|
|
|
Canrif y Llyfrgell Blwyddyn o ddathlu sefydlu un o lyfrgelloedd mawr y byd |
|
|
|
Mae 2007 yn garreg filltir o bwys yn hanes y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hithau'n dathlu canmlwyddiant derbyn ei Siartr Brenhinol yn 1907.
Mae nifer o ddigwyddiadau diddorol wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn. gan gynnwys diwrnod agored ar Ionawr 27 pan fydd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru 2005-6, yn cynnal gweithdai a darlleniadau.
Hefyd, bydd cyfres o deithiau o gwmpas y Llyfrgell yn yn dangos y gwahanol gasgliadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno.
Yn bresenniol hefyd bydd dyn tywydd y 大象传媒, Derek Brockway.
Cydlynydd y Gweithgareddau Canmlwyddiant ydi Cyril Evans ac mewn llythyr at Gyfeillion y Llyfrgell dywedodd: "Byddwn nid yn unig yn edrych yn 么l dros ein hanes trwy gyfrwng arddangosfeydd a chyda cyhoeddi llyfr ond fe fyddwn hefyd yn cynnal gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo ac yn sicrhau
datblygiadau yn y Llyfrgell yn y dyfodol.
Un o brif ddigwyddiadau'r dathlu fydd arddangosfa'r canmlwyddiant, Yn y Lle Hwn lle bydd hynodion cenedlaethol fel Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Beibl William Morgan yn cael eu harddangos ochr yn ochr 芒 lluniau a ffotograffau a phaentiadau gan arlunwyr blaenllaw fel Kyffin Williams, Turner a David Jones.
Hefyd, cyhoeddir tair cyfrol yn darlunio hanes Cymru wedi ei seilio ar gasgliadau'r Llyfrgell - In This Place / Yn y Lle Hwn gan Trevor Fishlock a Mererid Hopwood.
Traddodi darlith Hefyd lluniwyd hanes a datblygiad pensaern茂ol y Llyfrgell gan y Dr Rhidian Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.
Ef hefyd fydd yn traddodi Darlith Diwrnod y Llyfr, Dinas a osodir ar fryn : canrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mawrth 1.
Y Llyfrgell hefyd, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru - sydd hefyd yn dathlu'i chanmlwyddiant - sy'n rhoi'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint, 2007, yn Yr Wyddgrug fis Awst.
"Ac er mwyn annog a meithrin ieuenctid, mae'r Llyfrgell yn noddi un o brif seremon茂au Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Shir G芒r hefyd," meddai Mr Evans.
Dangosir dwy gyfres deledu ar hanes y Llyfrgell a'i chasgliadau a bu cyfres o raglenni gyda Hywel Gwynfryn ar 大象传媒 Radio Cymru.
Bydd y llyfrgell hefyd yn cysylltu 芒 phrif lyfrgelloedd y byd gyda chyfarchion pen-blwydd ar ffurf dwy gerdd a gomisiynwyd gan Gwyneth Lewis.
i weld y rhestr gyflawn o weithgareddau.
|
|
|
|
|
|