Ydy hysbysebion yn dylanwadu gormod?
Hysbysebion a'r amgylchedd.
Beth yn union yw hysbyseb?
Mae hysbyseb yn ffordd o gyhoeddi rhywbeth newydd sydd ar y farchnad i'r cyhoedd. Rhywle ble mae cynhyrchwyr yn medru denu sylw at eu nwydd, creu neges a dylanwadu'r cyhoedd i'w brynu.
Mae hysbysebion ym mhobman. O'r teledu, ar y we, llyfrgelloedd, hysbyslenni, bysiau, trennau, cownteri siop, clybiau nos hyd at y ff么n symudol. Mae pawb yn gorfod profi hysbysebu fel rhan o'u bywyd bob dydd a does dim modd ei osgoi yn ein cymunedau heddiw. Credaf mai hysbysebu yw'r system bropaganda mwyaf llwyddianus sydd mewn bodolaeth ac yn aml yn gallu arwain at broblemau. Rhaid derbyn y gall fod yn fygythiad i fywydau bobl.
R么l hysbysebu?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hollol hapus gyda'r hyn sydd ganddynt ac felly y cwestiwn yw, sut mae hysbysebwyr yn llwyddo i werthu mwy eto iddynt? Credaf yn gryf, yn yr oes hon, mae'n rhatach i daflu rhywbeth i ffwrdd a phrynu un newydd, yn hytrach na'i drwsio. Mae'n anhygoel faint o gynhyrch sydd yn y byd. Mae'r dewis e.e. o siampws a conditioners yn gwbl anhygoel - mae o leiaf 440 ar ein silffoedd! Sut mae penderfynu pa un sydd orau am y pris? Gyda ninnau a'n bywydau cyfforddus, sut mae ein perswadio i brynu?
Mae llawer o hysbysebion yn chwarae ar y syniad o hapusrwydd - dyna addewid gan hysbysebion - mae prynu'n ein gwneud yn hapus. Ond, rwy'n si诺r y cytunwch, nid yw hyn yn wir. Y pethau sydd yn wirioneddol ein gwneud yn hapus yw teulu, ffrindiau, cariad, amser hamddenol, arian a swydd dda. Dyna'r union bethau nad yw hysbysebion yn ei ddarparu! Ni fydd hysbysebion byth yn rhoi cariad, cyfeillgarwch a'r gallu i fod yn gymdeithasol. Felly sut mae hybysebion mor llwyddiannus?
Mae llawer o ffactorau o blaid ac yn erbyn hysbysebion. Yn gyntaf, o blaid hysbysebion, mae'n helpu cynhyrchwyr i werthu nwyddau ac yn gwneud elw iddynt, sydd o les iddyn nhw! Mae hysbysebion yn ffordd dda o rhoi gwybod i ni am y pethau newydd, diweddaraf sydd ar y farchnad. Mae hybyseb yn gyfleus ac yn hawdd i ni gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar werth.
Rwy'n si诺r y cytunwch bod hysbysebion yn gallu bod yn ddiddorol iawn ac yn gwneud testun sgwrs dda! Hefyd, ffactor arall sy'n gwneud hysbysebion yn dda yw y rhai sy'n ceisio codi arian at elusen e.e. hysbysebion RSPCA neu Oxfam. Credaf mai'r lle mwyaf poblogaidd am ddangos hysbysebion yw ar y teledu ac felly gan bod cymaint o bobl yn gwylio'r teledu mae'n debygol fydd llawer yn gweld yr hysbysebion hyn ac yn rhoi arian i'r elusen.
Wedi dweud hyn, nid yw pawb yn cytuno bod hysbysebion yn beth da. Yn amlwg maent yn ein gwthio i ffwrdd o hapusrwydd byd a gwerthoedd cymdeithasol, nid yw ein hapusrwydd byth yn gyflawn. 'Dydy'r hen ff么n byth yn ddigon da'. Credaf yn gryf bod hysbysebion yn ein siomi am yr hyn sydd gyda ni. Mae hysbysebion yn cyflwyno'r pethau diweddaraf i ni ac felly wrth i ni weld y nwyddau newydd hyn, mae'r hen rhai yn hen ac allan o ffasiwn. Credaf fod pwysau mawr ar bobl heddiw (yn enwedig pobl ifanc) i gael y pethau diweddaraf hyn er mwyn ffitio i mewn i gymdeithas. Ac hefyd i fod yn 'c诺l'.
Mae popeth erbyn hyn yn troi o amgylch hysbysebion - y we wedi newid o fod yn le i'r cyhoedd i fod yn llawn hysbysebion! Mae hysbysebion yn talu am y gynulleidfa e.e. ar y teledu ac mewn cylchgronnau.
Mae tristwch yn y ffaith mai pobl dlawd yn aml sydd angen y pethau sy'n cael eu hysbysebu, yr union rai na all fforddio'r pethau hyn. Nid yw hysbysebu'n system deg o gwbl. Mae'n rhoi pwysau anheg ar rieni i wario ar eu plant. Os yw esgid chwaraeon er enghraifft yn costio 拢50, mae 拢45 o hynny'n mynd i hysbysebu'r cynnyrch! Hefyd mae 80% o bris colur yn talu am yr hysbyseb!
Yr ydych fwy na thebyg wedi sylwi bod hysbysebion yn rhoi darlun anghywir o'r byd real ac yn annog pobli brynu nwyddau di-angen. Ffactor arall, pwysig pam mae hysbysebion yn ddylanwad gwael ar bobl yw eu bod yn gallu hybu arferion bwyta gwael, arferion sydd ddim yn iach.
Gan Katie Ann Briddon, Cross Inn, Llandysul
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.