yn un o ganolfannau gwl芒n pwysicaf Cymru.
Cafodd y diwydiant gwl芒n ddylanwad economaidd, diwylliannol, a chymdeithasol ar Drefach Felindre ac fe ddaeth yn bwysig iawn yn y ffordd roedd y bobl yno yn byw. Roedd y lleoliad yn berffaith oherwydd y tair afon sef Bargoed, Bran ac Esgair yn pweru'r felin ac roedd digon o wl芒n a brethyn o'r ffermydd yn yr ardal i'w gael i ddefnyddio fel y defnyddiau crai.

Fe adeiladwyd rheilffyrdd ym Mhencader ac yn ddiweddarach yn Henllan i alluogi'r gwl芒n gael ei ddosbarthu i gymoedd y de. Roedd mwy o alwad am y gwl芒n yn Nrefach Felindre ac wrth iddynt ehangu yno roedd y felin ym Mhowys yn dirywio oherwydd diffyg trafnidiaeth. Felly roedd y diwydiant llechu yn fawr iawn yn y gogledd, y diwydiant glo yn y de ac yng Ngorllewin Cymru roedd y diwydiant gwl芒n a brethyn yn ffynnu. Fe barodd yr Oes Aur hyd at 1920 ond fe ddirywiodd ar 么l yr Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd y dirwasgiad.

Diwydiant Cartref
Hyd at 1870 y diwydiant cartref oedd yr unig math o ddiwydiant gwl芒n yn Nrefach Felindre. Roedd nifer fawr o deuluoedd yn manteisio ar hyn ac yn ei ddefnyddio fel ffordd arall o wneud arian. Roeddent rhan amlaf yn ffermwyr yn y dydd ond gyda'r nos byddent yn defnyddio'r defnyddiau crai i greu dillad, er enghraifft sanau a chrysau. Roeddent bron yn hunan gynhaliol ac enghraifft o deulu fel hyn oedd teulu'r Ogof.

Benjamin Jones oedd pennaeth y teulu ac roedd hefyd yn feistr. Roeddent yn gwerthu gwl芒n cyn i'r rheilffyrdd fodoli yn Henllan yn 1895 ac roedd y teulu cyfan yn teithio i Langyfelach bob wythnos. Byddent yno yn gosod stondin yn y farchnad ac yna yn gwerthu gwl芒n, brethyn a blancedi dros yr wythnos ac yna yn teithio yn 么l i Drefach Felindre.

Datblygiad y ffatr茂oedd
Datblygodd y ffatr茂oedd bach o'r cartref i bedair ffatri fawr. Enwau'r ffatr茂oedd oedd Ffatri Cambrian, Meirios, Square Hall a Cilwendeg. Roedd y Ffatri Cambrian ar hen safle gweithdy gwehydd. Roedd y ffatri yn cyflogi dros hanner cant o bobl, ac yn un o'r rhai fwyaf yn yr ardal, ac roeddent yn canolbwyntio yn bennaf ar werthu'r gwl芒n i ardaloedd diwydiannol y de. Ar 么l y t芒n yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf ailadeiladwyd rhannau o'r felin ac mae Ffatri Cambrian yn dal i gynhyrchu nwyddau allan o wl芒n heddiw.

Heddiw mae Amgueddfa Wl芒n Cymru wedi ei hadeiladu ar y safle. Mae'n cynnwys casgliad mawr o beiriannau a ddefnyddiwyd dros y canrifoedd diwethaf ac hefyd mae arddangosfa o luniau a hanes y diwydiant gwl芒n yng Nghymru yno. Ffatri Meirios oedd un o'r ffatr茂oedd mawrion arall a godwyd yn yr un cyfnod 芒 Ffatri Cambrian. Ar 么l i'r ffatri gael ei llosgi i'r llawr yn y dauddegau fe'i hailgodwyd ar raddfa lai. Fe'i chaewyd yn y pedwardegau ac ar adegau fe'i defnyddiwyd fel stordy. Roedd Ffatri Cilwendeg yn un o'r melinau mwyaf yn Drefach Felindre ac fe'i hadeiladwyd tua 1880.

Y perchnogion diwethaf oedd D. Williams & Sons ac fe'i caewyd i lawr yn y 1920au. Ffatri fawr a adeiladwyd yng nghanol Drefach Felindre yn nawdegau'r ganrif oedd Square Hall. Mae'n debyg fe'i hadeiladwyd ar safle melin flawd. Cafodd ei disgrifio fel 'Y Felin Isa' ac roedd gwehyddu llaw wedi cael ei gario allan yn y ffatri trwy'r bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Caewyd Square Hall yn 1957 ac fe'i defnyddir yn awr fel ystordy.

Amodau gwaith
Roedd yr amodau gwaith yn y ffatr茂oedd yn wael iawn. Roedd rhaid i'r gweithwyr a oedd yn cynnwys dynion, menywod a phlant weithio oriau hir ac yna derbyn cyflog bach. Roedd y merched yn israddol i'r dynion a byddent yn cael cosbau am siarad wrth weithio ac edrych allan trwy'r ffenestri. Bu cyfarfodydd gan y gweithwyr er mwyn ymdrin 芒'r anghyfiawnderau hyn.

Ar Hydref 8fed 1891 gwnaethant rybuddio'r meistri byddent yn streicio os na byddent yn cael eu trin yn well. Eu dymuniadau oedd gweithio 7am- 7pm, 2 awr i ginio, dim llai nag 1 swllt yr wythnos, prentisiaeth 3 mlynedd a dim rhaid i'r gweithwyr dalu dim mwy nag 1swllt y dydd am fwyd a llety. Nid oedd y meistri yn fodlon efo'r oriau gwaith felly aethant ar streic. Y broblem gyda ffatr茂oedd yn agos i'w gilydd oedd, os bydde gweithwyr yn cwyno a chael eu diswyddo yna byddent yn methu cael swydd mewn ffatri arall oherwydd bydde'r meistri wedi rhybuddio'r ffatr茂oedd eraill. Hefyd roedd t欧^ pob un o'r meistri uwchben yn edrych i lawr ar y ffatri. Bydde'r meistri yn gallu gweld yn union pwy oedd yn hwyr i'r gwaith. Hefyd roedd yn symboleiddio statws y meistri yn y gymdeithas.

Oes Aur y diwydiant gwl芒n yng Nghymru oedd rhwng 1914 a 1918 sef adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu galw mawr am nwyddau fel lifrau, menig a sanau ar y milwyr a oedd yn mynd i ryfel. Felly bu llawer iawn o waith i'r diwydiant gwl芒n yn y cyfnod yma. Er ei fod yn gyfnod llwyddiannus yn y 20au bu dirwasgiad mawr a diffyg masnach ar 么l cyfnod mor brysur. Bu'r ffatr茂oedd yn tyfu a thyfu yn yr Oes Aur ond ar 么l i'r galw am y gwl芒n ostwng roedd y ffatr茂oedd yn colli arian. Yn ystod yr adeg yma bu llawer o'r ffatr茂oedd yn cael eu llosgi lawr mewn cyfnod byr iawn. Roedd llawer yn credu mai ffordd allan oedd hyn trwy gael arian yswiriant er mwyn masnachu eto neu ddianc o'u problemau.

Bywyd cymdeithasol y cyfnod
Yn gyffredinol roedd bywyd hamdden a chymdeithas tu allan i'r ffatri yn dda. Roedd y Capel yn y pentref wedi gorfod cael ei ail-adeiladu i wneud lle i fwy o bobl. Yn y Capel roedd ysgolion Sul, ysgol g芒n, cymanfaoedd canu a'r Band Of Hope. Hefyd ffurfiwyd y Band Dirwest Urad Annibynnol y Rechabiaid, Dyffryn Bargoed. Roedd llawer o dimau Chwaraeon i gael, sef timau rygbi, p锚l droed, hoci a mabolgampau.

Roedd hefyd sioeau garddio, clybiau dram芒u, gwn茂o, gweithio basgedi, hela, billiards a dosbarthiadau nos i gael yn Nrefach. Roedd hyd yn oed C么r Meibion Bargoed Teifi yn bodoli. Roedd y tafarndai yn boblogaidd iawn, yn enwedig Gwesty'r Red Lion ac roedd Eisteddfodau a Charnifalau yn cael eu cynnal yn y pentref. Roedd sinema yn Nrefach Felindre - roedd hyn yn eithriad yn y gorllewin. Roedd effaith y rheilffyrdd wedi dod 芒 llawer o ddigwyddiadau hamdden y cymoedd i Drefach Felindre.

Gan Dafydd Rhys Evans, disgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Cliciwch yma i ddarllen am drip Adran Hanes Ysgol Dyffryn Teifi i'r Amgueddfa Wl芒n yn Drefach Felindre.

  • Cliciwch yma i ddarllen am hanes yr ardal


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Radio Cymru
    Trefi
    Lluniau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy