Mae gwaith Mary Lloyd Jones yn gyfarwydd i nifer o bobl ledled Cymru, ac mae'r ddynes, o Bontarfynach yn wreiddiol, yn un o'n hartistiaid amlycaf yn 2007.
Iaith Gyntaf
Yn yr arddangosfa yma, o'r enw 'Iaith Gyntaf' mae Mary Lloyd Jones yn cyflwyno i ni ddarnau 'tebygol' o'i allbwn creadigol. Mae them芒u megis perthyn, hunaniaeth ac iaith wastad wedi bod ar flaen meddwl Mary Lloyd Jones ac wedi ffurfio ysbrydoliaeth iddi i greu nifer o weithiau sydd i'w weld yng nghasgliadau preifat a chyhoeddus - Yr Amgueddfa Genedlaethol, Y Llyfrgell Genedlaethol ac yn y Cynulliad.
Y tro hwn, mae'r arlunydd wedi troi ei meddyliau at yr ieithoedd lleiafrifol sydd "mewn perygl, sef y Gymraeg a'i chwaer ieithoedd Llydaweg, Cernyweg, Gwyddeleg Iwerddon a Gaeleg yr Alban." Mae hyn yn thema sydd wedi cael ei drafod yn drylwyr eisoes, mewn papurau newydd, llyfrau, y teledu a ffilmiau Cymraeg.
Dim teimladau personol
Yn ei gwaith, nid yw'r arlunydd yn ymddangos fel ei bod yn mynegi unrhyw deimladau personol. Yn hytrach, mae'n sefyll yn 么l ac yn defnyddio dyfyniadau o werslyfrau a dywediadau enwog megis - "Back to front language". Trwy hyn mae'n llwyddo i sefyll yn 么l wrth y testun, a hynny yw'r ffactor sydd fwyaf aflonyddus am y gwaith yn yr arddangosfa yma, yn fy marn i.
Fe es i yno i weld ei gwaith hi - beth mae hi'n ei deimlo am y syniadau a'r them芒u y mae hi'n eu trafod. Yn erbyn y disgwyl cyflwynwyd dyfyniadau a hen ddywediadau, a ffeithiau roeddwn i'n ymwybodol ohonynt yn barod trwy fudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a rhaglenni cylchgrawn fel Wedi 3 a Wedi 7 ar S4C.
Hyd y gwelaf i, does dim byd newydd yma i bobl sydd yn gyfarwydd 芒'i gwaith - mae'r lliwiau bras, y siapau a'r 'casgliad o farciau' enwog yn awdurdodi pob cynfas, print a delwedd. Yn wahanol i nifer o'i chyn weithiau, mae Mary Lloyd Jones yn awr yn defnyddio llawer mwy o eiriau nag erioed o'r blaen, yr unig ffactor sydd wedi newid am y gorau yn ei gwaith yn fy marn i. Rydw i'n ffan o weld y defnydd o eiriau mewn lluniau - ac yn meddwl fod yna bwrpas i gynnwys naratif. Serch hynny, geiriau'r arlunydd ei hun yw'r geiriau rydw i am eu gweld.
Cyflwyniad teg
I bobl sydd ddim yn gyfarwydd 芒'i gwaith, mae'r arddangosfa yn gyflwyniad teg i'w darnau, ond nid oeddwn yn teimlo fod ei symudiad i mewn i ddull mwy modern o weithio - yr argraffiadau ar lino - gyda'r un effaith trawiadol ag oedd ei baneri ar ffabrig, oedd i'w weld mewn arddangosfeydd cynt. Y darnau sydd ar gynfas sydd yn aros fel ei darnau fwyaf llwyddiannus ym mhob llyfr ac arddangosfa ganddi hyd yn hyn.
Techneg newydd yn siom
Diwrnod trist fydd hi os fyddai'r arlunydd yn troi'n hollol ddigidol ac yn troi 'printiau ar lino' allan trwy'r amser. I fi roedd y dechneg newydd yma o weithio (oedd yn un o'r prif atyniadau i'r arddangosfa i mi yn y lle cyntaf) yn siomedig. Nid yn unig fod yr argraffiadau yn edrych fel cynfasau wedi colli eu gwynt, ond wrth hongian yn y gwagle arddangos roedden nhw'n edrych yn anniben ac yn edrych yn waeth fyth ger y cynfasau 'stretched' lliwgar a dymunol. Mae safon lliwiau'r argraffydd yn gadael y darnau i lawr, ac mae'n amlwg fod yr arlunydd wedi cymryd mesuriadau i gael yr effaith fod yr argraffiad yn edrych fel peintiad - yn anffodus y cyfrwng, y syniad a'r gorffeniad sydd yn methu lefelu gyda bywyd, enaid a mynegiant pur y gwaith llaw.
Dymunol i weld ffyrdd newydd
Roedd hi'n ddymunol i weld fod yr arlunydd yn ceisio ar ffyrdd newydd o weithio. Er ei bod hi'n brofiad dymunol i gael mynd at arddangosfa heb staff yn sefyll ym mhob cornel ac amddiffyniad laser yn creu rhwystrau annymunol rhwng y gynulleidfa a'r gwaith; roedd diffyg golau naturiol yn y gwagle arddangos yn cael effaith negyddol ar y gwaith - yn enwedig y sglein oedd yn cael ei greu gan olau artiffisial ar y printiau.
Problem arall gyda rhoi arddangosfa mewn sinema yw fod rhaid rhannu'r lle gyda phobl sydd yn mynd yno i ladd amser rhwng cyrraedd a'r ffilm yn dechrau. Gyda phobl yn cerdded o amgylch 芒 phopcorn yn disgyn allan o'r tybiau oedd yn llawer rhy fawr iddynt, ac eraill yn chwerthin ar y prisiau bach wrth gornel pob darn o waith, nid oeddwn i'n teimlo fy mod i am sefyll yno am lawer o amser.
Rydw i'n gobeithio fod yr arddangosfa yma yn gromlin ddysgu i'r artist, ac y bydd hi'n sylweddoli bod ei hen ffurf o weithio yn llawer mwy llwyddiannus. Eto, rydw i'n awyddus i weld os fyddai'r arlunydd yn symud ymlaen at them芒u newydd yn ei gwaith ac yn rhoi'r gorau i destunau sydd wedi troi'n hen ers cyfnod.
Gan Adam James o Landysul
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.