|
|
|
Cyrraedd y cant Dathlu gyda baner, pibau a theisen |
|
|
|
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol yr hawl i'w galw ei hun yn un o lyfrgelloedd mawr y byd yn rhinwedd y ffaith fod ei chasgliadau mor amrywiol.
Dyna ymffrost y Dr Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, wrth agor arddangosfa canmlwyddiant y Llyfrgell, "Yn y Lle Hwn".
"Does yna ddim llawer o lyfrgelloedd cenedlaethol yn y byd a allai lwyfannu y fath arddangosfa eang am y rheswm mai dim ond ychydig iawn, iawn, o lyfrgelloedd sy'n casglu deunyddiau mewn cymaint o gyfryngau a ni," meddai.
O sawl gwlad Daeth negeseuon o sawl gwlad yn dymuno'n dda i'r llyfrgell, a enillodd ei siarter yn 1907, ar gyrraedd ei chant.
Ymhlith y gwledydd yr oedd Gwlad yr I芒, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Croatia, Y Bahamas, Estonia, Chile, Moldova a Gwlad Pwyl, Ywrci a Denmarc ac anfonodd Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ei chyfarchion mewn cerdd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Gorymdaith Man cychwyn y dathliadau ddydd Llun, Mawrth 19, 2007, oedd gorymdaith y tu 么l i faner y canmlwyddiant i seiniau cerddoriaeth y pibydd Cymreig, Ceri Rhys Matthews, gyda phawb yn ymgynnull wedyn yn Oriel Gregynog lle mae'r arddangosfa.
Yn ganolbwynt y gweithgareddau yr oedd siarter y llyfrgell ac un o'i thrysorau pennaf, Llyfr Du Caerfyrddin.
Darllenodd Mari Rhian Owen ddwy gerdd, Cymraeg a Saesneg, a gyfansoddwyd gan Gwyneth Lewis a thorrwyd cacen a oedd wedi ei gwneud gan un o weithwyr y Llyfrgell, Morfudd Nia Jones.
Dywedodd y Dr Green fod yr arddangosfa yn fodd i edrych ar y can mlynedd diwethaf yng Nghymru trwy lygaid casgliadau y Llyfrgell.
Llywydd yn canmol Wrth gyhoeddi'r arddangosfa'n agored talodd Llywydd y Llyfrgell, y Dr R Brinley Jones, deyrnged i ddychymyg, ysgolheictod ac ymrwymiad y rhai a sicrhaodd fod gan Gymru Lyfrgell Genedlaethol syu'n cael ei hystyried yn un o rai mawr y byd.
"Fe gofiwn ni haelioni'r cymwynaswyr ac arweiniad y swyddogion," meddai'r Dr Jones sy'n llywydd ers un mlynedd ar ddeg.
Tynnodd sylw arbennig at Syr John Williams - athro obstetreg a ffisegwr y Frenhines Victoria.
"Os bu ei fydwreicaeth erioed yn llwyddiant yr oedd hynny yng ngenedigaeth y lle hwn!" meddai.
Dyfynnodd ddisgrifiad newyddiadurwr o'r Llyfrgell fel"trysorfa y genedl , tarddiad ei chof a ffynnon ei dychymyg."
Ychwanegodd fod ein dyled yn enfawr i noddwyr oedd yn cynnwys g lowyr cyffredin Cymru.
Diolchodd hefyd am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.
Cychwyn cyffredin Wrth gael ei holi ar y radio rai dtddiau cyn y dathliadau tynnodd Andrew Green sylw at gychwyn digon distadl y Llyfrgell yn 1907:
"Pan gyrhaeddodd y llyfrgellydd cyntaf, John Ballinger, y cyfan oedd ganddo oedd ystafell wag a desg a chadair," meddai Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol presennol yn cael ei holi gan John Meredith ar 大象传媒 Radio Cymru.
"Ond o fewn ychydig flynyddoedd roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r adeilad presennol a symudwyd y Llyfrgell a'i chasgliadau yno yn 1916," meddai.
Ychwanegodd, fod cystadleuaeth "ffyrnig" rhwng Aberystwyth a threfi eraill - Caerdydd yn bennaf - i gartrefu'r Llyfrgell yn ystod y blynyddoedd yn arwain at 1907.
|
|
|
|
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|