"Mae mwy na dim ond llyfrau yma," oedd neges Iwan Bryn Jones wrth gael ei holi gan Hywel Gwynfryn ar gyfer 大象传媒 Radio Cymru.
"Mae pob math o wrthrychau - mae'r Llyfrgell yn debycach i amgueddfa ac oriel ac archifdy yn ogystal," meddai.
Ac yn sefydliad gyda'r nod "o warchod creiriai'r gorffennol ar gyfer yfory."
Ymhlith ei ddyletswyddau ef y mae trin, adfer a diogelu, rhai o'r miloedd o luniau sy'n cael eu cadw yno.
Yn ddiweddar etifeddodd y Llyfrgell gasgliad o gant o luniau o stiwdio y diweddar Kyffin Williams yn ewyllys yr arlunydd.
Rhestr o'r holl glipiau sain
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |